Ysgrifennu Creadigol: Straeon i Swyno
Gweithdai gyda Sally Roberts Jones
Cael eich Ysbrydoli gan Chwedlau Lleol a Storiwyr
Oes stori gyda chi, hoffech chi allu ei rhannu? Neu, ai egin lenor ydych chi, yn awyddus i sgleinio’ch sgiliau? Os felly, ymunwch â ni mewn cyfres cyffrous o weithdai ysgrifennu creadigol bydd yn eich helpu i ddatblygu eich doniau llenorol.
Cenedl storïwyr yw Cymru, ac mae ein hanesion am y Brenin Arthur, Merlin y dewin, a’r Mabinogi, yn fyd-enwog.
Ond mae storis eraill hefyd, sy’n tarddu o’n cymoedd ni yma, llawn hud a rhyfeddodau, ond yn llai adnabyddus. Yn ein gweithdai, edrychwn ar rain a gweld sut y gallwn ni eu dehongli nhw hefyd fel chwedlau i swyno’r byd.
Ymunwch â’n hawdur lleol hoff, Sally Roberts Jones, mewn cyfres o sesiynau, pan bydd hi yn eich helpu i sgleinio eich crefft fel llenor ac i adrodd eich stori yn eich modd eich hun. ‘Does dim angen profiad, dim ond eich brydfrydedd, llyfr nodiadau a phin!
I archebu, e-bostiwch: contact@calonafan.org
Cynhelir yn San Portablo Arts, Canolfan Siopa Aberafan, SA13 1PB
Ddydd Iau Hydref 2il 2.00 – 4.00 yp
Ddydd Iau Hydref 9fed, 2.00 – 4.00 yp
Ddydd Iau Hydref 16ain, 2.00 – 4.00 yp
Ddydd Iau Hydref 23ain 2.00 – 4.00 yp
Cynhelir yn Festri Capel Carmel,SA13 1PQ
Nos Lun Hydref 6ed 6.30 – 8.30 yh
Nos Lun Hydref 13eg 6.30 – 8.30 yh
Nos Lun Hydref 27ain 6.30 – 8.30 yh