Golygfan 7:

Pont Aberafan (Rhestredig Gradd II)

Cyn croesi’r bont dros yr Afon Afan, edrychwch ar ochr adeilad Tesco ac i fyny’r heol:

 

Ar un adeg, roedd yr ardal hon yn safle Gorsaf Aberafan, Rheilffordd y Rhondda and Swansea Bay a gafodd ei adeiladu i gludo glo a chynnyrch arall i Abertawe; rhedodd o’r Rhondda, trwy twnel y Rhondda i Flaengwynfi, gyda gorsafoedd ym Mhort Talbot, Aberafan a Nedd, I Abertawe.

Tan y 1960au dyma lle’r roedd rheilffordd y Rhondda a Bae Abertawe yn croesi’r A48, dros groesfan reilffordd a oedd yn nodweddiadol am achosi oedi ar y brif ffordd tua’r gorllewin. Roedd hyn yn cael ei gymhlethu gan gyffordd-T yng nghanol y dref, yn y man lle roedd yr heol i Draeth Aberafan yn troi’n sydyn i’r chwith – yn aml, byddai lorïau yn mynd yn sownd yma wrth geisio troi’r gornel. 

Wrth ichi sefyll wrth ymyl Pont Aberafan, edrychwch aro chr adeilad esco tuag at fwâu y Drafford M4; o dan hon dywedir taw hwn oedd man geni Dic Penderyn.

Hen dai toiau gwellt wrth ymyl y Causeway, wedi mynd: gall man geni Dic Penderyn edrych yn debyg i’r rhain

Gweler 10. Eglwys y Santes Fair am fwy am Dic Penderyn

Ar un adeg, prif  dramwyddfa i’r ardal prysur masnachol Sgwâr Talbot, High Street, Walnut Tree Lane a ffyrdd eraill, gyda’u tai, gwestai, capeli a siopau, roedd y bont.

High Street yn edrych tuag at Bont Aberavon Bridge 1909.

Roedd Heol Cwmafan hefyd yn dechrau yma; roedd yr ardal sydd erbyn hyn y tu ôl i’r Ganolfan Ddinesig yn llawn adeiladau, gyda strydoedd megis Carmarthen Row wedi’u hadeiladu fel tai ar gyfer gweithwyr gwaith Alcam Margam.

Cerddwch ymlaen i Bont Aberafan

Y bont, a’r rhyd a oedd yn ei rhagflaenu, yw’r rheswm paham y mae Aberafan / Port Talbot yn bodoli yn y lleoliad hwn. Roedd y groesfan, a’r groesfan ar yr afon Nedd, tua dwy filltir ymhellach ymlaen, yn fannau pwysig ar y ffordd fawr tua’r gorllewin, ac roedd angen eu rheoli.

Yn wreiddiol, rhyd oedd yma ond, gan fod yr afon yn llanwol, fe allai hyn arwain at oedi, fel y nododd Gerallt Gymro pan fu’n teithio yma yng ngwmni Esgob Caergaint yn 1188.

Roedd y bont wreiddiol ychydig ymhellach lawr yr afon, gyferbyn â Chastell Aberafan ac eglwys y Santes Fair ond, wedi i’r bont gael ei olchi i ffwrdd gan lifogydd yn 1768, fe’i symudwyd ychydig i fyny’r afon.

Pont Aberafan

Cafodd y bont bresennol, sy’n dyddio o tua 1842, ei hadeiladu yn lle’r bont a adeiladwyd gan William Edwards, sy’n enwog am adeiladu pont Pontypridd. Yr adeiladwr yn 1842 oedd y peiriannydd William Kirkhouse, sydd hefyd yn gysylltiedig â Chamlas Tennant.

Cafodd pont Kirkhouse ei lledaenu yn nes ymlaen, yn 1893, ar gyfer ffordd yr A48, a oedd yn rhedeg yn syth drwy’r dref ac i fyny i Bentyla. Serch hynny, pan ddymchwelwyd yr hen dref ac adeiladu Canolfan Aberafan, torrwyd darn o’r heol yma, ac fe adeiladwyd y ffordd gylchol yn ei lle.

Llifogydd yn Strade y Dŵr 1909

Llifogydd yn Eagle Street: mae hwn yn digwydd o hyd

Yn ôl y naturiaethwr John Ray, pe byddai person yn dod at y bont ar fore Dydd Nadolig, byddai’n bosibl gweld Eog Cysegredig Afan, ac fe fyddai’r pysgodyn yn caniatáu cael ei fwytho – ond gwae unrhyw un a fyddai’n ceisio ei niweidio. Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd pâr o elyrch yn nythu ger y bont ond, erbyn hyn, maen nhw‘n byw ymhellach lawr yr afon. Roedd yr elyrch wedi adeiladu nyth ar adfeilion hen bont reilffordd a oedd yn arfer croesi’r afon yma ac, er eu bod wedi symud, mae’r ynys fechan yno o hyd. Yn dilyn y llifogydd drwg yn yr 1970au, cafodd ochrau’r afon eu codi, ond mae sylfaen yr hen bont yn dal yn ynys werdd, yn cyferbynu â’r walydd cerrig moel.          

Croeswch y bont a chael eich hun yn y Sgwâr Dinesig. Bydd eich côd QR nesaf ger Capel Ebeneser ar eich de yn y Sgwâr wrth i chi fynd mewn.