Golygfan 6:

Sgwâr yr Orsaf

Roedd cynlluniau ar y gweill yn yr 1960au i uwchraddio’r orsaf wreiddiol, ond ni ddigwyddodd hynny ac amnewidiwyd yr adeiladau ‘dros-dro’ a adawyd yno o ganlyniad yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pan gafodd y mynediad at yr orsaf ei wella. (Cyn hynny roedd rhaid bwcio amser ymlaen llaw fel bod cadeiriau olwyn yn gallu croesi’r brif lein er mwyn cyrraedd y platfform!)

 

YR HEN SWYDDFA POST

Mae’r ganolfan deithio drws nesaf i’r Orsaf ar safle’r hen Swyddfa Bost.

Yn gynharach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y brif swyddfa bost wedi’i lleoli yn Nhaibach a oedd, diolch i’w weithfeydd copr, llawer yn fwy o faint nag Aberafan. Roedd miloedd o bobl yn byw yno, tra bod Aberafan yn gartref i ond ychydig gannoedd.

Yr hen Swyddfa Post

Fodd bynnag, ar ôl adeiladu prif orsaf y rheilffordd a datblygu’r dociau, roedd safle yn agosach at rhain yn fwy priodol, oherwydd bod y post yn cael ei gludo ar y trên. Roedd y Swyddfa Bost newydd yn floc masnachol solet, ac hefyd yn cynnwys swyddfeydd y Western Mail. Serch hynny, cafodd ei ddymchwel yn ystod cyfnod adeiladu’r drosffordd yn yr 1970au, a darparwyd swyddfa newydd drws nesaf i Bont Aberafan.

Y CERFLUN DUR

Rhan o’r prosiect celf cyhoeddus cyntaf yn y dref. Derbyniwyd tri phrosiect, ac mae’r prosiect hwn, a ddyluniwyd gan y cerflunydd David Annand, yn dathlu’r diwydiant dur a’i weithlu yn y dref. Wedi’i arysgrifio ar ochr isaf y chwech bar dur y mae’r gweithiwr yn cario, er nad yw, mewn gwirioned, yn weladwy iawn, mae darn o farddoniaeth yn Saesneg gan Sally Roberts Jones, yn dathlu’r dref a’i phobl.

STEEL TOWN


Deep in the earth lies the fire of suns
Asleep till Man reaches to take it.

Golden and red, dragon flames swallow the air.
Copper and iron are rivers, flowing to earth

Ores melt in the cauldron of making:
People melt into village and town.

Copper and iron tame the wastes of the world:
Rails carry our children to glory !

We harness the world till thunder rips it apart:
Smelts pain in the broken furnace.

Tall on the earth is our city:
Strong in the earth is our blood. 

Trowch yn ôl ac edrychwch tuag at Ganol y Dre

Oddiyma gallwch weld y murlun celf stryd mawr ‘Mae Port Talbot yn Dref Liwgar’, ar dalcen siop Domino’s Pizzas – un o gyfres o ddarnau celf stryd sydd wedi’u creu dros y tair mlynedd ddiwethaf gan artistiaid o bob cwr o’r byd, wedi’u hysbrydoli gan y llun gan Banksy a ymddangosodd dros nos ar wal garej, a brynwyd gan gasglwr celf ac a symudwyd o’r dref ganddo yn y pen draw. Mae’r darnau newydd i’w gweld ar ap, a gallwch ei ddefnyddio i’w gweld o gwmpas y dref gyfan:

 https://theatr3.com/artwalk.html#/

 Ewch yn ôl ar hyd Heol yr Orsaf, gan gerdded ar ochr chwith yr heol y tro yma.

Erbyn hyn, maes parcio yw’r gofod y tu ôl i’r siopau ar Heol yr Orsaf; rhes o dai, sef Teras Margam oedd hyn yn wreiddiol, yn wynebu’r rheilffordd, ond fe gafodd ei ddymchwel i greu gofod ar gyfer y drosffordd.

Teras Margam

Mae’r bloc cyntaf ar yr ochr yma, ochr y ‘môr’, hefyd yn floc masnachol – ond efallai ychydig yn hwyrach a thipyn yn llai nodedig o ran steil. Hyd at ganol y saithdegau roedd yr ardal yn ardal fasnachol brysur, gyda chyflenwyr llongau a siopau nwyddau metel. Roedd yma gangen o W.H. Smith a banciau, ymysg eraill ond, yn dilyn hynny, wrth i’r sector manwerthu symud i ffwrdd tuag at ardal siopa Canolfan Aberafan, cafodd yr ardal ei meddiannu gan leoliadau bwyd brys, bwytai, caffés, tafarndai a gwerthwyr tai.

Siop ar Heol yr Orsaf c 1909

FERRARI’S

 

Un o nodweddion arbennig trefi De Cymru yw’r caffés ‘Bracchi’ a sefydlwyd gan Eidalwyr o Ogledd yr Eidal, a oedd wedi ymsefydlu yma ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd gan Port Talbot ei siar o’r rhain: caffés Viazzani, Ferrari yn y dref, Franco a Remo ar Draeth Aberafan, ac eraill yng Nghwmafan a thu hwnt. Roedd y mwyafrif o’r llefydd hyn wedi diflannu pan y dymchwelwyd yr hen Aberafan yn y saithdegau, er bod y teuluoedd yn dal yma.  

Ferrari’s, Heol yr Orsaf

Ewch yn eich blaen ar hyd Heol yr Orsaf, gan basio cerflun y Gweithiwr yn yr Olwyn unwaith eto ar y chwith.