Tywysogion Afan
- Tywysogion Afan
- Pennod 1 Dihirod neu Arwyr?
- Pennod 2 Seliau Swydd
- Pennod 3 Y Siartir Aberafan
- Pennod 4 Lle yr Oeddant yn Byw
- Pennod 5 Lle yr Oeddant yn Addoli
- Pennod 6 Safeleoedd Canoloesol Eraill yn Gysylltiedig a Llinach Afan Wallia
- Pennod 7 Ieuan Gethin a Beirdd Eraill
- Pennod 8 Llinell Amser sy’n Berthnasol i Dywysogion Afan
- Pennod 9 Tywysogion Afan yn y Cyd-destun Ehangach
- Pennod 10: Diwedd y Llinach yn Aberafan
Pennod 1: Dihirod neu Arwyr?
Mae gorchfygiad y brenin Eingl-Sacsonaidd Harold gan Gwilym Goncwerwr ym Mrwydr Hastings yn 1066 wedi’i ymwreiddio ym meddwl pob disgybl sy’n astudio hanes Prydain fel y dyddiad a gymerodd y Normaniaid rheolaeth ar ddigwyddiadau yn Lloegr gan, drwy ddarparu brenhinoedd olynol, ddilyniant o denantiaeth brenhinol sydd wedi parhau hyd heddiw. Roedd gorchfygiad a marwolaeth y Brenin Harold ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw yn 1066 wedi dod ag amddiffyniad ystyrlon y wladwriaeth Seisnig yn erbyn teyrnasiad y Normaniaid i ben yn sydyn. Wrth gwrs, tra gwahanol oedd yr hanes yng Nghymru ar yr adeg hon. Roedd gwrthwynebiad styfnig poblogaeth Cymru i deyrnasiad yr Eingl-Normaniaid wedi parhau am sawl canrif, gan helpu cadw diwylliant Cymru hyd at y dydd heddiw, hunaniaeth y cydnabyddir bod ei hiaith a’i diwylliant ymysg yr hynaf yn Ewrop gyfan.
Yn anffodus, tra bod yr hanes, ar y cyfan, yn portreadu’r Brenin Harold fel amddiffynydd dewr ei wlad, pan yn disgrifio gwrthwynebiad hirfaith y Cymry i deyrnasiad yr Eingl-Normaniaid yn Ne Cymru, nid yw’r mwyafrif o haneswyr mor hael eu clod, gan ddefnyddio’n aml ymadroddion megis ‘grwpiau o anrheithwyr rhyfelgar’1 neu ‘gwrthryfelwyr mileinig trafferthus penboeth’ 2 wrth ddisgrifio gwrthsafiad y Cymry i reolaeth estron o’i tir. Yn y fersiwn hwn o’r digwyddiadau disgrifir gwrthsafiad fel `gwrthryfeloedd anwar yn achosi marwolaeth a dinistr`,3 yn cynnwys fandaleiddio eglwysi’r Normaniaid ‘mwy goleuedig’. Yn amlach na pheidio mae’r disgrifiadau sur hyn o dywysogion canoloesol De Cymru wedi cael eu hail-adrodd yn ddiddiwedd gan haneswyr ar hyd yr oesoedd hyd at ein cyfnod ni, pan fydd chwiliadau o’r rhyngrwyd ynghylch tywysogion ac arglwyddi Afan yn dod o hyd i gymariaethau â’r Taliban4 ac hyd yn oed gymariaethau â’r hwiangerdd Seisnig ’Ten Green Bottles`.5
Er taw Tywysogion Gogledd Cymru, Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) sy’n cael y clod am drefnu gwrthsafiad torfol y Cymry yn erbyn yr Eingl-Normaniaid, mae cyfraniad tywysogion De Cymru at amddiffyn eu gwlad weithiau’n cael ei anwybyddu. Mae’n bosib gweld y gwrthsafiad hwn yng ngweithredoedd Tywysogion/ Arglwyddi Afan a oedd, dros 200 mlynedd wedi i’r Normaniaid oresgyn Lloegr, yn dal i wrthwynebu’n weithredol meddiannaeth eu tiroedd yn Ne Cymru. Yn ystod y 12fed a’r 13eg ganrif, ardal Afan, neu Afan Wallia, oedd man cychwyn terfysgoedd ysbeidiol yn erbyn yr Eingl-Normaniaid atgas a oedd wedi sefydlu cilfachau gerllaw yn Abertawe, Castell-nedd, Cynffig, Llangynwyd a Chastell Newydd (Pen-y-Bont ar Ogwr).
Yn anffodus, yn rhy aml o lawer mae’r gwrthsafiad hwn yn dueddol o gael ei grynhoi fel troednodyn negyddol yn y cyfnod hwn o’n hanes. Mae cyflwyno’r enw hybrid rhyfedd Ffrengig/Cymreig `de Avene`, a ddefnyddiwyd gan 7fed Arglwydd Afan, Leision ap Morgan Fychan fel cyfenw newydd i adnabod y teulu a oedd unwaith yn dywysogaidd, yn cael ei esbonio yn nhermau megis ‘ymuno â’r Saeson’6 neu euer bod ‘wedi troi’n weision i’r Normaniaid’7. Tra bod hyn yn gallu ymddangos i fod yn wir (mewn gwirionedd, roedd Leision wedi llofnodi ei siarter, sy’n dyddio o 1307, gyda’r enw Leision ap Morgan, ac nid de Avene a oedd, efallai, yn fersiwn Lladin o’i deitl), mae gorsymleiddio’r disgrifiadau hyn o ddegawdau olaf teyrnasiaeth Arglwyddi Afan yng nghanol y 14eg ganrif yn tueddi i dynnu yn fawr oddiar wirioneddau’r digwyddiadau a oedd yn datblygu ar y pryd. Wrth wynebu gwirioneddau bywyd yn syth ar ôl ymgais methedig Llywelyn ein Llyw Olaf i sefydlu Cymru annibynnol, roedd rhaid i arweinyddion Cymreig y cenedlaethau dilynol gydweithio ochr yn ochr mewn sefyllfa a oedd, erbyn hyn, o dan reolaeth Seisnig, er mwyn sicrhau gwell ddyfodol i bawb. O edrych ar y sefyllfa yn y cyd-destun hwn, mae’n bosibl gweld y defnydd o’r teitl de Avene gan Leision a’i ddilynwyr mewn goleuni mwy positif. Yn 1350, pan gyhoeddodd Syr Thomas de Avene siarter newydd ar gyfer ardal Afan, roedd yn gallu gwneud hynny o sefyllfa o gryfder cymharol. Roedd y strategaeth hon wedi galluogi llinach Cymreig Afan Wallia i barhau hyd at ddegawdau olaf y 14eg ganrif, er i’r bardd o Faglan, Ieuan Gethin, gofnodi yn yr englyn isod ‘Teyrnas Afan’, a ysgrifennwyd yn y 15fed ganrif, bod y deyrnas wedi dod i ben yn 1318, sef dyddiad dienyddio Llywelyn ap Gruffudd o Senghenydd, neu, fel arall Llywelyn Bren, a arweiniodd gwrthryfel 1316 yn erbyn Iorwerth II. Methodd y gwrthryfel, ac ildiodd Llywelyn Bren. Ar y cychwyn roedd hi’n ymddangos ei fod yn debygol o dderbyn pardwn, ond yna fe’i cipiwyd gan Hugh le Despenser ac fe’i ddienyddiwyd mewn ffordd arbennig o ffiaidd.
“Mil tri chant gwarant gwirion – a deunaw
Fe dynnwyd yn gyfan
Gan drais mawr I lawr yn lan
Hynafiaeth Brenhinoedd Afan.” [8]
“One thousand three hundred and eighteen
When ceased
Through great violence
The ancient ancestral Kingdom of Afan” [8]
Mae cyfeiriad Ieuan Gethin yn y 15fed ganrif at ‘deyrnas hynafol Afan’ yn cyffwrdd â’r cysylltiad drwy etifeddiaeth gyda theyrnas hynach Morgannwg a Glywysing, ardal a gysylltir yn fras erbyn heddiw gyda Morgannwg a Gwent 9 Mae’n debyg bod yr hynafiaethwr o Sais, John Leland, pan yn ymweld ag ardal Afan y ystod y 1530au wedi clywed sôn yn lleol am gyn-gysylltiad yr ardal gyda brenhinoedd Cymru: gan gyfeirio at eu cyndeidiau fel `Lysans` [Lleision], ysgrifennodd
“bod eu telu yno cyn y concwest Normanaidd.” 10
Y brodor diweddaf i deyrnasu ar y diriogaeth Gymreig hon oedd Iestyn ap Gwrgan, tad Tywysog cyntaf Afan, Caradog ap Iestyn.
Yn anffodus mae hanes rôl gwirioneddol Iestyn ap Gwrgan yn ymosodiad y Normaniaid ar Dde Cymru wedi mynd ar goll; a hanes diweddarach gan Syr Edward, sef chwedl Deuddeg Marchog Sir Forgannwg, ac ni wyddys beth oedd ei hynt yn y diwedd. Roedd Rhys Meyrick, yr hynafiaethwr o’r 16eg ganrif, wedi datgan bod Iestyn, ar ôl iddo gael ei drechu gan y Normaniaid, wedi ffoi gyda’i wraig, ac yn y pen draw wedi ceisio seintwar mewn man a elwir Sant Awstin ger Bryste. Wedi iddynt fyw yno am rai blynyddoedd aethant i fyw yn abaty Keynsham, lle bu’r ddau farw o henaint, a’u claddu yn niroedd yr Abaty. Serch hynny, ni sefydlwyd Abaty Keynsham tan yn ddiweddarach o lawer a, gan fod Meyrick wedi cydweithio gyda Syr Edward Stradling, crewr stori’r Deuddeg Marchog, ni allwn ond dweud bod y fersiwn yma ‘heb ei brofi’.14
Mae‘r darn arian coffaol hwn yn dyddio o 1795, a sy’n cael ei gadw yn Amgueddfa Abertawe, yn arddangos llun ffug o Iestyn ap Gwrgan, brenin Morgannwg yn yr 11eg ganrif.
Ar ôl marwolaeth Iestyn ap Gwrgan mae’n debyg bod y Normaniaid wedi ei chael yn gyfleus i adael i Caradog, ei fab hynaf, gadw’r tir rhwng afonydd Afan a Nedd, tiriogaeth yn ymestyn o Hirwaun yn y gogledd hyd at y môr yn Aberafan a Baglan; cafodd y diriogaeth hon ei hadnabod fel `Afan Wallia` (Afan Cymreig). Byddai teulu Caradog yn dylanwadu’n eithriadol ar sir ac ardal Morgannwg hyd at y 14eg ganrif. Roedd ei reolaeth yn ymestyn dros y Blaenau neu ardaloedd mynyddig Morgannwg gyfan, o Gastell-nedd hyd at ardaloedd uwch Afon Taf. Yn ei thro, roedd yr ardal hon wedi’i is-rannu i arglwyddiaethau llai o dan reolaeth ei frodyr iau,15 ac roedd hyn yn sefydlu’n glir16 Afan Wallia fel pencadlys gwrthsafiad cynnar y Cymry i’r Eingl-Normaniaid yn Ne Cymru. Am sawl cenhedlaeth byddai disgynyddion Caradog yn gwrthsefyll rheolaeth y Normaniaid ac, yn ystod chwarter olaf y 12fed ganrif, disgrifiwyd mab Caradog, Morgan ap Caradog, fel
“prif deyrn tiroedd mynyddig Morgannwg.” 17
Hyd yn oed wedi’r 14eg ganrif roedd disgynyddion uniongyrchol Tywysogion/ Arglwyddi Afan wedi dal i chwarae rhan bwysig ym materion diwylliannol a gwleidyddol De Cymru o’u pencadlys ym Mhlas Baglan. Mae’n hysbys bod y tŷ hwn wedi datblygu i fod yn fan cyfarfod beirdd enwog Cymru megis, er enghraifft, Dafydd ap Gwilym (1320- 1370), a fyddai wedi ymweld â’r lle ac, yn nes ymlaen, Ieuan Gethin (c. 1385-1450), a oedd yn byw o fewn ei furiau. Mae hyn yn dangos, fel y digwyddodd yn nhai mawr eraill Cymru, y ffordd yr oedd llinach Afan Wallia wedi cadw hunaniaeth Gymreig gref yn ystod, ac ar ôl, y cyfnod hwn pan roedd teyrnasiaeth ffiwdalaidd yr Eingl-Normaniaid yn llech-feddiannu’r tir.
Yn y cyd-destun hwn mae Ieuan Gethin, a oedd yn byw ym Mhlas Baglan, yn arbennig o ddiddorol gan fod mwy yn hysbys am ei fywyd nag y sydd o’i ragflaenwyr. Mae’n cael ei gydnabod fel y cyntaf o genhedlaeth newydd o feirdd, sef y cywyddwyr, a oedd wedi ymddangos ym Morgannwg yng nghanol y 15fed ganrif. Yn ei ieuenctid roedd ganddo enw am ragori yn ei fynegiant mewn cân ac yn ddychanol, a achosodd iddo gael ei ddisgrifio fel
“Ymladdwr dewr a meistr y pennill brathog.” 19
Roedd ei statws fel bonheddwr yn ei ryddhau o gyfyngiadau arferol y beirdd cyflogedig, y disgwyliwyd iddynt ysgrifennu marwnadau mwy ffurfiol y cyfnod ac, o’r ddeg darn o’i farddoniaeth sy’n weddill 20 cawn gipolwg o bortread mwy personol o fywyd canoloesol fel yr oedd yn Ne Cymru. Yn ogystal â’i ddawn fel bardd, yn ei ugeiniau cynnar honnir ei fod ef, neu ei dad Ieuan Las 23 wedi bod yn rhan o wrthryfel Owain Glyndwr dros annibynniaeth Gymreig, gan dargedu cestyll Eingl-Normanaidd Morgannwg – er bod rhaid amau’r honiad yma, gan ei fod yn ymddangos taw Iolo Morgannwg yw’r ffynhonnell. (Roedd Iolo yn hynafiaethydd, ond hefyd yn rhamantwr a, gan fod llawer o’i ffynonellau wedi mynd ar goll erbyn hyn, mae’n anodd penderfynu pa rhai o’i storïau sydd i’w credu fel ffeithiau, a pha rhai sy’n ffuglen).