Llwybr Etifeddiaeth Tref Port Talbot
- Golygfan 1: Capel Carmel, Glan yr Afan
- Golygfan 2: Sgwâr Bethany
- Golygfan 3: Ysgol Glanafan
- Golygfan 4: Gwesty’r Grand
- Golygfan 5: Y Plaza
- Golygfan 6: Sgwâr yr Orsaf
- Golygfan 7: Pont Aberafan (Rhestredig Gradd II)
- Golygfan 8: Y Sgwâr Dinesig
- Golygfan 9: Canolfan Siopa Aberafan
- Golygfan 10: Mynwent y Santes Fair
- Credydau
Golygfan 1:
Capel Carmel, Glan yr Afan
Mae’r llwybr yn cychwyn ger Capel Carmel, Glan yr Afon, Port Talbot SA13 1PQ. Fan hyn gallwch parcio ym maes parcio Talu ac Arddangos drws nesaf. Bydd y Llwybr yn eich arwain o gwmpas Canolfan y Dre via Mannau Ffafriol 1 – 10.
‘Rydym yn dechrau’n taith gyda dau gapel modern, Carmel a Riverside, a adeiladwyd yn lle’r adeiladau ar ochr arall yr afon, adeiladau a gollwyd pan ddymchwelwyd hen dref Aberafan yn yr 1970au i greu lle ar gyfer Canolfan Siopa Aberafan.
Chwith: Eglwys Bresbyteraidd Carmel
De: Capel y Bedyddwr Saesneg Glan yr Afon
Y capeli heddiw
Adeiladwyd Riverside yn lle Capel y Bedyddwyr, Stryd Ddŵr, adeilad cymharol fodern; Carmel, a sefydlwyd yn 1810, oedd y Capel Anghydffurfiol cyntaf a godwyd yn yr ardal. Bu cysylltiad agos rhwng y capel a chynulleidfa Ysgubor Dyffryn, Taibach ac, erbyn hyn, mae dwy gofeb o Ddyffryn wedi’u gosod yng nghyntedd Carmel. Mae un ohonynt yn coffáu Evan Griffiths, a oedd wedi gadael arian i Ysgolion Sul y ddau gapel.
Yr hen Eglwys Bresbyteraidd Carmel
De a’r hen Capel y Bedyddwr Saesneg, Strade y Dŵr
Dafydd y Gwehydd oedd athro Ysgol Sul Carmel pan roedd Dic Penderyn yn fachgen, a buodd ei wraig Maryb (Macws y Gwehydd), gofalydd Carmel, yn edrych ar ôl bedd Evan Griffiths.
(Gweler Golygfan 10 am ragor am Dic Penderyn)
Cerddwch heibio’r capeli ac yna trowch i’r dde ar hyd rhes o siopau ar eich llaw dde. Bydd yr Afon Afan ar y chwith. Ewch ymlaen tuag at Heol yr Orsaf (ardal i gerddwyr erbyn hyn)
Ar y gornel ar y dde, lle mae Swyddfa’r Post erbyn hyn, roedd Tafarn yr Aradr; yn y 18fed ganrif hwn yn yr un o’r ychydig iawn o adeiladau a oedd yn bodoli ar yr ochr yma o’r afon Afan.
Dywedir bod Howell Harris, y diwygiwr o’r 18fed ganrif, wedi stopio yma i bregethu pan ddaeth i’r dref. Roedd landledi Plough Inn, a oedd yn gefnogol iddo, wedi cynnig stol iddo i’w defnyddio fel llwyfan, ond roedd ei gŵr, nad oedd yn gefnogol o Harris, wedi rhuthro arall a thynnu’r stol ymaith. Aeth hyn ymlaen am gyfnod, y stol allan, y stol yn ôl i’r dafarn, nes i’r gŵr ildio yn y pendraw a rhoi llonydd i Harris bregethu’i bregeth.
Yn anffodus, ‘does dim llun o’r Plough Inn.
Wrth nesáu at y Bont dros Afon Afan ac Heol yr Orsaf, edrychwch i’r chwith:
A gweld un o sawl prosiect celf cyhoeddus, y Gweithiwr yn yr Olwyn, gan Sebastian Boysen, yn dathlu hanes diwydiannol y dref. Pan yn sefyll yma gallwch weld safle hen sinema’r Odeon/Majestic, un o’r chwech sinema a fu ar un adeg yng nghanol y dref – adeiladwyd siop Tesco ar ran o’r safle.
Sinema Odeon / Majestic
Yn Heol yr Orsaf, croeswch yr heol i’r ochr draw a trowch i’r dde I Bethany Square, wrth ymyl Capel Bethany, wedi’i gau ers amser maith. Bydd côd QR ar gornel Forge Road, ar golofn y tu fas i’r Principality Building Society