TYWYSOGION AFAN

Tra bod y mwyafrif of bobl yn gwybod am orffennol a phresennol tyngedfennol diwydiannol Port Talbot a Dyffryn Afan, a’r ddawn o gynhyrchu actorion byd-enwog theatre a ffilm, mae hanes cyffrous canol oesoedd yr ardal yn llai adnabyddus.

Er taw Tywysogion Gogledd a Gorllewin Cymru sy’n cael y clod am drefnu gwrthsafiad torfol y Cymry yn erbyn yr Eingl-Normaniaid, mae cyfraniad tywysogion De Cymru at amddiffyn eu gwlad weithiau’n cael ei anwybyddu. Roedd Tywysogion Afan, o’u cadarnle yn y mynydddoed uwchben Port Talbot, yn dal i wrthwynebu’n weithredol meddiannaeth eu tiroedd yn Ne Cymru dros 200 mlynedd wedi i’r Normaniaid oresgyn Lloegr. Yn ystod y 12fed a’r 13eg ganrif, ardal Afan Wallia oedd man cychwyn terfysgoedd ysbeidiol yn erbyn yr Eingl-Normaniaid a oedd erbyn hynny yn gadarn gerllaw yn Abertawe, Castell-nedd, Cynffig, Llangynwyd a Phen-y-Bont ar Ogwr.

Hyd yn oed wedi’r 14eg ganrif roedd disgynyddion uniongyrchol Tywysogion Afan wedi dal i chwarae rhan bwysig ym materion diwylliannol a gwleidyddol De Cymru a Lloegr o’u pencadlys ym Mhlas Baglan.

Fel y digwyddodd yn nhai mawr eraill Cymru, llwyddodd llinach Afan Wallia cadw hunaniaeth Gymreig gref yn ystod teyrnasiaeth ffiwdalaidd yr Eingl-Normaniaid, a pharhaon nhw i’w wneud i fyny at y presennol. I ddysgu mwy am yr hanes lleol cyfareddol hwn, darllenwch ein herthyglau.