Llwybr Etifeddiaeth Tref Port Talbot
- Golygfan 1: Capel Carmel, Glan yr Afan
- Golygfan 2: Sgwâr Bethany
- Golygfan 3: Ysgol Glanafan
- Golygfan 4: Gwesty’r Grand
- Golygfan 5: Y Plaza
- Golygfan 6: Sgwâr yr Orsaf
- Golygfan 7: Pont Aberafan (Rhestredig Gradd II)
- Golygfan 8: Y Sgwâr Dinesig
- Golygfan 9: Canolfan Siopa Aberafan
- Golygfan 10: Mynwent y Santes Fair
- Credydau
Golygfan 9:
Canolfan Siopa Aberafan
Tan ganol yr 1970au dyma oedd Stryd Dŵr, Stryd yr Eglwys, Lôn Walnut Tree ayyb. Cyfres roedd o strydoedd prysur llawn siopau, gwestyau, capeli, y neuadd dinesig, theatre a’r farchnad.
Gwesty’r Castle Hotel a’r Oddfellows Arms
Mae’n hawdd anghofio taw tref farchnad oedd Aberafan yn wreiddiol, yn llai o faint na Chastell Nedd neu Benybont ar Ogwr, ond dal yn lle prysur. Yr hen enw ar Sgwâr Talbot oedd Cattle Street, ac roedd yno Butter Street a Duck Street, (a drodd yn ddiweddarach, yn rhyfedd ddigon, yn Duke Street!) a does dim dwywaith roedd eraill, yn y cyfnod cyn y cafodd marchnad wartheg go-iawn ei darparu ar safle ger Eglwys y Santes Fair, sydd erbyn hyn yn faes parcio: (Gweler 10). Yn nes ymlaen, roedd marchad mawr o dan dô ar safle’r farchnad wartheg yn Strade y Dŵr.
Marchnad dan dô Aberafan, Strade y Dŵr
Strade y Dŵr 1905
Fel daeth ceir yn fwy cyffredin, adeiladodd traffig yn yr ardal bywiog siopa hwn. Yn y 70au cynnar fe chwalwyd er mwyn gwneud lle am y ganolfan siopa a maes parcio.
High Street yn y 1950au.
Ewch allan o’r Ganolfan Siopa drwy’r mynediad ar ochr de Siop Coffi Costa a cherddwch tuag at Eglwys Santes Fair.
Building of new chapels to replace those demolished in 1974
Carmel Chapel (L) and Strade y Dŵr Chapel (R)
Yn y man lle y mae Canolfan Siopa Aberafan yn agor allan i’r ardal ger y rheilffordd bu safle Adeiladau Trefol y Bwrdeisdref, a agorwyd yn 1915.
Cerddwch drwy’r maes paarcio ar ochr Eglwys y Santes Fair; ar un pryd, y farchnad warthog oedd hon. Tu hwnt iddo, ar ochr arall y rheilffordd, oedd y farchnad dan-do, erbyn hyn safle tacsis a maes parcio, o hyd yn Strade y Dŵr.
Os byddwch yn cerdded heibio’r safle byddwch yn dod ar draws Eglwys y Santes Fair. A canfod yr arwydd côd QR ar wal y fynwent ger y gât.
Eglwys Santes Fair Y Forwyn Eglwys yng Nghymru, Port Talbot