Llwybr Etifeddiaeth Tref Port Talbot
- Golygfan 1: Capel Carmel, Glan yr Afan
- Golygfan 2: Sgwâr Bethany
- Golygfan 3: Ysgol Glanafan
- Golygfan 4: Gwesty’r Grand
- Golygfan 5: Y Plaza
- Golygfan 6: Sgwâr yr Orsaf
- Golygfan 7: Pont Aberafan (Rhestredig Gradd II)
- Golygfan 8: Y Sgwâr Dinesig
- Golygfan 9: Canolfan Siopa Aberafan
- Golygfan 10: Mynwent y Santes Fair
- Credydau
Golygfan 3:
Ysgol Glanafan
Gan ddal i gerdded lawr yr heol ar yr ochr chwith, fe welwch chi hen Ysgol Glanafan, wedi’i lleoli ychydig oddiar y pafin ac i fyny esgynfa; erbyn hyn mae wedi’i throi’n safle dai, gyda chaffé ym meddu ar flaen gwydr yn y portsh.
Ysgol Glanafan, a adnabyddir gynt fel County School
Roedd dwy ysgol ramadeg ym Mhort Talbot; Dyffryn, a oedd yn cael ei hadnabod fel arfer wrth yr enw y Sec., yn Nhaibach, ac yn enwog oherwydd ei chysylltiad â Richard Burton a’i athro Philip Burton, a Glan Afan yng nghanol y dref.
Adeiladwyd Glan Afan yn 1893 ar dir a roddwyd gan Emily Charlotte Talbot. Roedd hi hefyd wedi cyfrannu £500 a chafodd wahoddiad i osod conglfaen yr ysgol newydd. Agorodd Ysgol Glan Afan ei drysau ym Medi 1896, ac roedd wedi dal i ffynnu tan 2016, pan symudodd y staff a’r disgyblion i Ysgol Bae Baglan, gan gyfuno Ysgolion Cyfun Glan Afan, Cwrt Sart a Sandfields, yn ogystal ag Ysgol Gynradd Traethmelyn.
Yn debyg i Ddyffryn, roedd ysgol Glan Afan wedi cynhyrchu nifer o ddisgyblion nodedig. Ar hyn o bryd, y mwyaf enwog ohonynt yw Michael Sheen; ond mae detholiad o eraill yn cynnwys David Carpanini (arlunydd); Wil Ifan (Archdderwydd); Clive Jenkins (arweinydd undeb); Gwyn Williams, (awdur); a Ronald Welch, neé Felton (enillydd Medal Carnegie am y llyfr gorau i blant, gwobrau Llyfr y Flwyddyn, 1954).
Michael Sheen
Wil Ifan
Clive Jenkins
I ddarllen mwy am waith yr artist David Carpanini: https://fossegallery.com/artists/david-carpanini/
Dros y blynyddoedd roedd y safle wedi llenwi gydag ystafelloedd dosbarth newydd ayyb a, phan symudodd yr ysgol oddiyno, defnyddiwyd y safle at ddiben tai. Braf yw dweud bod y façade wedi’i gadw, a bod Glan Afan yn dal yn darparu ardal werdd yng nghanol y dref, gyda gofod cyhoeddus o’i blaen, yn cynnwys caffé ar hyn o bryd.
Gan symud ymlaen, ‘rydym yn dod at Le Tydraw, ar y chwith. Nid yw’n hawdd i’w weld, ond ar y strade hwn yw safle’r hen Synagog.
Synagog Port Talbot
Os hoffech chi gerdded i fyny’r heol hon, yn y lôn gefn, ar y dde, mae’r adeilad a fu’n gartref i synagog y dref, ac i gymuned Iddewig fychan ond ffyniannus. Ymysg ei haelodau oedd teulu’r Arroniaid, ac mae Bennet Arron, y comedïwr, yn dal ei gyswllt gyda’r dref. Serch hynny, tua deugain mlynedd yn ôl bu’r fath ostyngiad yn niferoedd y gynulleidfa fel nad oedd modd cynnal y synagog, ac roedd rhaid i’r aelodau ymuno â chynulleidfa Abertawe. Erbyn hyn, mae’r adeilad yn gartref i Eglwys yr Ysbrydegwyr.
Am fwy o wybodaeth am y gymuned Iddewig ym Mhort Talbot
Dolen cyswllt i: Jewish History Association of South Wales: https://www.jhasw.com/
Yn fan hyn mae hanes y gymuned Iddewig ym Mhort Talbot gyda chyfweliadau lafar:
https://www.youtube.com/watch?v=xUz6uLORp-c
Ewch yn ôl i Heol yr Orsaf a cadwch ymlaen ar ei hyd nes cyrraedd Lle Courtland.
Tan 2023, Banc Midland ac yna Banc HSBC, oedd yr adeilad hwn ar y gornel.
Hen Banc y Midland
Cafodd y banc hwn ddrwg-enwogrwydd fel lleoliad cais i gynnal lladrad. Cafodd un o’r siopau gyferbyn (yn ddiweddarach siop dillad chwaraeon Selwyn Jenkins, ond yn wag ar y pryd), el llogi gan giang a oedd wedi palu twnel o dan ac ar draws yr heol, gan obeithio torri i mewn i Fanc y Midland dros benwythnos Gŵyl y Banc. Fodd bynnag roedd ‘Mr Big’, arweinydd y giang, heb dalu rhent y siop. Pan aeth perchennog y siop i holi ynghlyn â hyn, gwelodd bod y siop yn wag, ond bod mynediad i dwnel i’w weld yng nghanol y llawr. Cysylltodd â’r heddlu, a oedd wedyn wedi cadw llygad ar y cloddwyr, yn y gobaith o’u dal wrthi. Serch hynny, wedi cyfnod fe ddaeth yn glir bod y giang ar fin torri i mewn i brif ddraen, a’u bod mewn perygl o foddi, felly cawsant eu harestio gan yr heddlu. Ni chafodd ‘Mr Big’ fyth ei ddal. Caeodd y gangen hon o’r banc ym Mehefin 2023.
Twnel lladron y banc
Mae cyffordd Lle Courtland yn dynodi’r man lle y mae’r adeiladau ar Heol yr Orsaf, yn enwedig ar ochr ‘y mynydd’, yn newid. Yn gynharach, gyferbyn â Glan Afan, yn wreiddiol roedd bythynnod gyda gerddi blaen, (felly’r pafin llydan) ac, yn raddol, roedd rhain wedi newid i fod yn siopau, a’r siopwyr yn byw lan llofft.
Yn ôl yn Heol yr Orsaf mae’r adeiladau wedi Lle Courtland yn dyddio o’r 1890au, pan ddatblygodd yr ardal o’r dref ger y Dociau. Pensaernïaeth ‘masnachol’ a welir yma, wedi’i ddylunio ar gyfer siopau, gyda swyddfeydd, yn hytrach na gofod byw, uwchben. (Edrychwch uwchben y llawr isaf er mwyn sylwi ar ddyluniad unedig yr adeiladau). Mor hwyr â’r 1970au cynnar roedd y busnesau hyn yn dal i adlewyrchu hanes morol y dref, ac yn cynnwys siandler llongau, asiantau llongau a swyddfeydd tebyg.
Heol yr Orsaf 1908
Gan barhau ar hyd y stryd fe ddewch chi at hen adeilad Banc Lloyd’s, efallai enghraifft orau’r dref o bensaernïaeth banc o flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif.
Roedd nifer o fanciau a phrif fanwerthwyr y dref i’w gweld ar fwy nag un safle, gyda changen wreiddiol yn Aberafan a changen arall yn yr ardal newydd dros y bont, a chafodd rhain eu cyfuno yn gyson yn yr 1970au. (Enghraifft arall yw siop Woolworth). Yn y lle cyntaf cafodd Lloyd’s ei droi’n dafarn, ‘Y Banc’, cyn troi’n Pizza Hut. Erbyn hyn mae parlwr Lextan yno hefyd.
Banc Lloyds
Nesaf, croeswch Lle Grove a chyrraedd at safle hen brif orsaf yr heddlu yn y dref.
HEN ORSAF YR HEDDLU
Roedd hwn yn adeilad diddorol, a adeiladwyd yn 1898, fel rhan o ddatblygiad yr ardal ger y dociau, ac i wasanaethu yn lle Gorsaf gwreiddiol yr Heddlu yng nghanol tref Aberafan. Dymchwelwyd yr adeilad yn ei dro yn yr 1970au, ac adeiladwyd bloc di-nod yn ei le; cafodd hwn ei ddymchwel hefyd tua hanner can mlynedd yn ddiweddarch, a gosodwyd bloc preswyl a manwerthu, a elwir Tŷ`r Orsaf, yn ei le.
Gorsaf yr Heddlu, Heol yr Orsaf
Dilynwch Heol yr Orsaf i lawr ar y chwith, a byddwch yn canfod arwydd côd QR nesaf ar Westy’r Grand ar y chwith.