Golygfan 2:

Sgwâr Bethany

Wedi’i enwi ar ôl y capel ar un gornel o’r sgwâr, mae hwn wastad wedi bod yn ganolfan bwysig yn y dref.

Capel y Methodistiaid Calfinaidd Saesneg Bethany, Station Road, Port Talbot

Cafodd Heol yr Efail, Forge Road, yr heol sy’n dechrau o’r sgwâr, ei enwi ar ôl Efail Isaf Gwaith Alcam Margam, a sefydlwyd yn 1820 gan Robert Smith a John Reynolds. Reynolds oedd adeiladwr y draphont ddŵr ym Montrhydyfen. Dyma oedd dechrau’r diwydiant haearn a dur yn lleol, gan gymryd drosodd o’r diwydiant copr.

Pan oedd yr ardal yn cael ei throi’n ardal i gerddwyr ychydig flynyddoedd yn ôl, torrodd y gweithwyr i mewn i dwnel sylweddol o dan yr heol, twnel a adeiladwyd i gario dŵr gwastraff o waith yr Efail Isaf i’r afon Afan. Roedd hyn hefyd wedi achosi problem i Tesco pan roeddent yn adeiladu’r siop.

Mor hwyr â chwedegau’r ganrif ddiwethaf roedd un ochr o Forge Road yn dal i fod, ar y cyfan, yn llawn tai a gerddi, er bod rhai o’r lloriau daear wedi troi’n siopau.

Ar yr ochr arall oedd sinema‘r Odeon (Majestic), Neuadd y Seiri Rhyddion (Adeilad Rhestredig Gradd II), Capel Tabernacl Newydd, adrannau dilledydd, celfi a groser y Co-op (mae’r siop Family Value bresennol yn dal i fod yn y darn a oedd yn gartref i’r adran gelfi) a sawl siop yn gwerthu nwyddau arbenigol.

Neuadd y Seiri Rhyddion

Capel Tabernacl Newydd

Capel Bethany (Adeilad Rhestredig Gradd II)

Capel y Methodistiaid Calfinaidd Saesneg Bethany, Heol yr Orsaf, Port Talbot 1880

Roedd Capel Bethany ei hun yn ferch eglwys i gapel Methodistiaid Calfinaidd Carmel, a agorwyd yn hwyr yn y 19eg ganrif i wasanaethu aelodau Saesneg eu hiaith yr enwad. Yn anffodus, roedd y dirywiad yn niferoedd y gynulleidfa yn golygu bod yr aelodau wedi symud yn y pendraw i gynnal eu gwasanaethau yng nghapel Carmel, ac mae capel Bethany wedi bod yn segur byth oddiar hynny, er bod cynlluniau ar y gweill i’w ail-ddefnyddio at bwrpas amgen.

Mae’r placiau yn coffáu meirw’r ddau Rhyfel Byd a chyn-weinidogion wedi’u symud i Gapel Carmel, Glanyrafaon, lle mae modd, ar gais eu gweld: srjones@alunbooks.co.uk 

Capel Bethany gyda’r Institiwt Fictoria wrth ei ochr

Cerddwch heibio Capel Bethany a lawr Heol yr Orsaf, gan gadw at yr ochr chwith.

Institiwt Fictoria

 

Roedd yr adeilad hwn drws nesaf i Gapel Bethany, lle mae’r Ganolfan Waith wedi’i lleoli erbyn hyn. Gwelodd y 19eg ganrif dwf mawr mewn addysg i weithwyr, ac roedd Institiwt Fictoria, a sefydlwyd yn 1887, yn enghraifft dda o hyn. Roedd yn adeilad hardd, wedi’i adeiladu o friciau gyda wyneb o gerrig; roedd llyfrgell ac ystafell ddarllen ar y llawr isaf ac ystafelloedd gwyddoniaeth a chelf ar y llofft.

Institiwt Fictoria. Gan garedigrwydd Port Talbot Historical Society

Cynhaliwyd dosbarthiadau yno ac, ymysg y rhai a ddechreuodd eu haddysg broffesiynol yno oedd Robert George Clark, tua 1890. Symudodd o Aberafan i Lundain i orffen ei hyfforddiant a thyfodd i fod yn beiriannydd nodedig, gan arbenigo mewn draeniad dociau a phorthladdoedd.

Roedd yr Institiwt yn rhan fawr o fywyd lleol, gan gael ei ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd; er enghraiff, yn 1893 roedd yn lleoliad ymholiad i aelodaeth gyngor ac, yn 1900, roedd Cymdeithas Nyrsio Aberafan a Phort Talbot yn cyfarfod yno. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel yn yr 1960au: cyn iddo droi’n Ganolfan Waith roedd yr adeilad yn un o arch-farchnadoedd Fine Fare.

Cerddwch o Bethany gan cadw ar y chwith, nes ichi ddod i Ysgol Glanafan; bydd arwydd QR ar y rheiliau y tu fas.