Llwybr Etifeddiaeth Tref Port Talbot
- Golygfan 1: Capel Carmel, Glan yr Afan
- Golygfan 2: Sgwâr Bethany
- Golygfan 3: Ysgol Glanafan
- Golygfan 4: Gwesty’r Grand
- Golygfan 5: Y Plaza
- Golygfan 6: Sgwâr yr Orsaf
- Golygfan 7: Pont Aberafan (Rhestredig Gradd II)
- Golygfan 8: Y Sgwâr Dinesig
- Golygfan 9: Canolfan Siopa Aberafan
- Golygfan 10: Mynwent y Santes Fair
- Credydau
Golygfan 4:
Gwesty’r Grand
Wedi’i adeiladu, yn ôl pob sôn, i edrych mor annhebyg â phosib i dafarn, fe’i codwyd ar dir Stâd Margam. Roedd teulu’r Talbotiaid yn anfodlon caniatáu tafarndai ar eu tir ond, gyda thwf Port Talbot, roedd galw mawr am fannau preswyl ar gyfer ymwelwyr busnes.
Trosglwyddwyd y drwydded o Dafarn yr Eryr (gweler yr adran nesaf), a oedd yna wedi troi’n westy dirwest. Er bod cyfoeth o dafarndai yn Aberafan/Port Talbot, roedd tipyn llai o fannau preswyl ar gyfer teithwyr, ac mae’r Grand, drws nesaf i Orsaf Ganolog y Rheilffordd, wastad wedi bod yn un o brif westai’r dref.
Gwesty’r Grand
Gwesty’r Grand Hotel cyn ail-lunio Sgwar yr Orsaf
Yn rhedeg wrth ochr Gwesty’r Grand mae Lôn Oakwood, yn wreidddiol un o’r tramffyrdd yn arwain lawr o’r gweithfeydd a’r pyllau glo yng Nghwmafan. Ychydig lathlenni i fyny’r lôn mae adeilad, nad yw’n weladwy ar unwaith, lle y cynhaliwyd gweithgareddau cymundeol megis grwpiau chwarae a dosbarthiadau addysg oedolion; yna, fe drodd yn ganolfan cynnal gweddïau dydd Gwener ac, yn olaf, yn Fosg llawn, wedi’i ariannu gan y gymuned Fwslemaidd leol.
Mosg Port Talbot
Mae’r bloc o fflatiau ar ochr arall y lôn yn dynodi safle Eagle House.
Golygfa Gwesty’r Grand, Oakwood Lane gydag Eagle House ar y dde.
EAGLE HOUSE
Erbyn hyn yn floc o fflatiau newydd eu hadeiladu, dyma oedd yr adeilad masnachol hynaf i oroesi ym Mhort Talbot. Wedi’i adeiladu yn 1857 yn wreiddiol, roedd yn weithdy i Rees Roderick, y prif saer maen lleol; yna, adeiladodd Roderick dŷ ar y safle. Mae’n debyg taw ei gyfleustra at yr orsaf rheilffordd newydd a’r dociau a arweiniodd at ei newid, yn raddol, yn Dafarn yr Eryr, gan gynnig lletygarwch i deithwyr mewn ardal na welodd llawer o ddatblygiad tan yn hwyrach yn yr 1800au.
Ar ôl 1890, wedi i Miss Emily Charlotte Talbot etifeddu stâd Margam, trosglwyddwyd y drwydded i Westy newydd y Grand, a throdd yr adeilad yn westy dirwest (roedd y Talbotiaid yn gefnogwyr brwd o’r Mudiad Dirwest). Er nad oedd yn llwyddiant mawr, parhaodd i weithredu fel gwesty tan o leiaf yr 1920au. Wedi hynny roedd yr adeilad a’i dai m’as yn gartref i amrywiol fusnesau bychan; bu’n swyddfa Stâd Margam am gyfnod, yna’n swyddfa cwmni John D. Wood, sef asiant lleol Ymddiriedolaeth Margam.
Yn 1941 gwasanaethodd fel pencadlys Sgwadron 499, y Corfflu Hyfforddiant Awyr. Prif Swyddog y sgwadron oedd P.H. Burton sydd, wrth gwrs, yn fwy enwog fel Philip Burton, athro y Richard Burton ifanc, un o aelodau’r sgwadron. Er i yrfa Philip Burton gychwyn ym Mhort Talbot, aeth ymlaen i fod yn ffigwr pwysig ym myd y ddrama ym Mhrydain ac yn yr Unol Daleithiau. Sylfaenodd cymdeithas drama yr YWCA, wedi cynnwys aelodau’r sgwadron mewn nifer o gynhyrchiadau amatur, gan gynnwys drama radio a berfformiwyd ar Wasanaeth Cartref radio’r BBC yn 1941, a chynhyrchiad o ‘Youth at the Helm’ yn Neuadd yr YMCA. Mae’n siwr bod y fath weithgareddau’n gwbl anarferol i Sgwadron yr ATC!
Ar yr adeg honno roedd Richard Burton ifanc (a oedd dal i gael ei adnabod fel Richard Jenkins) yn aelod o’r sgwadron, ac wedi perfformio yn ‘Youth at the Helm’. Yn ddiweddarach, roedd wedi mabwysiadu cyfenw ei athro a phrif swyddog, P H Burton a daeth yn seren byd-enwog.
Richard Burton 1956
Er i’r adeilad newid tipyn dros y blynyddoedd, roedd dal yn safle nodweddiadol, ac yn asio’n dda gyda Gwesty’r Grand a’r Plaza adferedig. Cafodd ei ddymchwel ym mis Ebrill, 2023, er mwyn creu gofod ar gyfer bloc o fflatiau.
Gallwch ddarllen hanes llawn yr adeilad yn: http://history.seanpursey.co.uk/eagle-house/
Am ragor o wybodaeth am Philip Burton ac actorion ym Mhort Talbot, darllenwch: The Actors’ Crucible, gan Angela Vaughan John, Parthian, 2015
Eagle House cyn iddo gael ei ddymchwel yn 2023
Roedd yr ardal gyferbyn â Gwesty’r Grand wedi gweld newidiadau mawr yn yr 1970au, pan gafodd y ffordd gylchol / y drosffordd eu hadeiladu. Dymchwelwyd adeilad gwreiddiol Swyddfa’r Post ac ychydig siopau, gan adael ardal agored, gyda choed a meinciau. Yn fwy diweddar, mae’r ardal wedi’i hail-ddatblygu unwaith eto; mae patrwm yr heolydd wedi newid ac, erbyn hyn, mae’r ardal rhwng Gwesty’r Grand a gorsaf y rheilffordd yn ofod sy’n cynnwys piazza palmantog mawr, y mae modd ei ddefnyddio i gynnal digwyddiadau, marchnad awyr-agored ayyb.
Parhewch i gerdded ar hyd y prif ffordd, sy’n newid i Talbot Road
GORSAF DERMINWS RHEILFFORDD Y PORT TALBOT RAILWAY AND DOCK COMPANY
Drws nesaf i gyn-leoliad Eagle House oedd terminws llinell rheilffordd y PTRDC.
The old station of the PTRDC railway
Adeiladwyd y lein, a sefydlwyd yn 1894, ac a fu’n arfer cylchu o gwmpas Cae Rygbi Aberafan, i gludo traffig mwynau i’r dociau o Gwm Ogwr a Chwm Garw, a chysylltu Maesteg gyda Phort Talbot. Agorodd y brif lein yn 1897; er taw cludo nwyddau oedd ei brif fusnes, roedd hefyd yn cario teithwyr.
Daeth y gwasanaeth i deithwyr i ben erbyn 1933; bu gostyngiad araf yn y traffig mwynau a chaeodd y rhwydwaith rheilffordd, ag eithrio rheilffyrdd y dociau, rhwng 1964 ac 1967. Roedd yr adeiladau dal yno tan o leiaf 1970, er bod y safle wedi’i guddio y tu ôl i wal gyda hysbysfyrddau ar ei phen. Erbyn hyn, mae bloc o fflatiau wedi’i adeiladu ar y safle.
Gan cerdded ar hyd Talbot Road ar y chwith bydd eich arwydd côd QR nesaf ar y Plaza Newydd: 5.
Sinema Plaza pan dal yn sinema