Afan Cudd
O bryd i’w gilydd mae’r mwyafrif o athrawon yn teimlo eu bod am gyflwyno pwnc i’w disgyblion ac nid oes ganddynt yr amser neu’r adnoddau i’w drafod mewn modd effeithiol. Ein gobaith yw y byddwch yn credu bod yr adnodd dysgu hwn yn ddefnyddiol. Fe allai fod yn addas ar gyfer holl ysgolion ardal Port Talbor, boed ysgolion cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg.
Mae’r Pecyn Adnoddau yma’n cael ei gynnig gan Galon Afan, cwmni a ffurfiwyd i hyrwyddo hanes Port Talbot a Chwm Afan, oherwydd ein bod wedi darganfod storïau hudolus am fywyd yn yr oesoedd canol yn ardal Port Talbot a Chwm Afan, a bydden ni wrth ein boddau pe byddai plant yn deall mwy am hanes cynnar yr ardal y maen nhw’n byw ynddi, sef eu ‘bro’ neu ‘filltir sgwâr’. Mae’r pecyn wedi’i ysgrifennu gan bedwar athro, ac ‘rydym o’r farn bod yr hanes hwn yn gallu ennyn diddordeb o gwmpas yr elfen o Gynefin yn y Cwricwlwm i Gymru, ac yn annog adeiladu sgiliau.
Mae hanes colledig Tywysogion Afan, ac yna Arglwyddi Afan, a oedd yn dal y tir o’ môr i Hirwaun, a rhwng afonydd Afan a Nedd, o 1094 tan fod eu llinach yn darfod yn y 14eg ganrif, yn un eithaf rhyfedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, yn gyntaf oll drwy frwydro a chynghreirio gyda theuloedd Cymreig eraill, ac yna drwy ddiplomyddiaeth a chydbriodi, roeddent wedi llwyddo cadw eu tiroedd, sef cyflawniad unigryw yn ystod y cyfnod hwnnw a welodd y mewnlifiad Normanaidd cynnar a gormes EinglNormanaidd.
Mae’r pecyn yn cynnwys peth deunydd crai gwreiddiol, gyda chyfeiriadau URL at gyfres o erthyglau a gyhoeddir ar wefan Calon Afan, a sy’n hygyrch iawn ar gyfer ymchwil gan athrawon; rhai chwedlau, storïau ac adnoddau i athrawon, a’r cyfan yn Saesneg a Chymraeg. Mae’n awgrymu ffyrdd o gyrchu hanes lleol anhygoel Port Talbot a Chwm Afan, ac yn cynnwys smörgåsbord o syniadau ac awgrymiadau o strategaethau ynghylch y ffordd y gall y gwaith o gwmpas ‘cynefin’ gael ei ddefnyddio yn yr ystafell dosbarth yn Saesneg a/neu yn Gymraeg.
Mae’r pecyn wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio yn bennaf gyda phlant Cyfnod Allweddol 2 yn bennaf; serch hynny, mae’n bosibl addasu neu deilwra’r rhan fwyaf o’r syniadau ar gyfer plant hŷn neu ifancach yn ôl oed a gallu’r plant gan yr arbenigwyr sy’n eu hadnabod; yr athrawon.
Er ei fod yn ymdebygu tipyn i gist trysor, mae’r pecyn mewn tair adran: gweler y Cynnwys isod am restr gyflawn o’r hyn y mae’n cynnwys. Gobeithiwn y bydd yr hyn y byddwch yn ei ddarganfod yn ddefnyddiol, ac yn eich ysbrydoli. Ond, pwy a wyr beth
arall sydd i’w ddarganfod!
Os byddwch yn dod ar draws unrhywbeth arall, rhowch wybod i ni Ebostiwch ni trwy’r ffurflen cysyllt neu ein ebost ar:
contact@calonafan.org
- Afan Cudd
- Adran 1: Nodiadau i Athrawon – 3 llyfryn A5 sy’n cynnwys awgrymiadau am ddulliau creadigol o ddadansoddi’r deunydd
- Adran 2: Deunyddiau Hanesyddol – Gwybodaeth i Athrawon: Tywysogion Afan a Gwybodaeth i Blant ar Fywyd Canoloesol
- Adran 3: Adnoddau ar Gyfer y Dosbarth