Mae Afan Erioed 2 yn parhau â chenhadaeth Calon Afan i ddarganfod a dathlu treftadaeth gudd Port Talbot a Dyffryn Afan. Yr hydref hwn byddwn yn datgelu’r ffeithiau hanesyddol cudd, cymeriadau lliwgar a straeon anhygoel, pob un yn cael ei archwilio trwy ddau brosiect: ‘Chwedlau’, a ‘Mynydd Dinas’.
Yn ‘Chwedlau’ bydd mythau a chwedlau’r ardal yn ysbrydoli gweithdai celfyddydau mewn drama, dawns, cerddoriaeth, adrodd straeon ac ysgrifennu creadigol, pob un dan arweiniad ein hymarferwyr proffesiynol. Bydd perfformiad cyhoeddus yn y Plaza ar 22 Tachwedd i ddathlu’r gwaith rhyfeddol rydyn ni i gyd yn ei gynhyrchu yn ystod y gweithdai.
Ar gyfer ‘Mynydd Dinas’ bydd teithiau cerdded tywys a gweithdai canfod metel ar ein mynydd lleol, unwaith eto dan arweiniad ein staff profiadol ac arbenigol, yn datgelu rhai o gyfrinachau hanes a bywyd gwyllt cudd yn y bryniau.
Mae Calon Afan unwaith eto yn rhoi’r ardal ar y map ar gyfer ein treftadaeth ddirgel a chyffrous.
Chwedlau
Mynydd Dinas
Guided Walks
Cynhelir y gweithdai celfyddydau, y mae’r rhan fwyaf ohonynt ar agor i unrhyw un ymuno â nhw, yn hen ac yn ifanc, mewn lleoliadau canol tref, sy’n hawdd eu cyrraedd. Cynhelir gweithgareddau ar y Mynydd, sy’n addas i deuluoedd, o fewn pellter cerdded i le parcio, a gellir trefnu lifftiau i’r rhai heb gludiant.
Gellir trefnu mynediad i’r anabl i’r holl weithgareddau hyn yn ôl y gofynion.