Golygfan 10:

Mynwent y Santes Fair

Er bod eglwys bresennol y Santes Fair ond yn dyddio o 1858, mae un o amgylchynau ffenestr yr eglwys ganoloesol wedi’i gynnwys yn un o walydd yr eglwys, tra bod cyntedd eglwys y Santes Fair yn cynnwys beddfaen ganoloesol. Mae sylfaen croes y dref ger y cyntedd.

Eglwys ganoloesol y Santes Fair cyn y llifogydd, dymchwel ac ail-adeiladu ym 1858

Cafodd yr eglwys ganoloesol ei llifogu yn1768 ac dioddefodd yr eglwys gymaint o niwed roedd rhaid i’r gynulleidfa gerdded i Eglwys San Faglan am y ddwy flynedd nesaf. Er hynny, goroesodd Eglwys y Santes  Fair am bron â chanrif arall, nes 1858, pan gafodd ei ail-adeiladu.

Erbyn hyn mae’r eglwys ei hun wedi cau, ond mae modd cael mynediad i’r fynwent drwy’r gât fechan. Mae bedd arwr y dosbarth gweithiol 19eg ganrif, Dic Penderyn (Richard Lewis) yn y fynwent hon. Safle pwysig yw hwn i’w ymweld ag e cyn ichi adael. Fe grogwyd Dic am ei rôl tybiedig yn nherfysgoedd Merthyr. Er fod llawer wedi gwneud cais i’r Ysgrifenydd Cartref er mwyn ei arbed, fe’i grogwyd yng ngharchar Caerdydd (erbyn hyn safle Marchnad Gaerdydd) yn 1831. Hebryngwyd ei gorff adre i Aberafan, a’i gladdwyd ym mynwent y Santes Fair.

Ewch trwy mynediad y fynwent, ac mae’i fedd ar y llaw chwith wrth ichi ddynesu at yr eglwys.

Bedd Richard Lewis m. 1831 (Dic Penderyn)

Er ei fod yn droseddwr cosbedig, cafodd Dic Penderyn ei gladdu mewn tir cysegredig. Dywedir bod Morgan Howells, gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, a brawd-yng-nghyfraith Dic, wedi pregethu tra’n sefyll ar y wal hon wedi i angladd swyddogol Dic ddod i ben. Cofnodwyd ei ddwy frawddeg gyntaf:

“Dic Bach – wyt ti yno? Nid oedd arnat ti ofn y rhaff”

Mae peth celf stryd ar y wal gerllaw i gofio Dic, ac mae’r Undebau Llafur lleol wedi gosod peth gwybodaeth ger y bedd.

Am y stori lawn darllenwch: ‘Dic Penderyn: the Man and the Martyr’ gan S. Roberts Jones: Gwasg y Lolfa 2022

Mae’r cerrig bedd hefyd yn adrodd hanes y dref, ei chysylltiadau â de-orllwein Lloegr, Iwerddon ac hyd yn oed Chile, diolch i’r masnach copr.

Mynwent y Santes Fair, Port Talbot

Mae dau o ficeriaid eglwys y Santes Fair yn haeddu cael eu cofio am eu merched enwog.  Richard Morgan oedd tad Frances Hoggan, y ferch gyntaf ym Mhrydain i ennill doethuriaeth mewn meddygaeth a diwygiwr cymdeithasol brwd, ac mae Herber Jones, tad y bardd Ruth Bidgood, wedi’i gladdu ger portsh yr eglwys.

Frances Hoggan

Ruth Bidgood

Am wybodaeth ar ymgyrch bresennol i achub adeilad yr eglwys, gweler: Calon y Fro ar Facebook.

SAFLE’R CASTELL ABERAFAN

 

O dan y ffordd gylchol (A48) mae safle Castell Aberafan, fel y nodir gan enwau’r strydoedd, sef Stryd y Castell a Stryd y Beili. Dyma oedd cartref Arglwyddi Afan, tywysogion brodorol a gadwodd yr arglwyddiaeth am ddwy ganrif a hanner, hyd yn oed wedi i Iorwerth I feddiannu Gogledd Cymru. Cliriwyd y dystiolaeth olaf o’r castell yn 1895, ond dywedir bod seler o dan tŷ yn Stryd y Castell yn perthyn i’r castell.

Arfbais y teulu Avene family o dan Leision de Avene

Castell Aberafan: lleoliad yr olion wedi’u cofnodi yn 1876 ar fap O.S. 25-modfedd

Am wybodaeth ynghylch Tywysogion Afan gweler:

calonafan.org.uk

 

Rydych chi wedi gorffen cerdded Llwybr Treftadaeth Tref Port Talbot.

Os yw Canolfan Aberafan dal ar agor gallwch ddychwelyd drwy’r ganolfan. Ewch mas o’r Canolfan ar ochr de Costa coffee, yna trowch i’r dde ar hyd y rhodfa siopa ochr i gyrraedd pont dros yr afon, a gwelwch y ddau gapel, Carmel a Riverside, ar y dde.

Os yw Canolfan Aberafan ar gau ewch drwy danffordd y rheilffordd drws nesaf i’r orsaf fysiau, yna trowch i’r dde, dringwch y grisiau a dilynwch y llwybr dros bont arall; fe welwch chi’r ddau gapel ar y dde.

‘Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau eich taith o gwmpas ein tref, ac wedi dod o hyd i’r hyn roeddech am weld. A wnewch chi ychwanegu unrhyw sylwadau ar:

calonafan.org

Cwmni Buddiant Cymunedol yw CALON AFAN, a’i genhadaeth yw ymchwilio a rhannu hanesion llai adnabyddus Porth Talbot a Dyffryn Afan.

Gweithiwn i geisio ennill cydnabyddiaeth o’i hanes a’i etifeddiaeth unigryw.

Os oes gennych chwi hanesion llai adnabyddus am ein hetifeddiaeth i’w rhannu , neu os hoffech chwi glywed mwy am ein gwaith, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.  Fe fasen ni wrth ein boddau glywed oddi wrthych chi!