Tywysogion Afan
- Tywysogion Afan
- Pennod 1 Dihirod neu Arwyr?
- Pennod 2 Seliau Swydd
- Pennod 3 Y Siartir Aberafan
- Pennod 4 Lle yr Oeddant yn Byw
- Pennod 5 Lle yr Oeddant yn Addoli
- Pennod 6 Safeleoedd Canoloesol Eraill yn Gysylltiedig a Llinach Afan Wallia
- Pennod 7 Ieuan Gethin a Beirdd Eraill
- Pennod 8 Llinell Amser sy’n Berthnasol i Dywysogion Afan
- Pennod 9 Tywysogion Afan yn y Cyd-destun Ehangach
- Pennod 10: Diwedd y Llinach yn Aberafan
Pennod 2: Seliau Swydd
Mae’n bosibl cael syniad o statws Tywysogion Afan drwy astudio eu seliau swydd. Erbyn dechrau’r 12fed ganrif roedd yr Eglwys a chymeriadau lleyg pwysig ill dau yn defnyddio seliau cwyr swyddogol i ddilysu eu dogfennau, yn bennaf mewn ymateb i’r llu o ddogfennau ysgrifenedig a oedd yn ymddangos yn ystod y cyfnod hwn. Roedd hyn yn arbennig o wir am y sefydliadau crefyddol newydd megis Abaty Margam, lle yr oedd y Sistersiaid yn awyddus i gadw cofnod parhaol o’u cyfathrebu gyda’r rheolwyr Cymreig brodorol.
Hyd at ddiwedd y 13eg ganrif y prif motiff sêl a fabwysiadwyd gan y mwyafrif o’r rheolwyr brodorol hyn oedd ffigwr y marchog arfog. Mae’r defnydd o farchog arfog fel y brif ddelwedd ar eu seliau yn dyddio o’r 11eg ganrif – mae’r hynaf y mae cofnod ohoni’n perthyn i Wilym I. Roedd y marchog arfog hefyd yn asio’n dda gyda’r ideoleg Gristnogol bod Cristnogaeth yn drech na phaganiaeth. I’r boblogaeth leol, byddai’r ddelwedd o arweinydd sy’n gryf mewn brwydr, a ganddo’r gallu i amddiffyn y rhai a oedd yn dangos teyrngarwch iddo, yn rhoi sicrwydd iddynt. Felly, roedd y cynllun ar gefn ceffyl yn gynrychioliad delfrydol o’r bonheddwyr milwrol, marchogion a oedd yn gymdeithion brenhinoedd a thywysogion.
Mae’n ffaith rhyfedd i’w chredu taw ail Dywysog Afan, Morgan ap Caradog, oedd y Cymro brodorol cyntaf i berchen ar sêl at ddiben dilysu, sef y sêl a ddangosir isod. Nid yw’r union ddyddiad yn hysbys ond credir iddi gael ei defnyddio yng nghanol y 12fed ganrif.
Sêl marchogol gyntaf Morgan ap Caradog, ail Dywysog Afan
Penrice a Margam Ch. 54
Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sêl Morgan ap Caradog, ail Dywysog Afan
Penrice a Margam Ch. 2019
Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Roedd mab Morgan, Lleision ap Morgan, yn berchen ar sêl gyntaf braidd yn anarferol, a ddangosir yma, y mae dal cryn drafod ynghylch ei ddadansoddiad. Wedi’i ddyddio rhwng 1208 a 1217, mae’n bosibl taw Lleision yw’r ffigwr ar y chwith, yn dal llyfr neu siarter gyda sêl grog, fel petai’n tyngu llw i’r ffigwr crefyddol pwysig sy’n eistedd yn ei ymyl; mae’n bosib bod hwn yn ddylyniad o’r Fair Forwyn, y cysegredwyd Abaty Nedd iddi. Mae’n hysbys bod Lleision a’i dad Morgan wedi, ar sawl achlysur, tyngu llwon ar y creiriau sanctaidd hynafol ym Margam, a gadwyd mewn croes yn hongian uwchben y brif allor. Mae dadansoddiad amgen yn honni efallai taw crwth, offeryn cerdd llinynnol bychan, yw’r gwrthrych yn nwylo’r ffigwr sy’n penglinio, neu efallai clarion, o bosib yn dynodi pwysigrwydd cerddoriaeth a barddoniaeth ymysg Tywysogion/ Arglwyddi Afan.
Sêl gyntaf Lleision ap Morgan (marw c. 1217)
Penrice a Margam Ch. 111
Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ail sêl Lleision ap Morgan (marw c.1217)
Penrice a Margam Ch. 109
Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae arolwg diweddar o’r seliau a ddefnyddiwyd gan Dywysogion Afan yn y 12fed a’r 13eg ganrif yn honni eu bod nid yn unig yn cyhoeddi statws eu perchnogion yng nghyd-destun cymdeithas, ond hefyd statws ei perchennog o fewn ei grŵp carennydd ei hun. Roedd yr arfer Cymreig hynafol, sef Cyfran, (yr arfer o rannu etifeddiaeth rhwng brodyr) wastad yn cynnig y posibilrwydd o danseilio’r gymdeithas Gymreig, a byddai yn sicr wedi cael effaith andwyol pan yn ystyried unrhyw strategaeth hir-dymor i wrthsefyll y Normaniaid. Mae wedi’i awgrymu bod Morgan ap Caradog a’i feibion wedi cryfhau eu sefyllfa ar rheng flaen y tiroedd Eingl-Normanaidd drwy gyfuno eu tiroedd llinachyddol yn un brif uned; byddai hyn wedi golygu rhoi heibio’r arfer Cyfran er mwyn atgyfnerthu eu gwrthsafiad torfol. Felly mae’r seliau, gan gadarnhau fel y maent un arweinydd, yn ymddangos eu bod yn cefnogi’r ddadl bod Morgan ap Caradog o blaid ffurf ar gyntaf-anedigaeth. Erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd llinach Afan Wallia wedi troi cefn ar y ddelwedd o farchog ar eu seliau o blaid delweddau yn cynnwys y symbol tri chwpwl, gan efelychu eu penarglwyddi (a thylwyth trwy briodas) teulu’r de Clare. Nid oedd hyn yn anarferol; wedi 1300 dim ond y pendefigwyr uchaf oedd yn dal i ddefnyddio seliau marchogol, tra bod y gweddill wedi symud ar symbolau herodrol.
Mae seliau Tywysogion Afan yn cynnig ffynhonnell werthfawr o wybodaeth hanesyddol ynghylch y ffordd yr oedd eu cymdeithas yn addasu at amgylchiadau a oedd yn newid yn gyflym. Roeddent yn rhan o elitaeth llywodraethol Cymreig a oedd nid yn unig yn fedrus pan yn amddiffyn eu cyd-wladwyr gydag arfau, ond roedd hefyd yn ddiplomyddion goleuedig a chlyfar, a oedd yn defnyddio eu strategaethau diplomyddol i integreddio, lle roedd hynny’n briodol, gyda’r dosbarth llywodraethol newydd. Er enghraifft, adeiladwyd Abaty Margam gan y Normaniaid; serch hynny, heb gydweithrediad y Tywysogion, yn arbennig yn ystod y cyfnodau cynnar o gynllunio ac adeiladu, byddai’r Sistersiaid wedi cael problemau dyrys yn adeiladu eu mynachlog o gwbl. Mae gwell dealltwriaeth o seliau tywysogion Afan yn rhoi inni gyfle i werthfawrogi eu cyfyng-gyngor, fel gwarcheidwaid gwlad hynafol yr oedd ei bodolaeth, yn y Canol Oesoedd, yn wynebu perygl mawr o ddiflannu.
Symbol herodrol y teulu Avene
Trwy garedigwrydd Paul R Davies
CYFEIRNODAU
NEW, E.A. Lleision Morgan makes an impression: seals and the study of medieval Wales, yn
Welsh History Review, 26:3, t. 327-350
McEWAN, J. A. NEW, E.A. and SCHOFIELD, P. Seals and Society: Medieval Wales, the Welsh Marches and their English Border regions, University of Wales Press, 2016
DAVIES, Thomas Lee, Keeping up with the neighbours: cultural emulation, integration and change in South East Wales. 1050- c. 1350. PhD thesis, Bangor University 2023