Calon Afan

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd heddychlon i’n holl ffrindiau yn Castell-nedd Port Talbot a thu hwnt.

Mae ein prosiect anhygoel, Afan Erioed 2, bellach wedi dod i ben, a byddwn yn brysur wrthi’r flwyddyn nesaf yn sefydlu ymchwil, archwilio a phethau hwyliog newydd i’w gwneud i ddathlu ein treftadaeth wych.

Ac efallai parhau â rhai o’r gweithgareddau gwych a ddechreuon ni’r hydref hwn!

Cadwch lygad allan am hyn!

Ysgrifennu Creadigol: Straeon i Swyno

Gweithdai gyda Sally Roberts Jones

Oes stori gyda chi, hoffech chi allu ei rhannu? Neu, ai egin lenor ydych chi, yn awyddus i sgleinio’ch sgiliau? Os felly, ymunwch â ni mewn cyfres cyffrous o weithdai ysgrifennu creadigol bydd yn eich helpu i ddatblygu eich doniau llenorol.

Creu Cerddoriaeth sy’n tarddu mewn Chwedlau a Mytholeg

Ymunwch a Aneirin Jones a Delyth Jenkins

Ydych chi’n chwarae cerddoriaeth? Ydy chwedlau a hanesion breuddwydiol Cymru yn eich cyffroi? Ydych chi’n hoffi’r syniad o greu a threfnu alawon? Ac ydych chi’n mwynhau ganu cerddoriaethiaeth gydag eraill?

Os felly, ymunwch â ni mewn cyfres cyffrous o weithdai cerddoriaeth creadigol, bydd yn eich helpu i ddatblgu eich doniau cyfansoddi alawon, archwilio cysylltiadau cerddoriaeth Cymreig â storïo, a chanu cerddoriaeth hyfryd mewn grŵp cyfeillgar.

Theatr Mytholeg a Chwedlau: Gweithdai

Ymunwch â chyfarwyddwr drama Helen John am gyfres o weithdai cydweithrediadol drama, pan bydd cyfle cyffrous i chi ddatblygu eich sgiliau actio, ac yna archwilio straeon a chwedlau lleol.

Chwedlau Amser rhwng Amseroedd

Ymunwch a Owen Staton sylfaenydd podcast The Time Between Times

Ymunwch â Owen Staton – cyflwynydd podcast rhyfeddol The Time Between Times – am gyfres o weithdai adrodd stori wedi’i chynllunio i ddatblygu eich sgiliau perfformio.

Breuddwydion Rhwng Bydoedd: Gweithdai Dawns

I blant 8 – 12 oed

Yn galw sêr dawns y dyfodol rhwng 8 a 11! Ymunwch â ni am gyfres o weithdai ble cewch archwilio chwedlau ein hardal ni wrth symud a chreu!

Camu i’r Gorffennol: Teithiau Cerdded Tywys

Dirgelion Mynydd Dinas

Ymunwch â Geoff, ecolegydd, a Tim, hanesydd lleol, am dro o amgylch llwybrau’r mynydd. Byddant yn datgelu cyfrinachau’r Mynydd wrth i chi grwydro ei lethrau.

Calon Afan

Yn Cyflwyno Calon Afan – Cwmni Buddiant Cymunedol

Rydym yn gweithio i hybu treftadaeth a hanes unigryw llai adnabyddus Port Talbot a Dyffryn Afan.