Theatr Mytholeg a Chwedlau: Gweithdai

Galwad i bob Actor!

Dyfeisio a Pherfformio Theatr Wreiddiol

Ymunwch â chyfarwyddwr drama Helen John am gyfres o weithdai cydweithrediadol drama, pan bydd cyfle cyffrous i chi ddatblygu eich sgiliau actio, ac yna archwilio straeon a chwedlau lleol.

Gan dynnu ar ein storis a mytholeg lleol rhyfeddol, cewch gyfle i gydweithio gyda pherfformwyr eraill, gan grefftio a chreu perfformiad newydd bydd yn rhannu’r straeon gyda’ch cynulleidfa, ac hefyd i berfformio mewn sioe arbennig iawn yn y Plaza, Port Talbot, ar ddiwedd y prosiect!

Does dim angen profiad, felly ymunwch â ni am gyfres o weithdai cyffrous!

I archebu, e-bostiwch: contact@calonafan.org

Cynhelir yn San Portablo Arts (Officer’s Club), Canolfan Siopa Aberafan – Mynediad drwy’r maes parcio wrth y cefn

Ddydd Iau Hydref 2il 6.30 – 8.30 yh
Ddydd Iau Hydref 9fed 6.30 – 8.30 yh
Ddydd Iau Hydref 16ain 6.30 – 8.30 yh
Ddydd Iau Hydref 23ain 6.30 – 8.30 yh
Ddydd Iau Tachwedd 6ed 6.30-8.30 yh
Ddydd Iau Tachwedd 13eg 6.30-8.30 yh
Ddydd Iau Tachwedd 20fed 6.30-8.30 yh