Tywysogion Afan


Pennod 10: Diwedd y Llinach yn Aberafan

Fel arfer, ystyrir Leisan ap Morgan Fychan i fod yr Arglwydd Afan a gafodd ei gymhathu gan ei uwch-arglwyddi, gan fabwysiadu eu harferion ac hyd yn oed eu steil ar enwau. Mae’n cael ei gofnodi fel Leisan de Avene (er fe allai hyn fod ond yn fersiwn Lladin, ar adeg pan taw dyna oedd dal iaith dogfennau swyddogol. Felly, byddai D’Avene yn gwbl rhesymegol yn y cyd-destun. Cafodd ei siarter i fwrseistref Aberafan ei gyhoeddi o dan yr enw Leisan ap Morgan). Rhestrwyd ei wraig fel Margaret (neu Sibyl) de Sully – a’i hi, yn hytrach na Leisan, oedd wedi dewis yr enwau John a Thomas i’w meibion? Dywedir taw ei hysbryd hi a oedd yn aflonyddu adfeilion y castell, sy’n awgrymu ei bod hi’n dipyn o ddraig fel menyw.1

Roedd cenhedlaethau cynharach wedi priodi gwragedd Cymreig ond, er bod pedwar Tywysog diwethaf Afan a’u plant wedi priodi merched Eingl-Normanaiaid – Turberville a de Barri er enghraifft – nid oedd hyn yn anarferol ac, yn sicr ddim yn arwydd bod Tywysogion Cymru, yn y Gogledd a’r De, yn gwrthod eu rhwymau brodorol. Roedd eitefedd Leisan, Syr John, wedi priodi Isabel de Barri, a’i mab Thomas wedi priodi Maud, y mae ei henw’n awgrymu ei bod hithau hefyd o dras Eingl-Normanaidd. Dywedir bod y Turbevilleiaid wedi meddiannu Coity drwy briodi etifeddes Gymreig, ac roedd Mallt, chwaer Morgan Gam, wedi priodi Gilbert de Turberville. Priododd Llywelyn Fawr Siwan, merch y Brenin Ioan.

Manylyn o arch garreg Siwan yn Eglwys y Santes Fair a Sant Niclas, Biwmares.
Llywelyn 2000, CC BY-SA 4.0
o Wikimedia Commons

Oherwydd bod yr undeb rhwng Tywysog Cymreig a gwraig Eingl-Normanaidd yn digwydd mor gyson, nid yw ei berthnasedd wedi’i nodi yn llawn – roedd tuedd i hepgor gwragedd o’r siartiau achau – ond roedd y math hwn o gydbriodas yn nodweddiadol o’r Mers, ac roedd Afan, mewn llawer ffordd yn estyniad ohono, felly nid yw’n golygu, fel sy’n cael ei grybwyll yn aml, bod y naill ochr neu’r llall wed troi’n rhyw fath o gydweithredwr canol oesol. John a Thomas oedd meibion Leisan, ond derbyniodd meibion Thomas yr enwau Thomas a Morgan, tra bod Leisan arall wedi’i gynnwys yn rhyw fan hefyd, felly mae’n ymddangos bod mabwysiadu enwau Seisnig ond yn nodwedd dros-dro. Roedd canghennau eraill, megis cangen Ieuan Gethin ym Mhlas Baglan, wedi parhau i ddefnyddio enwau Cymreig.

Arfbais Avene
Trwy garedigrwydd Paul R Davies

Cyhoeddodd Leisan de Avene ei siarter tua 1304, a chyhoeddodd Thomas, ei wŷr, siarter arall i’w gadarnhau yn 1349. Ceir ychydig o gyfeiriadau wedi hynny, ond mae’r rhain yn dod i ben tua 1359. Cyhoeddwyd y siarter nesaf, tra gwahanol, yn 1373 gan Edward Despenser, olynydd teulu’r de Clare fel Arglwydd Morgannwg.2 Roedd y teulu Afan yn dal ei dir yn yr ardal, ond roedd yr arglwyddiaeth wedi diflannu. Mae’r hanes traddodiadol o’r ffordd y digwyddodd hyn yn dweud bod gan Thomas, arglwydd diwethaf Afan, ond un ferch, sef Jane, yn etifeddes iddo; roedd hi wedi priodi Syr William Blount ac roedd y pâr wedi cyfnewid eu tiroedd yng Nghymru am diroedd Despenser yn Lloegr, ac wedi symud i ffwrdd i’w cartref newydd.3  Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddogfennaeth wedi goroesi i gadarnhau hyn ac mae Leslie Evans, yn ei hanes Arglwyddi Afan yn cynnig awgrym tra gwahanol. Roedd wedi darganfod bod person o’r enw Leisan d`Avene wedi derbyn grant ‘rhenti maenor Winderton ym Mlwyf Brailes, Swydd Warwick, am oes i’w ad-dalu am werth 100 marc o dir yng Nghymru roedd Edward [Despenser] wedi derbyn oddiwrth y Leysant dywededig’. Cafodd ymddiriedolwyr maenor Winderton eu gorchymyn i dalu’r swm i Leisan ar ffurf blwydd-dâl o ddeg marc y flwyddyn. Yn ddiweddarach, daeth Evans ar draws yr hwn a dybiodd oed yr un Leisan, yn gwasanaethu fel casglwr trethi yn Swydd Lincoln, ac yna’n derbyn ôl-feddiant maenor Frithby yn Swydd Gaerlŷr yn dilyn marwolaeth y Fonesig Mary Belers. Rhaid cyfaddef y gall y teitl ‘casglwr trethi’ fod yn gamarweiniol – roedd siryfion y siroedd yn gasglwyr trethi, ond roeddent yn cyflogi staff i wneud y gwaith casglu go-iawn; fodd bynnag, rhaid dweud nad yw blwydd-dâl gwerth deg marc y flwyddyn, ac ôl-feddiant maenor. yn taro dyn fel iawndal rhesymol yn gyfnewid am arglwyddiaeth Afan.

Mewn gwirionedd, efallai ei bod hi’n bosibl cyfuno’r ddwy stori. Yn 1340, er ei bod y ymddangos bod Syr John d`Avene yn dal yn fyw, roedd gweithredoedd ei ystadau wedi cael eu trosglwyddo i’w frawd, Thomas, a oedd yna wedi’u trosglwyddo i feddiant Syr Robert de Penrice i’w diogelu. Roedd Syr Robert wedi cyhoeddi gweithred yn rhestru’r dogfennau a dderbyniodd, ond heb rhestru unrhyw fanylion ynghylch eu cynnwys. Roedd un o’r rhan yn indentur o gyfamodau a gytunwyd rhwng Leisan de Avene a Sir Thomas Blount. Ac er nad yw pwrpas neu gynnwys y cyfamod yn hysbys i ni, mae’n dangos bod cysylltiad rhwng y ddau deulu.4

Dyma oedd cyfnod y Rhyfel Can Mlynedd, felly ‘rydym yn darganfod, yn 1373, un Leisan de Avene yn aelod o osgordd Despenser pan roedd y diwethaf wedi ymuno â John o Gaunt a’r Tywysog Du ar eu ffordd i Frainc i geisio codi’r gwarchae ar Aquitaine.5 Roedd Leisan yn un o dri yswain o Gymro, a 49 saethwr, a oedd wedi ymuno â Despenser, allan o gyfanswm o 599 o ddynion. (Roedd yswain yn nesaf i lawr mewn gradd i farchog. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach roedd Owain Glyndŵr hefyd wedi ymladd fel yswain mewn byddin frenhinol.) Er taw dim ond tri yswain y mae’n bosibl eu hadnabod wrth eu henwau eu bod yn Gymry, roedd hefyd nifer o foneddigion Eingl-Normanaidd Morgannwg yng ngosgordd Despenser: Stradling, St. John, Berkerolles ac eraill. Erbyn hyn roedd rhyngbriodas yma, ac yn gyffredinol ar draws y Mers, wedi creu grŵp cymdeithasol newydd, nad oes, mewn rhai ffyrdd, wedi’i gydnabod. Felly, mae’n debyg y byddai Leisan yn teimlo ei fod ymysg ei gyfeillion, ac nid yn ddiethryn mewn byddin estron. Yn 1376 roedd Leisan yn Calais (ar y pryd hwnnw yn glofan Seisnig) ac roedd ef ac un John Martyn wedi derbyn, ar y cyd, taliad rhyfel gwerth £100 am wasanaethu yno; roedd Martyn, a oedd yn wreiddiol o Swydd Northampton, yn Calais am dros ugain mlynedd. Ymysg y prif gymeriadau yn y fyddin Seisnig oedd Syr Walter Blount, ac er nad oes unrhyw gyfeiriad penodol bod Syr Walter yn gysylltiedig â Chalais, roedd gan ei ddau fab a’i wŷr gysylltiad agos â’r dref, gan iddynt wasanaethu fel llywodraerthwyr a dau o drysoryddion y dref. Nid yw perthnasedd y ffaith yma’n gwbl glir ar hyn o bryd, ond mae’n werth nodi. 

Mae wedi’i gymryd yn ganiataol yn y gorffennol, gan Leslie Evans ac eraill, gan nad oes cofnod clir o briodas Avene/ Blount, bod y Leisan yma’n fab ac etifedd i Thomas d`Avene, a’i fod wedi ildio ei etifeddiaeth am ystadau yn Lloegr, ond mae hyn yn ymddangos yn annhebygol. Nid oes unrhyw ddogfennau ar gael yn dangos gwir faint arglwyddiaeth Afan ac mae’n sicr bod rhannau ohono wedi’u trosglwyddo yn y gorffennol, nid lleiaf i Abaty Margam ond, yn 1349, roedd Syr John d`Avene yn meddu ar dri ffi marchog yn Afan Wallia. Ffi marchog oedd y maint o dir yr oedd ei angen ar farchog i gynnal ei hun, ei deulu a’i weision, ac i’w alluogi i gaffael arfau ac offer iddo ef ei hun a’i osgordd pe’i gelwid arno i ymladd dros ei arglwydd. Yn fras, roedd hyn y hafal â maenor – rhwng 1000 a 5000 o erwau, gan ddibenu ar ffrwythlondeb y tir. Roedd inquisitio post mortem a gynhaliwyd yn 1349 yn nodi bod Syr John yn dal tiroedd gwerth £40 y flwyddyn; dywedwyd i Leisan gyfnewid gwerth 100 marc o dir am flwydd dâl o 10 marc (£6/13/4); os roedd ei diroedd gwerth £40 y flwyddyn, yna roedd wedi taro bargen wael iawn. A phaham y byddai am gyfnewid sefyllfa o beth pwysigrwydd am swydd fel casglwr trethi, hyd yn oed os nad yw’r swydd honno mor sylfaenol ag y mae’n ymddangos.6

Os taw merch, a oedd yn ddi-briod adeg marwolaeth ei thad, oedd etifeddes Thomas d`Avene, fel y mae’r traddodiad a rhai coed achau’n cofnodi, yna Despenser fyddai wedi penderfynu ar ei gwarchodaeth a’i phriodas; ni fyddai priodi ag un o deulu’r Blountiaid wedi’i dilorni, ac mae’n siwr y byddai ei gŵr Blountaidd yn hapus i gyfnewid Afan Wallia am ystadau yn agosach at ei gartref. (Yn ddiweddarach, roedd un Syr George Blount o Sir Amwythig wedi honni ei fod yn ddisgynnydd o’r briodas Blount-d`Avene yma.)7 O ran Leisan, efallai nai neu gefnder Thomas, byddai meddiannu ei barsel tir yn cloi’n daclus caffaeliad newydd Despenser, gan adael Leisan yn rhydd i ddilyn gyrfa mwy cyffrous yn y rhyfeloedd Ffrengig. Yn gynharach, roedd Syr John wedi cyfnewid ei faenor yn Sili am Lansawel, cyfnewid tebyg, er mwyn atgyfnerthu ei ystadau. 

TYWYSOGION AFAN:  Parhad yr Hanes

Mae’n annhebyg y byddwn yn gwybod sut yn union y daeth yr arglwyddiaeth i ben, ond nid oedd hynny yn golygu diwedd y teulu yn ar ardal neu thu hwnt. Os oedd y brif llinach wedi dod i ben heb etifedd dilys, roedd dal nifer o ganghennau’n bodoli, canghennau a oedd wedi priodi’r bonheddigion lleol ac wedi cynhyrchu eu hetifeddion eu hunain. Roedd rhain wedi ffynnu, ac yn dal i wneud hynny, gan adael eu holau ar hanes gwleidyddol, diwydiannol a diwylliannol Cymru. Mae un gangen yn benodol, cangen Rhys ap Morgan Fychan, brawd Leisan d`Avene, yn arbennig o nodedig am ei chyfraniad.8 Nid yw’n glir p’un air oedd gan Dywysogion Afan unrhyw breswylfa cynnar ym Maglan; mewn Estent o’r sir a gynhaliwyd yn 1262, cofnodwyd bod Morgan Fychan yn berchen ar hanner cwmwd ym Maglan ac, ar hyn o bryd, mae Plas Baglan yn cael ei ddyddio i ddiwedd y ddeuddegfed ganrif / dechrau’r drydedd ganrif ar ddeg; dim ond arolwg archeolegol manwl all ddatgelu ei hanes cynnar mewn unrhyw fanylder. Fodd bynnag, daeth Rhys ap Morgan Fychan i fyw ym Mhlas Baglan ac, os yw’r dyddiad cynharaf yn gywir, yna nid efe oedd adeiladwr y Plas. Byddai pedwar teulu nodedig yn ddisgynyddion iddo; y Thomasiaid, yn ddiweddarach y teulu Llewellyn, o Neuadd Baglan; Efansiaid Llansawel, yn ddiweddarach y teulu Mackworth, o’r Gnoll a Williamsiaid Aberpergwm; roedd Williamsiaid Blaen Baglan hefyd y ddisgynyddion i Rhys, ac wedi gadael eu marc yn lleol. Y ddau mwyaf adnabyddus o’r disgynyddion hyn oedd Ieuan Gethin a Williamsiaid Aberpergwm.

Adluniad a awgrymir o Blas Baglan o gyfeiriad y gogledd, gan Paul R Davis
(o Towers of Defiance Y Lolfa 2021).

Gor-wŷr Rhys oedd Ieuan Gethin, etifedd Plas Baglan, ac yn cael ei gofio am ei farddoniaeth.9 Yn ffodus ddigon mae digon ohono wedi goroesi i arddangos ei sgil ac ystod ei bynciau, o sylwadau doniol ar fywyd i farwnadau dwys i sawl un o’i blant, a oedd wedi marw o’r pla. Roedd nid yn unig yn fardd, ond hefyd yn noddwr beirdd, gan gadw tŷ agored iddynt ym Mhlas Baglan, ac mae cerddi mawl iddo gan ddau fardd arall, sef Ieuan Ddu ac Iorwerth Fynglwyd, wedi goroesi. Rhoddir amrywiol ddyddiadau am ei oes – 1405–1464, 1437-1490. yn ei flodau 1450. Fodd bynnag, mae Iolo Morgannwg yn honni iddo gymryd rhan yng ngwrthryfel Glyndŵr, a oedd wedi dod i ben o’r diwedd erbyn 1415. Mae’n bosibl bod Iolo wedi’i gamarwain gan ganu mawl Ieuan i Owen Tudur, tadcu y Brenin Harri’r VII, ond mae cyfeiriad at Ieuan Gethin a’i wraig yn derbyn pardwn yn 1410, sy’n awgrymu eu bod wir wedi bod yn rhan o ymgyrch Glyndŵr. Yn sicr, roedd un o’r beirdd a ganodd fawl iddo wedi dweud ei fod yn filwr nodedig. Fodd bynnag, os oedd Ieuan Gethin wedi bod yn rhan o’r ymgyrch hwn neu Ryfeloedd y Rhosynnau – felly ei ddiddordeb yn Owen Tudur – hyd yn hyn nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn.

Nid yw’n glir pwy oedd olynodd Ieuan Gethin ym Mhlas Baglan. Mae’r achau Cymreig yn nodi Gwilym, ond does dim tystiolaeth ohono ym Maglan ac nid yw wedi enwi ym marwnad Ieuan i’w blant; roedd ei frawd ifancach Thomas yn dal tir ger Corneli. Efa, sydd ambell waith yn cael ei nodi fel chwaer Ieuan, ambell waith fel ei ferch, oedd yn gyfrifol am barhau’r llinach ym Maglan.10 Roedd hi wedi priodi David ap Hopkin o Ynysdawe, hefyd yn un o ddisgynyddion teulu Afan, a’u trydydd mab, John ap David, oedd cyndad Thomasiaid Plas Baglan ac, yn ddiweddarach, Neuadd Baglan, lle y symudodd y teulu yn hwyrach yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn hwyrach yn yr ail ganrif ar bymddeg roedd aelod o’r teulu, Robert Thomas, yn Anghyffurfwr cynnar, ac yn gwasanaethu fel gweinidog i grŵp cymysg o Annibynnwyr a Bedyddwyr, a oedd yn drwyddedig i gyfarfod yn Neuadd Baglan. Anthony, mab ac etifedd Robert, oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r disgrifiad o blwyf Baglan ar gyfer Parochialia Edward Lluyd; nid yw’r hanes yn hir, ond mae’n llawn manylion diddorol am yr ardal, gan gynnwys un o’r hanesion cynharaf ynghylch peryglon cloddio am lo. Yng nghanol y deunawfed ganrif daeth llinell wrwaidd y Thomasiaid i ben, ond parhaodd y llinach drwy’r merched, tan i Catharine Jones briodi Griffith Llewellyn yn 1794, ac roedd Griffith ei hun yn ddisgynnydd i Morgan Fychan, Arglwydd Afan.  Yn dilyn marwolaeth Mrs Harriet Llewellyn yn 1952, gadawodd y teulu Neuadd Baglan am y tro diwethaf; dymchwelwyd y Neuadd yn 1958, ond mae adfeilion Plas Baglan yn dal yno i ddwyn tystiolaeth.11

Neudd Baglan
Tryw ganiatâd Cymdeithas Hanes Port Talbot

Hopkin ap Evan, brawd Gethin, oedd cyndad Williamsiaid Blaen Baglan ac Williamsiaid Aberpergwm fel ei gilydd. Roedd ei oror-wŷr William ap Jenkin – a oedd wedi dal Blaen Baglan, ac wedi’i drosglwyddo i’w fab George, (a fabwysiadodd y cyfenw Williams, fel y gwnaeth ei frawd Jenkin) – ac roedd yntau wedi etifeddu eiddo ei dad yn Aberpergwm ac wedi ymgartrefu yno. George oedd yn gyfrifol am adeiladu’r tŷ ym Mlaen Baglan; er iddo wasanaethu fel tŷ fferm yn ystod y canrifoedd diweddarach, roedd yr adeilad Tuduraidd yn dŷ bonedd sylweddol, heb fod yn annhebyg i Lancaiach Fawr, ond ar ddau lawr, yn hytrach na thri.

Braslun o Flaen Baglan
A.L. Evans Hawlfraint WGRO

Mae’n bosibl taw George Williams oedd y mwyaf nodedig o’r gangen hon o’r teulu. 12 Roedd wedi parhau traddodiad y teulu fel noddwr cerddoriaeth a llenyddiaeth, ac efe oedd stiward maenoriaid Afan ac Afan Wallia, yn ogystal a bod yn Gwnstabl Castell Aberafan. Mae Lewis Dwnn yn ei ddisgrifio fel cawr mewn brwydr, er ni wyddys sut, neu ymhle, yr oedd wedi ennill yr enw hwnnw. Yn sicr roedd iddo enw fel cymydog cyfreithgar a milwrus yn lleol, gan ymddangos ddwywaith gerbron Siambr y Seren yn Llundain yn 1584, yn gysylltiedig â llongddrylliad yn Aberafan, a hawliwyd gan Iarll Penfro a Syr Edward Mansel o Fargam ill dau, ac hefyd yn dilyn ymosodiad arno gan nifer o ddynion lleol. Mae ei fedd, cofeb hardd nid yn annhebyg i rai y teulu Mansel yn Abaty Margam, er nad oes arno ddelwedd o George a’i wraig, yn Eglwys Sant Mihangel, Cwmafan. Daeth ei linach i ben yn 1691 ac, yn dilyn hyn, bu Blaen Baglan yn gartref i gyfres o ffermwyr. Ers 1956 mae’r lle’n wag ac erbyn hyn, yn anffodus, yn adfail sy’n wynebu’r risg o ddadfeilio’n gyfangwbl.

Fferm Blaen Baglan yn 2012 Ffotograff gan Tim Rees

Roedd tad George, William ap Jenkin, wedi prydlesi fferm a degwm yn Aberpergwm oddiwrth Leison Thomas, cyn abad Nedd, a’i adael i’w ail fab, Jenkin, a ymsefydlodd ei deulu yno, tua 1580 mae’n debyg.13  Roedd y cenedlaethau olynol wedi, yn gyson, cadw at eu dyletswyddau dinesig fel aelodau o’r bonedd lleol ac roeddent yn noddwyr beirdd; er ei fod yn gyflogedig fel tiwtor teuluol, Dafydd Nicholas (1705-1774), oedd, i bob pwrpas, bardd teulu diwethaf Cymru. 

Portread o Maria Jane Williams
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Parth Cyhoeddus, via Wikimedia Commons

Aelod mwyaf enwog y teulu yw Maria Jane Williams (1795-1873). Roedd hi a’i siblingiaid wedi cael addysg dda, ac roedd Maria yn chwarae’r delyn a’r gitâr; roedd hi’n gysylltiedig â Chymreigyddion y Fenni, cylch Arglwyddes Llanofer, ac enillodd wobr yn Eisteddfod y Fenni yn 1838 am ei chasgliad arloesol o ganeuon gwerin. Roedd hefyd wedi cyhoeddi casgliad o straeon gwerin o Gwm Nedd, a chafodd ganmoliaeth fawr am ddilysrwydd y deunydd roedd wedi’i gasglu. Roedd ei brawd William wedi teithio’n eang ac yn ysgrifennu barddoniaeth. 

Ysgythrad o Dŷ Aberpergwm, Glyn nedd, Cymru. The History and Antiquities of Glamorgan-shire and its Families gan Thomas Nicholas (1874), t. 17.
y Parth Cyhoeddus, via Wikimedia Commons

Er bod y Williamsiaid dal i fod yn berchen ar Aberpergwm a’r ystâd, ar ôl yr Ail Rhyfel Byd cafodd ei brydlesi gan y Bwrdd Glo, a oedd yn defnyddio’r tŷ fel swyddfeydd ac yn cloddio am lo yn y parc; yn y diwedd gadawyd y tŷ i adfeilio. 

Tŷ Aberpergwm 2010
Vouliagmeni, y Parth Cyhoeddus, via Wikimedia Commons

Roedd dau ddisgynnydd arall Rhys ap Morgan Fychan hefyd wedi sefydlu teuluoedd bonedd lleol. William oedd cyndad Priceiaid Ynysmaerdy, Llansawel, ac roedd ei ddisgynyddion wedi chwarae eu rolau fel arweinyddion y sir, gan wasanaethu fel ynadon, siryfiaid ac Aelodau Seneddol.14 Yn y pen draw, daeth y teulu i ben gan adael etifeddes, jane, a briododd i deulu Manseliaid Margam. Roedd ei mab Bussy yn gefnogwr brwd o’r Senedd yn ystod Rhyfeloedd Cartref yr ail ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag bu farw Thomas, mab Bussy, heb etifedd a gadawodd ei ystâd i’w fab bedydd, Bussy arall, a ddaeth yn Arglwydd Margam. Yn anffodus, roedd prif ystâd Margam wedi’i entaelio yn y llinell wrwaidd, a dim ond merch oedd gan Bussy; gadawodd hi ystâd Llansawel, nad oedd wedi’i entaelio, i William Villiers, mab ffrind, a fu hefyd farw heb etifedd, felly fe aeth yn eiddo i’w frawd yntau, Iarll Jersey. 

Roedd Efansiaid Gnoll hefyd yn ddisgynyddion Rhys ap Morgan Fychan.15 Roeddent wedi ymgartrefu yn nhref Castell Nedd, er bod ganddynt hefyd dir yn y Gnoll. Roedd David ap Evan, goror-wŷr Rhys ap Morgan, yn fasnachwr halen – yn y dyddiau hynny, cyn cyfnod oergelloedd, roedd halen yn nwydd sylfaenol. Ar un adeg cafodd ei ddifreinio am iddo gymryd rhan mewn gwrthdystiad. Dilynodd ei fab David, a gymerodd y cyfenw Evans, yrfa yn y gyfraith, ac efe oedd yr ail frodor o Forgannwg i’w ethol yn AS. Ar yr adeg honno roedd y teulu yn byw yn Nhŷ Mawr yn nhref Castellnedd; nid yw’n hysbys pa bryd yr adeiladwyd y tŷ cyntaf yn y Gnoll – yn ôl pob tebyg, yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg, er bod darluniau o’r dref yn dangos tŷ steil cyfnod Elisabeth o flaen y plasdy Mackworth diweddarach. Yn ddiweddarach, fel y digwyddodd mor aml yn y ddeunawfed ganrif, daeth llinach yr Evansiaid i ben gan adael etifeddes, Mary, a briododd Syr Humphrey Mackworth.  Bu’r etifedd Evans-Mackworth diwethaf farw yn 1794, ond roedd y tŷ yn dal i sefyll tan iddo gael ei ddymchwel ar ôl yr Ail Rhyfel Byd; yn ffodus mae’r tiroedd, a dirluniwyd gan y teulu Mackworth, erbyn hyn yn barc cyhoeddus.

Castell Gnoll, Sir Forgannwg, gan Neale, John Preston, 1780-1847 Hobson, H., fl. 1810, ysgysthrwr.
Y Casgliad Tirluniau Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Partth Cyhoeddus, via Wikimedia Commons

Er i’r teuluoedd hyn ddod i ben yn aml yn dilyn priodasau heb blant, roedd disgynyddion Caradoc ap Iestyn a’i frodyr mor ffrwrythlon fel bod mwy nag ychydig yn dal o gwmpas ac, yn aml, yn chwarae rhan flaenllaw yng Nghymru a’r byd. Roedd R. D. Blackmore, a ystyrir mor aml yn gymeriad archdeipaidd o Dde Orllewin Lloegr, yn disgyn o’r teulu Lougher, ac wedi lansio ei yrfa fel awdur a garddwr drwy werthu tir yn Aberafan yr oedd wedi’i etifeddu oddiwrth ei ewythr, Henry Hey Knight, ficer Castellnedd.16  Mae Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, a’i frawd, yr hanesydd Prys Morgan hefyd yn ddisgynyddion Lougher ac, os yw’r awgrym yn cael ei gadarnhau bod Powelliaid Carreg Cennen yn ddisgynyddion, yna mae modd ychwanegu William Wilkins, un o’r rhai a oedd yn gyfrifol am sefydlu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac achub plasdy Aberglasney, at y restr anrhydedd.

CYFEIRIADAU

1. EVANS, A.L. The Lords of Afan in Transactions of the Port Talbot Historical Society, Vol. II, No. 3, 1974, p. 31
JONES, J.T, The Charters of Afan in Transactions of the Aberavon and Margam District Historical Society, 1928, pp. 45-6
2. O`BRIEN, J, Old Afan and Margam, The Author, 1926, pp. 70-78 (But see also, Dulley, A. The Aberafan Charter, c.1306, above.)
3. EVANS, A. L. The Lords of Afan, pp. 38-30
4. EVANS, A. L., The Lords of Afan, p.36
5. CHAPMAN, Adam, Welsh Soldiers in the Later Middle Ages, 1282-1422, Boydell and Brewer, 2015 p.84
6. EVANS, A.L. The Lords of Afan, p.36
7. EVANS, A.L. The Lords of Afan, pp. 36, 38, 21
8. EVANS. A.L. The Story of Baglan, The Author, 1970, pp. 27-8
9. EVANS, Baglan, pp. 28-32
OWEN, Ann Parry. `An audacious man of beautiful words`: Ieuan Gethin (c. 1390-1470)
in Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 2014, pp. 1-39
10. EVANS, Baglan, pp. 35-38. Also see OWEN, Ann Parry, above
11. EVANS, Baglan, pp 32-54
12. EVANS, Baglan, pp. 55-64
PHILLIPS, D, Rhys, The History of the Vale of Neath, The Author, 1926, pp. 391-2
13. PHILLIPS, D. R. pp. 464-374
14. PHILLIPS, D.R. pp. 382-301
15. PHILLIPS, D, R. pp. 374-380
16. JONES, S. R.D. Blackmore and Glamorgan in Transactions of the Port Talbot Historical Society. Vol/ III, No.3, 1984, pp. 97-101