Golygfan 8:

Y Sgwâr Dinesig

Dyma yw safle Sgwâr Talbot, a elwir weithiau yn Sgwâr Cwmafan, oherwydd bod yr heol isaf i Gwmafan yn dechrau o un o gorneli’r sgwâr. Yn y dyddiau hynny roedd y Stryd Fawr (yr A48) yn rhedeg yn syth drwy’r dref o’r bont ym Mhentyla, ac roedd yn ardal brysur iawn, yn llawn o dafarndai a siopau.

 

CAPEL EBENESER (Adeilad rhestredig Gradd II)

Capel y Bedyddwyr Ebeneser heddiw

Y capel hwn, enghraifft ddiddorol o bensaernïaeth diwedd oes Fictoria, ag adeiladwyd yn 1881, yw’r adeilad hynaf yn y sgwâr, a’r unig un o’r hen ganolfan sydd wedi goroesi yma. ‘Talbot Street’ oedd yr hen gyfeiriad.

Adeiladwyd y capel gwreiddiol tua 1836 ar gyfer cynulleidfa Methodistiaid Calfinaidd Carmel, ond bu anghyfod rhwng Robert Smith, perchennog Gwaith Alcam Margam, a blaenor yng Ngharmel, ac awdurdodau’r enwad, a gwerthodd yr adeilad i’r Bedyddwyr, a ail-adeiladodd e yn hwyrach.

Golygfa o High Street c 1905 yn edrych tuag at westy’r Walnut Tree

Golygfa o High Street yn edrych lawr o’ westy’r Walnut Tree

Roedd Heol Cwmafan hefyd yn dechrau yma; roedd yr ardal sydd erbyn hyn y tu ôl i’r Ganolfan Ddinesig yn llawn adeiladau, gyda strydoedd megis Carmarthen Row wedi’u hadeiladu fel tai ar gyfer gweithwyr gwaith Alcam Margam a dwedir taw fan roedd man geni Dic Penderyn (Gweler 7 a 10)

Golygfa o High Street yn dangos gwesty’r Walnut Tree Hotel ar y chwith

Golygfa o High Street yn dangos Maypole Corner c 1930

Ac yma hefyd y byddai Oliver Cromwell, ar ei ffordd i ddelio â gwrthryfel yng Nghorllewin Cymru, wedi mynnu hawlio Siarter y Bwrdeistref. (Yna, byddai wedi gallu ei ddarnio a gorfodi’r trigolion i dalu am siarter newydd i’w galluogi nhw i fasnachu).

Siarter Aberafan 1304

Yn ffodus iawn roedd y Porthfaer (y Maer), a oedd wrthi’n hollti pren ar y pryd, wedi gallu cuddio’r siarter, a oedd yn dyddio’n ôl i 1304, mewn hollt yn ei floc hollti pren, a rhaid oedd i Cromwell fynd ymaith yn waglaw. Erbyn hyn mae’r bloc (neu’r gist a wnaethpwyd o’r pren hwnnw) i’w weld yn y Ganolfan Ddinesig, ac mae’r siarter yn ddiogel yn Archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe.

Cist pren lle cuddiwyd y Siarter oddi wrth Cromwell

ARCHIFAU GORLLEWIN MORGANNWG

https://www.swansea.gov.uk/article/998/West-Glamorgan-Archive-Service

Ymwelydd hwyrach oedd yr Arglwydd Nelson, a arhosodd yng Ngwesty’r Globe ar ei ffordd i Ddoc Penfro. Cafodd gyfarfyddiad gyda’r porthfaer cyfredol a berodd embaras iddo, oherwydd ei fod wedi camgymryd cwrteisi’r porthfaer am gais am gildwrn.

Gwesty’r Globe

I weld model cyfrifiadurol o’r adeilad hwn, ac adeiladu hanesyddol eraill yn y dre gweler: http://history.seanpursey.co.uk/globe-hotel/

Mor hwyr ag 1917 roedd rhan o’r sgwâr gyferbyn â Chapel Ebeneser, yn cynnwys Tŷ Mawr a adeiladwyd gan ddyn o’r enw John David yn 1762. (Roedd aelodau’r teulu David yn borthfeiri a meiri ar y dref rhwng 1789 ac 1807.) Pan gafodd y sgwâr ei ddymchwel roedd yn gartref i nifer o siopau – siop Derrick, y gwerthwr recordiau, Clifford y siop ddillad, cigydd, teilwr a gemydd, ymysg eraill. Yn wreiddiol, carchar y dref ar gyfer mân droseddwyr a meddwon oedd un uned fechan iawn, ond gemydd oedd erbyn 1972. Roedd siop Daycock, a arferai werthu nwyddau i geffylau, yn atsain o’r dyddiau pan oedd Aberafan yn dref farchnad – yn ddiweddarach symudodd y siop honno i Daibach.

Ger Ebeneser, ac hefyd yn cefnu ar yr afon, oedd sawl adeilad cyhoeddus – Clwb Llafur Aberafan, y Neuadd Newydd, gorsaf wreiddiol yr heddlu yn y dref, yn dyddio  cyn 1898, a llys yr ynadon. 

Ychydig yn nes ymlaen, ger y fynediad i lôn fer, oedd tafarn y Hong Kong (y Teigr cyn hynny), ac ar ochr arall y lôn, ac yn eich wynebu wrth ichi ddod at y sgwâr, roedd Swyddfa Bost.

Sgwâr Talbot, erbyn hyn Sgwâr Dinesig, gyda thafarn Hong Kong ar y dde

The Causeway Aberavon, gyda Tŷ  Westgate ar y chwith, Gwesty’r Angel ar y dde, Capel Moriah Chapel de top ac Ysgol y Mynydd y tu ôl I’r ffens ar y dde.  1905

Gadewch y Sqwar Dinesig a nesaf ewch drwyddo i Ganolfan Siopa Aberafan, gyda’i gasgliad lliwgar o siopau a chaffés, i ganfod arwydd QR nesaf 9 ar y wal ger mynediad y Ganolfan.