Tywysogion Afan
- Tywysogion Afan
- Pennod 1 Dihirod neu Arwyr?
- Pennod 2 Seliau Swydd
- Pennod 3 Y Siartir Aberafan
- Pennod 4 Lle yr Oeddant yn Byw
- Pennod 5 Lle yr Oeddant yn Addoli
- Pennod 6 Safeleoedd Canoloesol Eraill yn Gysylltiedig a Llinach Afan Wallia
- Pennod 7 Ieuan Gethin a Beirdd Eraill
- Pennod 8 Llinell Amser sy’n Berthnasol i Dywysogion Afan
- Pennod 9 Tywysogion Afan yn y Cyd-destun Ehangach
- Pennod 10: Diwedd y Llinach yn Aberafan
Pennod 3: Siarter Aberafan, c. 1306
Heb os un o drysorau ein casgliad yw siarter Leisan ap Morgan i Aberafan, a dyma yw’r diweddaraf mewn cyfres o siarteri i ymddangos yn nhudalennau’r adroddiad hwn, ynghyd â thrawsgrifiad a chyfieithiad newydd. Roedd Leisan ap Morgan yn un o ddisgynyddion Iestyn ap Gwrgant, seithfed Arglwydd Afan, un o linell o lywodraethwyr Cymreig yr ardal rhwng yr Afon Afan a chopaon y bryniau sy’n rhannu dyffrynoedd Afan a Nedd. Nid oes dyddiad i’r siarter bychan hynod hwn, ond mae’n debyg iddo gael ei lunio tua’r flwyddyn 1306. Mae’n esiampl prin o siarter bwrdeistref a ddyfarnwyd gan Arglwydd o Gymro yn hytrach nag arglwydd Normanaidd, ac mae iddo hanes sy’n llawn digwyddiadau dramatig.
Mae wedi bod yn y parth cyhoeddus oddiar 1953, pan y cafodd ei gyflwyno i ddwylo Bwrdeistref Port Talbot gan Edward C. Barker o Coventry, a oedd wedi’i brynu mewn arwerthiant ym mhlasty yn Helston yng Nghernyw. Gan ei fod braidd yn fregus cafodd ei anfon i’w gadw’n ddiogel yn Archifdy Sir Forgannwg lle y cafodd ei wastatáu, ei gryfhau drwy osod deunydd rhwyllog ar ei gefn a’i osod mewn amgead o fwcram gyda bwrdd i’w ddiogelu. Argraffwyd cyfieithiad ohono ar y clawr mewnol er mwyn ei wneud yn hygyrch. Cyrhaeddodd Abertawe yn y 1980au ymysg y dogfennau a fwriadwyd i’w cadw yn Archifdy newydd Ardal Gorllewin Morgannwg, lle y mae hyd y dydd heddiw.
Yn y blynyddoedd cyn hynny roedd yn dueddol o ymddangos a diflannu’n gyson. Pan y cyhoeddodd G.T. Clarke ei drawsgrifiad ohono yn ei Cartae et Munimenta de Glamorgan (1910), cyfeiriodd ato, yn syml, fel ‘Siarter Arglwydd Abertawe’, gan awgrymu ei fod ar yr adeg honno yn eiddo i Ernest Ambrose Vivian, Barwn Abertawe (1848-1922). Cyn hynny, roedd Samuel Lewis, yn ei Topographical Dictionary of Wales (1833), wedi disgrifio Aberafan fel bwrdeistref drwy arfer, gan awgrymu nad oedd yn meddu ar siarter. Canrif ynghynt, yn ôl nodyn dyddiedig 1753 ar gefn y ddogfen ei hun, fe’i defnyddiwyd fel tystiolaeth yn Siawnsri mewn achos a ddygwyd yn erbyn Porthfaer a Bwrdeisiaid Afan, sy’n awgrymu ei fod dal yn eu meddiant ar yr adeg honno. Yn ystod y ganrif cyn hynny, yn ôl y sôn yn lleol, roedd y siarter bron â chael ei ddinistrio gan ddynion Cromwell. Dywedir i hyn ddigwydd yn 1648 i ddial am fod y dref wedi cefnogi achos y Brenin. Mae Samuel Lewis yn adrodd yr hanes yn eithaf cryno:
‘During the usurpation of Cromwell, the portreeve, being apprised of the approach of the protector’s emissaries, contrived to secure the charter and other documents relating to the borough, by concealing them in a rough piece of oak, in which he had formed a cavity for that purpose, and on which, upon the arrival of the officers, he was found chopping sticks, as upon a common block. By this artifice the papers were preserved, and the piece of oak, upon which the marks of the hatchet are still visible, is now carefully preserved as the corporation chest’.1
Mae’r darn o dderi wedi teithio llawer llai o ffordd nag y mae’r siarter. Yn ôl James O’Brien2 roedd yn siambr cyngor y dref yn 1926, ac mae i’w weld hyd heddiw yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot.
Er gwaethaf ei holl anturiaethau, ar y cyfan mae’r siarter mewn cyflwr cadwraeth da. Mae wedi’i ysgrifennu ar ddarn o femrwn maint 24 x 10.5 cm gyda’r ymyl gwaelod wedi’i blygu i fyny 1.5 cm i gynnal tag y sêl, sy’n cynnwys stribed o femrwn wedi’i blygu’n ddwy, tu 12 cm ar ei hyd. Mae’r sêl (gweler y llun) mewn cyflwr da. Mae wedi’i wneud o gwyr gwyrdd tywyll, tua 2.5 cm ar draws ac, ar rhyw adeg, wedi cael ei farneisio mewn ymgais i’w gadw. Ar y wedd flaen mae arfbais y rhoddwr, sef Gules, tri chevron Argent (sy’n golygu tri chwpl arian ar gefndir coch) wedi’i amgylchynu gan ddigon o lythrennau sydd wedi goroesi i sillafu + S. LE[YSA]N [AP M]ORGAN (sêl Leisan ap Morgan). Mae’r cefn yn blaen ac o siap crwn. Mae’r un plyg llorweddol a’r dau blyg fertigol hollbresennol yn dangos ei fod wedi’i storio wedi’i blygu, ond ei gadw’n gwbl fflat ers iddo gael ei atgyweirio yn Archifdy Morgannwg yn 1955.
Mae’r ysgrifen yn glir, yn gain ac, yn gyffredinol, yn eithaf darllenadwy, er bod ardaloedd crwn o ddifrod hanesyddol gan falltod du a rhai tyllau sy’n cuddio ambell llythyren. Serch hynny, nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch y testun. Mae i’r Lladin rhai nodweddion brodorol; er enghraifft, yn aml, mae’r ansoddair yn dod cyn yr enw, fel yn Saesneg, nodwedd prin mewn Lladin, Cymraeg neu Ffrangeg cywir. Yn yr un ffordd mae’r ferf wedi’i gosod wrth galon y frawddeg fel yn Saesneg, ac ond yn dychwelyd i’w leoliad Lladin arferol ar ddiwedd cymal yn yr ymadroddion safonol ar ddechrau a diwedd y ddogfen.
Mae’r testun ei hun yn syml a didwyll, ond mae tair ardal sydd wedi achosi camgymeriadau a chamddeallwtriaeth yn y gorffennol. Y cyntaf yw’r chenseres. Mae cyfieithiad James O’Brien yn cyfieithu hyn, yn anghywir, fel ‘siawnswyr’, sydd wedi cael ei ddeall i olygu pobl yn cadw stondin yn y farchnad. Mae cyfieithiad Archifdy Morgannwg yn cynnig ‘chense payers’ (talwyr chense), tra bod ‘censers’ yn ymddangos mewn ambell i hen lyfr cyfreithiol, y ddau yn golygu fawr ddim heb eglurhad. Felly, beth roeddent? Yn y ddogfen maent bob tro yn ymddangos gyda’r gair burgenses, y bwrdeisiaid, y rhai a oedd yn dal lleiniau bwrdais, yn gyfrifol am faterion y bwrdeistref ac yn cael eu disgrifio fel Saeson. Mae gwreiddyn y gair chens-/cens-/sens- yn ymwneud â thalu rhent, ac mae’r Revised Medieval Latin Word-list yn dyfynnu achosion o chenseria sy’n golygu rhent bwrdais a delir gan rhai nad ydynt yn fwrdeisiaid. Felly mae’r chenseres (senswyr) yn talu rhent am eiddo yn y bwrdeistref, ond nid oes ganddynt statws bwrdeisiaid. Mae’n nodweddiadol, fel y gwelir o eiriad y siarter, bod arglwydd Afan yn dyfarnu yr un hawliau ychwanegol i’r ddau grŵp.
Mae’r ail ddarn sy’n codi trafferthion yn berthnasol i’r taliad o wyth galwyn o gwrw. Mae’r dryswch yn deillio o’r gair cervisia, sy’n gallu golygu cwrw (fel y Sbaeneg cerveza). Mae’r gwreiddyn cervis- hefyd yn amrywiad o ran sillafiad o’r gair servic-, yn golygu gwasanaeth neu rhent, ond gyda gwahanol set o dderfyniadau. Mae’n debygol bod yr ysgrifennydd wedi gwneud camsyniad gan ysgrifennu cervisia (cwrw) yn lle cervisio (gwasanaeth, rhent), sef y gair sydd ei angen os am wneud synnwyr. Yn olaf, yn y testun gwreiddiol mae enwau’r tri lle sy’n dynodi ffiniau’r tir pori ar Fynydd Dinas i gyd yn gorffen gyda -ecȝ, a’r llythyren olaf yn cynrychioli’r llythyren ddarfodedig yogh, sy’n gyfystyr ar llythyren ch mewn Cymraeg modern. Roedd cyfieithiadau a thrawsgrifiadau cynharach wedi anwybyddu un neu fwy o’r llythrennau, naill ai’n gwneud i’r tri enw orffen gydag -ec, neu -ez, ac nid yw’r naill neu’r llall yn gywir. ‘Rwyf wedi trawsgrifio hyn fel -ech, sydd, yn fy marn i, yn cynrychioli’n well y sain a fwriadwyd.
Mae’r hyn sy’n dilyn yn drawsgrifiad gen i, a chyfieithiad llythrennol sy’n cadw at rhythm y gwreiddiol. Mae’r ddau yn newydd: er bod fersiynau cynharach yn bodoli mae’r trawsgrifiadau, yn enwedig y rhai hynny sy’n seiliedig ar Cartae Clark, yn cynnwys llawer o wallau a brasamcanion sydd ambell dro yn gwyro oddiwrth ystyr y gwreiddiol ac, o ganlyniad, mae’r cyfieithiadau’n dioddef.
Trawsgrifiad
Sciant presentes et futuri quod [ego] Leysanus ap Morgan Dominus de Avene filius et heres Morgani Vachan dedi concessi et hac presenti carta mea confirmavi pro me et heredibus seu assignatis meis omnibus anglicanis Burgensibus et etiam chenceribus meis de Avene et eorum heredibus et assignatis omnes libertates in villa mea de Avene et intoto dominio meo infra limites de Avene quas habent Burgenses de kenefeg in villa de kenefeg et infra dominium domini Cometis Glovernie et Hertfordie quantum in me est.
Et dabunt octo lagenas de qualibet bracina pro cervisia molendini et pro assisa mihi et heredibus et assignatis meis.
Concessi etiam pro me et heredibus meis et assignatis predictis burgensibus et chenceribus meis de Avene et eorum heredibus et assignatis libere quiete bene et in pace et sine aliqua calumpnia Housbote et Heybote in omnibus nemoribus hominum meorum de me tenencium.
Et optinebunt communem pasturam libere quiete bene et in pace imperpetuum in omnibus locis silvis pratis pascuis et pasturis intempore aperto super terram meam. Et etiam illam pasturam in latere de Le Dinas que est inter karnwendrech et locum qui dicitur kaekedrech in longitudine et in latitudine inter teram arabilem de tyrruskech usque ad terram arabilem super le dinas in omne tempore anni.
Et si contingat me aud heredes vel assingnatos meos circa aliquam terram claustruram facere et dicta claustura prestata fuerit per bestias dictorum burgensium [et] chencoriorum tenentur eandem claustruram iterum construere.
Et etiam habebunt communem pasturam in tempore aperto in omnibus boscis pratis pascuis et pasturis hominum meorum de me tenencium cuiuscunque condicionis fuerint.
Pro hac autem donacione concessione et presentis carte mee confirmacione dederunt mihi predicti Burgenses mei et chenceri quadraginta solidos sterlingorum.
Et quia volo quod hec mea donacio concessio et presentis carte mee confirmacio Robur perpetue stabilitatem optinea[nt, h]anc presentem cartam sigilli mei inprescione Roboravi.
Hiis testibus domino Thoma tunc abbate de Morgan, Enea Rectore ecclesie de Avene, Henrico clerico tunc senescallo de Avene, Reso ap Morgan, Reso ap Cradoc et multis aliis.
Cyfieithiad
Bydded i’r rhai sy’n bresennol ac yn y dyfodol wybod fy mod i, Leysan ap Morgan, Arglwydd Afan, mab ac etifedd Morgan Vachan, wedi rhoi, dyfarnu a thrwy hwn fy siarter presennol wedi cadarnhau i’m hunan ac i’m etifedddion a’m aseinïaid, i’r holl fwrdeisiaid Seisnig ac hefyd i’n rhent-dalwyr yn Afan, ac i’w hetifeddion a’u aseinïaid hwythau, holl ryddfreiniau fy nhref Afan ac yn fy holl diriogaeth o fewn ffiniau Afan fel sydd gan bwrdeisiaid Cynffig yn nhref Cynffig ac yn nhiriogaeth Arglwydd Iarll Caerloyw a Hertford, hyd eithaf fy ngallu.
Ac y byddant yn cyfrannu wyth galwyn o gwrw o unrhyw fragdy am rhent y felin ac fel treth i mi, fy etifeddion ac aseinïaid.
Yr wyf hefyd wedi dyfarnu, i mi, fy etifeddion a’m aseinïaid, i’m bwrdeisiaid a rhent-dalwyr dywedig yn Afan, ac i’w hetifeddion a’u haseinïaid, y gallant yn rhad, yn dawel, mewn tangnefedd ac heb unrhyw ymyrraeth gasglu coed at ddiben adeiladu tai a gosod ffensys yn holl goedwigoedd y dynion sy’n eu dal oddi wrthyf.
Yn ogystal, bod ganddynt yn rhad, yn dawel, ac mewn tangnefedd am byth, cytawl pori yn ystod y tymor agored yn yr holl lefydd, coedwigoedd, dolydd a phorfeydd ar fy nhir. Ac hefyd y tir pori ar ochr Dinas sydd wedi’i leoli rhwng Karnwendrech a’r lle a elwir Kaekedrech mewn hyd a lled o dir âr Tyrruskec cyn belled â’r tir âr sydd ar y Ddinas, ar bob adeg y flwyddyn.
A pe digwydd fy mod i neu fy etifeddion neu aseinïaid yn amgáu unrhyw dir, a bod yr amgead dywededig yn cael ei chwalu gan anifeiliaid y bwrdesiaid [a] thalwyr rhent dywededig, mae arnynt ddyletswydd i ail-adeiladu’r amgaeadau hynny unwaith eto.
Ymhellach, yn ystod y tymor agored rhoddir iddynt gytawl pori yn yr holl goedwigoedd, dolydd a phorfeydd sy’n berchen i fy nhenantiaid, ni waeth i ba radd y maent yn perthyn.
Am y rhodd, grant a chadarnhad o’m siarter presennol mae fy mwrdeisiad dywedig wedi rhoi imi deugain swllt sterling
Ac, oherwydd fy mod am i hwn, fy rhodd, grant a chadarnhad o’m siarter presennol fod mewn grym ac effaith am byth, yr wyf wedi dilysu’r siartr hwn gydag argraffiad o’m sêl.
Gyda’r tystion hyn: Yr Arglwydd Tomos, Abad Margam ar y pryd, Eynion, rheithor eglwys Avene, Henry, clerc yna stiward Avene, Rhys ap Morgan, Rhys ap Caradoc, a llawer eraill.
Andrew Dulley
Dirprwy Archifydd y Sir
Nodiadau
1. Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Wales (Second Edition) (London, 1850)
2. O’Brien, Old Afan and Margam (Aberavon, 1926), p. 69
Archifau
Siarter Leysan ap Avan i Aberafan, cyfeirnod B/A 1