Pennod 4: Lle yr Oeddant yn Byw

`Mae eu gwlad wedi’i atgyfnerthu gan natur.` 

`Yng Nghymru, does neb yn cardota. Mae tŷ pawb yn agored i bawb, oherwydd i’r Cymry haelioni a lletygarwch yw’r rhinweddau pennaf. Maen nhw’n mwynhau yn fawr croesawu eraill i’w cartrefi …’ 1

Gerallt Gymro, yn disgrifio’r cartref nodweddiadol Cymreig yn y 12fed ganrif.

Pan roedd y Normaniaid wedi ymwthio i Dde Cymru, y dybiaeth gyffredinol yw bod y boblogaeth Gymreig wedi ffoi i’r bryniau, lle yr oeddent wedi aros yn gymharol ddiogel rhag ymosodiad, gan adael eu cartrefi ar y gwastatir arfordirol cyn, ac yn ystod, yr ymosodiad. Y term a ddefnyddir i ddisgrifio’r diriogaeth newydd a orfodwyd arnynt oedd y ‘Blaenau’, neu y mynyddoedd, a oedd yn amlwg yn cynnig ffordd o fyw mwy cyfyng, gyda llai o dir ffrwythlon i gynnal bodolaeth dydd-i-dydd. Lle bynnag yr oedd crynhoad niferus o Gymry, roedd y Normaniaid yn defnyddio’r term ‘Wallia’ i ddisgrifio’r ardal, felly Afan Wallia oedd yr enw ar yr ardal lle yr oedd pobl brodorol ardal Afan yn byw. Byddai’r boblogaeth Gymreig a oedd wedi goroesi yma wedi colli eu holl hawliau a’u breintiau, gan gael eu gorfodi i fyw yn ardal y Blaenau, gyda fawr o ddewis ond brwydro neu dderbyn talu gwrogaeth i’w meistri newydd.

Map Afan Wallia: Ystâd Llansawel c. 1780.
WGRO D/D BF E/1/12
Trwy garedigrwydd Archifau Gorllewin Morgannwg Abertawe

Mae’r map cynnar hwn (c. 1700), o Archifau Gorllewin Morgannwg, yn dylunio rhan o’r ffin dde orllewinol hynafol a oedd yn bodoli rhwng Afan Wallia a’r gilfach Normanaidd a elwir yn Nedd Citra, wedi’i leoli o gwmpas y bryngaer Oes yr Haearn ar dop Mynydd y Gaer, y bryn sy’n edrych dros Cwmafan a Baglan.

Tiriogaeth Afan Wallia oedd yr unig ardal a feddianwyd gan y Cymry yn Ne Cymru oedd yn meddu ar fynediad at y môr, gyda’r holl fanteision a oedd hynny’n cynnig, heb sôn am hinsawdd mwy dymunol, heulog, yn rhydd o gysgodion y cymoedd. Roedd copa Mynydd Dinas, a’i lethr ysgafn, a’i ffynhonnau lluosog o ddŵr naturiol, 300 troedfedd uwchben tirwedd arfordirol Aberafan a Baglan, yn darparu ased naturiol anodd ei drechu i Dywysogion Afan, ac yn eu galluogi i ddatblygu cymuned warchodedig sefydlog tra’n manteisio ar ei leoliad ger yr arfordir. Erbyn heddiw, mae enw’r mynydd, sef Mynydd Dinas, yn ymddangos yn rhyfedd oherwydd bod ‘dinas’ yn Gymraeg cyfoes yn golygu ‘city’ ond, yn y canrifoedd a fu, fe allai’r gair gyfeirio at fryngaer, megis Dinas Mawddwy neu Dinas Emrys; awgrym arall oedd taw’r sillafiad oedd Mynydd Danas neu ‘fynydd y ceirw coch’. 2

Er gwaethaf coedwigaeth mae dal hyd heddiw llawer o ardaloedd ar Fynydd Dinas sydd wedi aros, yn gymharol, heb eu cyffwrdd oddiar y cyfnod canoloesol. Mae cerdded y mynydd i adnabod ei dopograffi ac archeoleg maes sylfaenol yn cynnig cyfle i ddeall yn well sut y defnyddiwyd y tir yn y gorffennol, yn arbennig pan mae hyn yn cael ei wneud ochr yn ochr ag astudiaeth o ddogfennau hanesyddol a mapiau sy’n gysylltiedig â’r mynydd, gan gynnwys enwau’r caeau a gofnodwyd yn y mapiau ystâd a degwm.

Heddiw gallwn ddal i weld gwartheg yn pori ar lethrau uwch y mynydd fel y maent wedi gwneud ers y Canol Oesoedd, a chofnodwyd mewn manylder bod Tywysogion Afan wedi rhoi caniatâd yn ystod y 13eg ganrif i fynachod Abaty Margam bori eu gwartheg ar Fynydd Dinas. Ar un achlysur estynnwyd y gwahoddiad hwn i frodyr lleyg o Abaty Nedd, digwyddiad sy’n ymddangos ei fod wedi achosi cryn bryder i’r tywysogion Cymreig, fel y disgrifir yn y fersiwn canlynol o’r digwyddiadau hyn:

Yn 1175 roedd Morgan ap Caradog wedi rhoi i Abaty Margam hawliau unigryw, yn caniatáu bod da byw yn pori ar dir pori cyffredin rhwng yr afonydd Afan a Nedd, gan addo ymhellach na fyddai’n caniatáu’r un hawliau i unrhyw ddynion crefyddol eraill. Roedd yr addewid wedi parhau tan 1205 pan, yn fyr o arian neu, chwedl un o’r siarteri, ‘Wedi’i orchfygu gan ariangarwch’, gwerthodd yr un hawliau pori i fynachod Nedd am gyfnod o ddwy flynedd.

Arweiniodd hyn at ymrafael chwerw rhwng y ddau abaty, gyda mynachod Margam yn gyrru’r gwartheg oddiar y tir a oedd, yn ei dro wedi arwain at fynachod Nedd yn cyflogi criw o ymladdwyr Cymreig ar gefn ceffyl, a oedd yn gyfrifol am ymosod ar, a chlwyfo brodyr lleyg o Abaty Margam, yn ogystal â lladrata’r gwartheg yr oeddent yn gwarchod. Yn dilyn hyn, yn 1208 sefydlwyd comisiwn mewn ymgais i ddatrys y problemau ynghylch hawliau pori rhwng y ddau dŷ crefyddol, gyda’r canlyniad bod Abaty Margam wedi derbyn dwy ran o dair o’r tir pori a oedd agosaf atynt, wedi’i leoli yn y mynyddoedd rhwng yr afonydd Nedd ac Afan, tra bod Abaty Nedd wedi derbyn traean o’r tir pori a oedd agosaf ato. 3

Mae’n bosib dod o hyd i dystiolaeth o gyn aneddau ar Fynydd Dinas, yn dyddio o’r cyfnod canoloesol, wrth archwilio olion sawl safle platfform a strwythurau caerog sydd, o bosibl, yn gysylltiedig â Thywysogion Afan. Yn ei gyfraniad at Parochialia Edward Lluyd yn 1700, roedd Anthony Thomas o Neuadd Baglan, ei hun yn un o ddisgynyddion y Tywysogion, wedi cyfeirio at grŵp o dri ‘chastell’, dau ym Mhlwyf Baglan ac un ym mhlwyf Margam y dywedir eu bod yn eiddo i dair chwaer, cawresi.  Gelwir yr un i’r gorllewin Castell y Wiriones (castell y fenyw ffôl); y nesaf, i’r dwyrain Y Castell a’r trydydd, ym Margam, Pen y Castell. Mae’r rhain, ambell waith, wedi’u cysylltu â Thywysogion Margam, ond mae’n debyg eu bod yn dyddio o gyfnod llawer cynharach.4 

(Yn y canrifoedd a fu byddai aelwydydd tywysogaidd a brenhinol yn berchen ar nifer o gartrefi, yn rhannol i’w galluogi i deithio o gwmpas eu tiroedd a delio â’i wahanol broblemau ond hefyd, oherwydd cyflwr cyntefig glanweithdra’r cyfnod, bod angen glanhau pob adeilad yn drwyadl bob rhyw ychydig fisoedd ac, yn ystod y broses, byddai’r aelwyd yn symud i leoliad newydd).

Adfail Tŷ’r Siapter (Cabilyldy) Abaty Margam
Credit: Archangel12 via Wikimedia Commons

PLAS BAGLAN:

 

“Castell Cymreig cerrig prin yn dyddio o’r 12fed ganrif” 5

Tŷ hynafol sy’n sefyll ym mhlwyf Baglan, lle yr oedd Ieuan Gethin ap Ieuan ap Leision yn byw` 6

 

Sylw a gofnodwyd gan yr hynafiaethydd Seisnig John Leyland, tra roedd yn ymweld â’r ardal yn y 1530au.

Wedi’i leoli mewn lleoliad coediog, cyfrin, preifat, mae pwysigrwydd posib Plas Baglan fel prif sedd Tywysogion Afan ond yn awgrym diweddar, a gynigwyd, ymhlith hanesion eraill, yn yr adroddiad o’r 1980au ar y safle hwn gan Gomisiwn  Brenhinol Henebion Cymru. Awgrymir ei fod yn fwy tebyg bod castell Aberafan, a gredwyd gynt i fod canolfan gweinyddol yr arglwyddiaeth, gafodd ei ddefnyddio gan yr Arglwyddi Afan dim ond wedi 1304 pan gyhoeddwyd siarter cyntaf y dre.

Cyn hynny, tybiwyd taw’r castell colledig yn Aberafan, ger Eglwys y Santes Fair, oedd y castell a adeiladwyd gan Dywysogion Afan, ac a ddefnyddiwyd fel eu canolfan weinyddol. Serch hynny, mae’r unig gyfeiriad cynnar at y castell hwn, ym Mrut y Tywysogion yn 1153, yn dweud iddo gael ei ddinistrio gan Rhys a Maredudd o Ddeheubarth, a oedd yn ewythyrod i Morgan ap Caradog, Arglwydd Afan ar y pryd hwnnw, felly fe ddaethpwyd i gredu ei fod yn gastell Normanaidd i ddechrau, a taw Plas Baglan oedd canolfan gweinyddiad y tywysogion. Beth bynnag yw’r gwirionedd ynghylch hwnnw (a gweler, maes o law, o dan Castell Aberafan), does dim amheuaeth bod Pas Baglan yn safle pwysig ac, yn y canrifoedd canlynol, roedd y teulu wedi parhau i gynnal etifeddiaeth y Tywysogion oddiyno wedi i’r brif llinach ddod i ben.

Os taw Plas Baglan ac nid Aberafan oedd prif orsedd Tywysogion Afan yn ystod y rhan fwyaf o’r 12fed a’r 13eg ganrif, pan yr oeddent yn ymwneud â brwydro mawr yn erbyn yr Eingl-Normaniaid, rhaid gofyn cwestiynau ynghylch pwysigrwydd yr adeilad a’r tir o’i gwmpas ar Fynydd Dinas. Pan yn gwneud sylwadau yn y 12fed ganrif ynghylch paham yr adeiladwyd cyn lleied o gestyll Cymreig yn y cyfnod, dywedodd Gerallt Gymro,

 ‘Mae ei tiroedd wedi’u diogelu gan natur’ ac ‘mae eu cadarnleodd cyfrin yn ddwfn yn y coedwigoedd’. 7

Roedd Gerallt a Morgan ap Caradog yn gyferderon (roedd eu mamau a’u tadau-cu yn frawd a chwaer) felly os roedd y castell yn bodoli erbyn 1188, nid yw’n ormod credu bod Gerallt yn meddwl am safleoedd megis Plas Baglan pan yn cofnodi’r fath sylw.

Mae hanes cyfoes arall, gan ysgrifennu o safbwynt Seisnig, yn disgrifio’r Cymry fel ‘Dynion gwyllt o’r goedwig’ 8 sy’n awgrymu eu bod yn dibynnu ar ddefnyddio gorchudd y coetiroedd a’r bryniau, a’u gwybodaeth drylwyr o’r fforestydd a’r mynyddoedd, ac yn defnyddio’r tirwedd naturiol i adeiladu system amddiffynnol allan o olwg eu gelynion. Nid oedd y Cymry yn llwyddo’n aml mewn brwydr lawn; rhyfela gerila oedd eu cryfder, fel yr oedd rhaid i hyd yn oed Iŵl Cesar gyfaddef.

Yn Gymraeg, mae’r enw ‘plas’ yn golygu athref mawr sydd, ynghyd â’i gysylltiad diweddarach gyda’r beirdd Cymreig wedi tueddu, hyd at yn gymharol ddiweddar, i gategoreiddio Plas Baglan, yn anghywir, fel tŷ annedd yr uchelwyr, neu’r dosbarth uwch.  Serch hynny, oddiar yr 1980au mae’r lleoliad wedi’i adnabod fel safle caerog, a adeiladwyd yn y 12fed ganrif, adeilad a oedd, o bosib, wedi disodli amddiffynfa gynharach a adeiladwyd gan Caradog ap Iestyn neu ei fab, Morgan ap Caradog.

Isod, gwelir argraff arlunydd o Blas Baglan, ynghyd â chynllun o’r awyr o’r adeilad, yn dangos ei argloddiau amddiffynol a beili allanol. Mae ei leoliad, ar ochr ddwyreiniol Cwm Nant Baglan, sy’n serth iawn, yn darparu nodwedd amddiffynnol naturiol anodd ei threchu, ac yn gwneud mynediad i unrhyw ymosodwyr yn dasg anodd dros ben.

Ail-ymgorfforiad awgrymiedig o Blas Baglan, gan Paul R. Davies (‘Castles of the Welsh Princes’ Y Lolfa 2007)

Mae astudiaeth o fapiau cynnar y degwm ac enwau caeau sy’n gysylltiedig â’r ardal yn datgelu dau gae a enwir Gadlish Fach a Gadlish Isaf, sy’n cyfieithu i feddwl ‘cwrt bach y frwydr’ a ‘cwrt isaf y frwydr’. Mae enwau’r caeau hyn yn codi cwestiynau diddorol: a fu brwydr yno ar rhyw achlysur, brwydr a aeth yn angof, efallai rhwng y Normaniaid a’r Cymry lleol? Neu ydy’r enwau hyn yn dynodi lleoliadau cynnull wrth i filwyr lleol baratoi at ysgarmesu, yn benodol ymosodiadau ar gastell Nedd gan Dywysogion Afan, yn brwydo fel rhan o filisia Cymreig mwy o faint?

Roedd y Normaniaid yn enwog am ddefnyddio cestyll o fath mwnt a beili a adeiladwyd yn gyflym i orchfygu poblogaeth sefydlog Cymreig. Roedd rhain yn gloddweithiau yn cynnal palisâd pren, a’r cyfan o wneuthuriad amrwd ac, yn aml, a ail-adeiladwyd o gerrig yn ddiweddarach. Adeiladwyd rhain yn aml yn dilyn ennill brwydr, ger canolfan arglwydd lleol, er mwyn galluogi’r treisiwr o Norman hawlio’r hawliau a’r breintiau a oedd yn perthyn i’r diriogaeth honno.

Mae’n demtasiwn inni ddyfalu ynghylch yr amgylchiadau a oedd yn bodoli ym Maglan yn y 12fed ganrif, a dychmygu’r gweithgareddau a oedd yn digwydd ar y mynydd cyn adeiladu mewn cerrig, a pheth ohono wedi’i weithio’n gywrain mewn steil Normanaidd, y strwythur a adwaenir heddiw fel Plas Baglan.

Ail-ymgorfforiad awgrymiedig o Blas Baglan, golgyfa o’r gogledd, gan Paul R. Davies
(Towers of Defiance Y Lolfa 2021).

Yn anffodus nid oes unrhyw gofnodion cynnar yn bodoli ynghylch yr unigolion a’r digwyddiadau a oedd yn gysylltiedig â Phlas Baglan, a bydd rhaid i’w hanes fel cadarnle amddiffynnol Tywysogion Afan ddibynnu ar waith archeolegwyr medrus yn y dyfodol os ‘rydym yn mynd i ddeall pwysigrwydd y safle hwn. Ar wahân i’r mwnt yr oedd unwaith wedi’i adeiladu arno, ac ychydig o ddarnau gwasgaredig o garreg Sutton, erbyn heddiw does dim o Blas Baglan i’w weld.

Safle Plas Baglan heddiw
Ffoto gan Tim Rees

Neuadd Baglan a Tŷ Baglan

Cefnwyd ar y castell fel prif gartref yn y 1600au cynnar, pan adeiladwyd tŷ helaethach, o’r enw Neuadd Baglan, ychydig ymhellach yng ngorllewin y plwyf. Dangosir isod ei gymydog diweddarach, Tŷ Baglan, a adeiladwyd yn 1760. Credir i gerrig o’r hen Blas Baglan gael eu defnyddio i adeiladu Neuadd Baglan a Thŷ Baglan; er gwaetha’r ffaith ei fod wedi’i newid yn helaeth yn 1812, gwelwyd o leiaf un math o ffenestr myliynog yn Neuadd Baglan cyn ei ddymchwel yn 1958; efallai atgof brith o’i ragflaenydd canoloesol. 9

Tŷ Baglan
Ffotos trwy garedigrwydd Port Talbot Historical Society

Neuadd Baglan cyn ei dymchwel yn 1958
Trwy garedigrwydd Port Talbot Historical Society

ADEILADAU ERAILL YN NHIRWEDD GORLLEWINOL MYNYDD DINAS

 

Fferm Blaen Baglan

Adeiladau eraill yn yr ardal gyfagos a oedd wedi elwa ar ddefnyddio’r cerrig calch Sutton cadarn o Blas Baglan oedd tŷ Tuduraidd Blaen Baglan. Gweler islaw llun a chynllun o Archfau Ystâd Jersey yn Archifau Gorllewin Morgannwg o adeilad wedi’i ddynodi yn ‘Adeilad Anhysbys’, ond a gafodd ei uniaithu gan yr awdur fel llun o Fferm Blaen Baglan.

Oddi wrth gofnodion Ystâd yr Iarll Jersey
Trwy garedigrwydd Archifau Gorllewin Morgannwg, Abertawe.

Mae adroddiad diweddar ar Dirwedd Mynydd Dinas 10 yn cydnabod bod y llun hwn yn ddangos y tŷ gyda’i ffenestri gwreiddiol â phennau sgwar, ac yn cofnodi presenoldeb beudy, ffynnon a bragdy. Disgrifir fel as ‘a substantial sub-medieval Glamorgan house’, a sonir gyntaf amdano yn 1566, pan y feddianwyd gan Wiliam ap Siencyn, disgynydd llinach gwreiddiol Afan. Wedi’i ail-adeiladu c 1600 gan ei ŵyr William Williams, parhaodd Blaen Baglan yn nheulu’r Williams am y rhan fwyaf o’r 17eg ganrif, nes iddo ddod i feddiant Ystâd Jersey erbyn 1841.

Fferm Blaen Baglan
Ffoto trwy garedigrwydd Port Talbot Historical Society

Braslun Blaen Baglan
A.L. Evans Hawlfraint WGRO

Fferm Blaen Baglan yn 2012
Ffoto gan Tim Rees

Tŷ Newydd

 

Yn rhan o’r tirwedd hwn, gyda chysylltiadau posibl â’r teulu gwreiddiol erbyn, yw Tŷ Newydd, tŷ fferm yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, sydd hefyd yn adfail erbyn hyn.

Tŷ Newydd; dyddiad anhysbys
Ffoto trwy garedigrwydd Port Talbot Historical Society

Roedd Fferm Tŷ Newydd yn dal i sefyll yn y 1950au – gweler amrywiaeth o ffotograffau diweddar yn dangos waliau ffin y fferm, sydd erbyn hyn yn adfail. Noder fel bod y cerrig mawr, cadarn sgwâr yn ymddangos o’u lle o gymharu â gweddill strwythur y waliau.

Cerrif mewn wal Tŷ Newydd
Ffoto gan Tim Rees

Mae’r arolwg BMA (2022) yn cadarnhau hwn:

‘Ty Newydd…features fan-tooled ashlar stone blocks originating from Plas Baglan which makes it an important associated site. In addition, the walkover survey identified three masonry bee bole or sheep creep niches with a distinctive herringbone construction.’

Mae Plas Baglan yn ngwaelod y cae yn union i’r chwith o safle’r hen fferm. Mae’n bosibl bod tŷ fferm 19eg ganrif Tŷ Newydd, o ystyried ei enw, wedi’i adeiladu ar safle platfform yn dyddio o’r canol oesoedd cynharach, safle sy’n gyfoes â Phlas Baglan.11

Tŷ Newydd
E. Jones Baglan Then and Now A Pictorial Record Yr awdur 1988
Ffoto trwy garedigrwydd Port Talbot Historical Society

Safle cwt hir ar Fynydd Dinas: un o’r sawl safle tai llwyfan ar y mynydd
Ffoto gan Paul R Davies

CYFEIRNODAU

1. Gerald of Wales: The Itinerary through Wales and the Description of Wales Penguin Books, 1978. t.236
2. JONES, A. B. Place Names of the Afan Valley, Goldleaf Publishing, 1988, t. 26
3. COWLEY, F. Neath versus Margam: some 13th century disputes in Transactions of the Port Talbot Historical Society, Vol.I, No 3, 1967, 00. t.7-9
4. PHILLIPS, M. and THOMAS, A. Aberavon and District about 1700 in Transactions of the Aberavon and Margam District Historical Society, 1931-2, t. 18
5. Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, Inventory of the Ancient Monuments of Glamorgan, Vol. 3, Part 1a), Early Castles 1991, t. 149-152
6. TOULMIN SMITH, L. gol. The Itinerary in Wales of John Leyland in or about the years 1530-1539, George Bell & Son, 1906, t. 36
7. GERALD OF WALES t. 273, 268
8. CHILDS, W.R. Vita Edwardi Secundi, OUP (Clarendon Press), 2005
9. EVANS, A.L. The Story of Baglan, t. 34-5
10. BLACK MOUNTAINS ARCHAEOLOGY Tirlun Mynydd Dinas Landscape Project Archaeological Appraisal Report 2022: BMA/2022/264, t.18
11. EVANS, A.L. The Story of Baglan, t.27