Llwybr Etifeddiaeth Tref Port Talbot
- Golygfan 1: Capel Carmel, Glan yr Afan
- Golygfan 2: Sgwâr Bethany
- Golygfan 3: Ysgol Glanafan
- Golygfan 4: Gwesty’r Grand
- Golygfan 5: Y Plaza
- Golygfan 6: Sgwâr yr Orsaf
- Golygfan 7: Pont Aberafan (Rhestredig Gradd II)
- Golygfan 8: Y Sgwâr Dinesig
- Golygfan 9: Canolfan Siopa Aberafan
- Golygfan 10: Mynwent y Santes Fair
- Credydau
Golygfan 5:
Y Plaza
Tu fewn i’r Plaza pan yr oedd yn ei anterth
Y diwethaf o nifer o sinemau a adeiladwyd yn y dref, agorodd yn 1940, ac hefyd hwn oedd y diwethaf i gau ei ddrysau. Am gyfnod yn yr 1980au bu’n neuadd bingo, a chafodd ei ail-agor fel sinema, gan weithredu’n llwyddiannus tan ddiwedd yr 1990au. Wedi iddo gau dechreuodd ymgyrch fywiog i gadw’r adeilad, ac roedd ei bensaernïaeth diddorol, yn adlewyrchu steil yr 1930au, wedi sicrhau ei fod yn cael ei restru, a’i warchod rhag ei ddinistrio’n llwyr.
Parhaodd yr ymgyrch am sawl blwyddyn, gyda chyd-weithrediad Cyngor Castell Nedd Port Talbot, nes derbyn grant oddiwrth Llywodraeth Cymru i alluogi cwblhau’r gwaith adfer. Camodd yr YMCA i’r adwy a gweithredu fel corff gweithredol ac, erbyn hyn, mae’r adeilad yn adnodd cymunedol, yn darparu ystafelloedd cyfarfod, cyfleusterau chwaraeon a chaffé ac, yn debyg i’r Adeiladau Brenhinol gyferbyn yn y blynyddoedd blaenorol, gofod cychwyn busnesau bychan newydd.
Roedd y sinemáu eraill yn y dref, wedi’u dymchwel erbyn hyn, yn cynnwys y Grand yn High St., y Majestic/Odeon a’r Electric yn Heol yr Efail, y Capitol yn Water St., a’r New/Empire Theatre yn Talbot Road.
Sinema’r Grand, High Street
Yn Nhaibach roedd hefyd y Regent, yn Commercial Road, a’r Picturedrome cymharol fach yn Nheras Alma, Taibach, sydd erbyn hyn yn gartref nyrsio, ac a alwyd yn lleol wrth yr enw serchus, y Cach’). Mae pob un o’r rhain yn cael eu cofnodi yn y dyddiaduron a ysgrifennodd Richard Burton yn ei arddegau, pan roedd yn cynilo ei arian poced prin er mwyn gwylio ffilmiau.
Y Picturedrome, Teras Alma
Sinema’r Regent, Commercial Road, Taibach
Am ragor o wybodaeth am hyn gweler: The Richard Burton Diaries, Gol. Chris Williams, Yale University Press
Cerddwch ar hyd Talbot Road i ganfod safleoedd
ROYAL BUILDINGS
Royal Buildings, Talbot Road
Yn wreiddiol hwn oedd Sinema’r New/Empire, a gaeodd yn dilyn tân. Roedd yr adeilad yn parhau i fod â siopau ar y llawr isaf a swyddfeydd ar y llofft. Roedd gan VJ Bailey, y gwerthwr teledu a radio, siop yma ac roedd yn defnyddio gofod y sinema i storio nwyddau. Roedd y swyddfeydd ar y llofft yn ddefnyddiol iawn ar gyfer busnesau bychan cychwynnol oherwydd os roeddent yn medru llwyddo, yna roeddent yn gallu symud ymlaen i leoliadau mwy o faint. Yn y pendraw, roedd y lloriau uwch wedi dirywio a chafodd y bloc cyfan ei ddymchwel, gan ildio’r lle i fflatiau, gyda safleoedd manwerthu ar y llawr isaf. Cymerodd y bloc newydd ei enw – Customs House – o’r adeilad ar yr ochr, a gafodd ei ddymchwel hefyd.
Ewch ymlaen heibio’r Plaza ar hyd Talbot Road i ddarganfod
TOLLDY A SWYDDFEYDD CWMNI DOCIAU A RHEILFFORDD PORT TALBOT
Swyddfeydd Y Tolldy a Chwmni Dociau a Rheilffordd Port Talbot
Wedi’u hadeiladu ym 1897 i’r Cwmni Dociau a Rheilffordd Port Talbot, unwaith eto wedi’i hariannu gan Emily Charlotte Talbot, roedd rhain ar ochr y Royal Buildings/Yr Adeladau Brenhinol, yn wynebu ochr y Plaza. Roedd y mynediad i’r dociau ar ochr arall yr heol, gyda chroesfan reilffordd ychydig cyn gorsaf y rheilffordd; roedd y mynediad yn arwain at yr harbwr, a oedd yn brif gyfleustra yn y dref tan o leiaf yr 1970au. Byddai ‘merched y llynnoedd’ lleol, fel y’u gelwir yn fonheddig, yn gwirio Rhestr Lloyd’s am ‘llongau’n cyrraedd’, a chwsmeriaid, yn y Llyfrgell Gyfeirio!
Y Tolldy, Royal Buildings (De) a’r Plaza (Chwith)
Cafodd y Tolldy, i’r chwith i’r adeilad mwy y Tolldy Railway and Chwmni Rheilffordd a Dociau, ei ddymchwel ar ddiwedd y 20fed ganrif er mwyn adeiladu fflatiau a masnachol. Uwchben y mynediad i’r adeilad mae plac ag arno arfbais Cwmni Port Talbot, plac a ddaeth o’r adeilad gwreiddiol.
Y Tolldy ar y chwith a swyddfa’r Cwmni Port Dock and Rail ar y dde.
Gellir gweld y Plaza ar chwith y ffoto.
Croeswch draw o’r Adeiladau Brenhinol.
Fe welwch yno Clwb y Lleng Brydeinig, sy’n trefnu, yn flynyddol, parêd Sul y Cofio, a’r Llew Coch. Yn wreiddiol hwn oedd un o gaffés Eidalaidd Bracchi y dref ond, yn fwy diweddar cafodd ei droi’n dŷ tafarn a’i enwi’n Llew Coch ar ôl un o dafarndai hanesyddol canol Aberafan, ger safle croes y dref.
NAWR, RHAID ICHI DROI O GWMPAS A DYCHWELYD AR HYD EICH LLWYBR
Gan droi yn ôl tuag at y Sgwâr ac Heol yr Orsaf, fe welwch adeiladau newydd yr orsaf ar y chwith. Mae’r arwydd côd QR nesaf ar y rheiliau wrth ymyl Y Gerflun Dur.