Pennod 5: Lle yr Oeddant yn Addoli

Eglwys Sant Baglan

Ychydig bellter o Blas Baglan, ym mhen uchaf mynwent y Santes Catrin, saif eglwys hynafol Sant Baglan. Erbyn hyn yn adfail a esgeuluswyd, ar un adeg roedd o bwysigrwydd mawr.

Eglwys St Baglan’s church: dyddiad anhysbys on cyn y tân
E. Jones’ ‘Baglan Then and Now: A Pictorial Record’
Ffoto trwy garedigrwydd Port Talbot Historical Society

Ffenestr yn Eglwys St Baglan. Photo: Tim Rees

Chwedl Sant Baglan

Roedd Sant Baglan yn frodor o Llydaw; daeth i astudio yn y fynachlog yn Llanilltyd Fawr a oedd, o dan arweinyddiaeth Sant Illtyd (c.490) wedi datblygu i fod yn ganolfan addysg o fri. Un diwrnod roedd Sant Illtyd yn teimlo’n oer, ac anfonodd Baglan i nôl marwor tanllyd i dechrau tân. Gan nad oedd gan Baglan unrhyw beth i’w cario, dododd y marwor yn sgert ei wisg; roedd hyn wedi gwneud y fath argraff ar Sant Illtyd, pan welodd nad oedd y wisg wedi llosgi, ei fod wedi anfon Baglan ar daith genhadol. Cyfarwyddodd y dyn ifanc i gerdded tan ei fod wedi dod at goeden a oedd yn dwyn tri math o ffrwyth, a roddodd iddo ffon, sef bagl – awgrymir taw dyma’r ffordd y cafodd y sant ei enw. Cerddodd Baglan tuag at y gorllewin, gan eistedd yn y pen draw o dan coeden – roedd gan y goeden nyth bran ar ei dop, nyth gwenyn hanner ffordd i lawr a thorred o foch bach wrth ei throed. Ond roedd y goeden ar lethr a penderfynodd Baglan adeiladu ar dir mwy gwastad islaw, ond i ddarganfod bod gwaith adeiladu’r diwrnod yn cael ei gludo i dir uwch bob nos. O’r diwedd ildiodd Baglan ac adeilwyd yr eglwys lle y mae’n dal i sefyll heddiw. 1

Yn wreiddiol byddai’r eglwys ym Maglan wedi bod ond yn gapel bychan i Baglan ei hun, gyda ffynnon gerllaw, yn debyg i sefydliad Sant Seiriol ym Mhenmon yn Ynys Môn. Yn ddiweddarach, adeiladwyd eglwys i wasanaethu aelodau’r plwyf, ac roedd honno wedi parhau i wasanaethu’r pobl leol am ganrifoedd. Yn y Canol Oesoedd hwyrach roedd Baglan yn rhan o blwyf llawer mwy o faint, wedi’i seilio ar Eglwys y Santes Fair, Aberafan, ac hefyd yn cynnwys capeliaethau Llanfihangel Ynys Afan (Cwmafan) a Glyncorrwg. Am ddwy flynedd wedi 1768 roedd hefyd wedi gwasanaethu plwyfolion Eglwys y Santes Fair, Aberafan, pan y cafodd yr eglwys honno ei difrodi gan lifogydd. 2 Yna, wrth i’r boblogaeth dyfu ym Maglan, gwelwyd bod yr hen eglwys wedi mynd yn rhy fach ac adeiladwyd a chysegredwyd adeilad newydd, sef Eglwys y Santes Catrin, yn 1882. Wedi hynny, defnyddiwyd Eglwys Sant Baglan ar gyfer gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg nes iddi gael ei difrodi gan dân ym mis Mai, 1954, gan adael dim ond y waliau yn sefyll. 

Eglwys Sant Baglan cyn y tân yn 1954
E. Jones’ ‘Baglan Then and Now: A Pictorial Record’
Ffoto trwy garedigrwydd Port Talbot Historical Society

 Eglwys St Baglan’s 2023
Ffoto gan Tim Rees

Mae Eglwys y Santes Catrin yn gartref i Garreg Brancu, cofeb yn dyddio o’r 9fed neu’r 10fed ganrif, wedi’i cherfio gyda chroes olwyn mewn cerfwedd isel a’r enw BRANCU ar un ochr. Yn ddiweddar, darganfuwyd carreg gerfiedig arall yn nhiroedd yr hen eglwys yn ystod gwaith adfer yn y fynwent. Mae arni groes Malta sylfaenol ac, mae’n debyg ei bod yn groes ymyl ffordd, wedi’i lleoli ar hyd llwybr pererindod, man hwylus i deithiwr blinedig stopio i weddïo.  Credir bod croes o’r fath wedi bodoli ger hen sticyll ar Heol Baglan, ger Fferm Sticyll Wen, gan godi’r posibilrwydd taw dyma yw yr un garreg, efallai wedi’i adleoli i diroedd Eglwys Baglan.

Brancu or Brancuf Stone.
Credit – ‘Lapidarium Walliae’ The early Inscribed and sculptured stones of Wales Prof J.O. Westwood. Printed at Oxford University Press, for the Cambrian Archaeological Association 1876 – 1879. Page 24

Carreg gyda chroes ym mynwent Eglwys Baglan. Photo: Tim Rees

Mae tŵr dwbl Eglwys Sant Baglan yn nodwedd anarferol ac roedd arolwg diweddar o’r hen eglwys a gynhaliwyd yn 2023, ar ôl i’r gwinwydd ymgripiol gael ei glirio i ffwrdd, wedi dod o hyd i ddelwedd anarferol wedi’i gerfio mewn carreg ar yr ochr dde ar dop y tŵr. Credir taw delwedd o eryr yw’r ddelwedd, ffigwr sy’n gysylltiedig â Sant Ioan yr Efyngelwr a’r Pedwerydd Efengyl, ac mae ei leoliad cam yn awgrymu ei fod wedi’i ddwyn o leoliad arall.

Adfeilion Tŵr dwbl Eglwys Baglan. Photo: Tim Rees

Mae’r adroddiad BMA (2022) yn dyfynu Cadw:

 ‘The site forms an important element within the wider medieval landscape.’

Eglwys y Santes Mair

Adeilad yn dyddio o’r 19eg ganrif yw’r Eglwys Santes Fair bresennol, a does bron dim ar ôl o’i ymgorfforiadau cynharach. Serch hynny, byddai wedi cychwyn fel eglwys garsiwn Castell Aberafan, ac mae cyfeiriadau at amrwyiol gaplanau ac offeiriaid o 1199 ymlaen. P’un ai taw dyma oedd un o’r adeiladau a losgwyd yn 1153, ni wyddys. Mae’r fynwent yn cynnwys sail croes y dref.

Mae peth tystiolaeth ysgrifenedig, archeolegol a thraddodiadol yn bodoli sy’n dweud bod yr anheddiad gwreiddiol yma, yn gynnar yn y Ganrif Gyntaf, wrth geg yr afon Afan ac yn agosach at y môr, ond cafodd y lleoliad naill ai ei gladdu yn y twyni neu ei ddinistrio gan lifogydd. 3 Yna, ar ddechrau’r Ddeuddegfed ganrif adeiladodd Tywysogion Afan gaer ger man croesi’r afon, ar y briffordd i’r gorllewin. Oherwydd eu bod ar eu tiroedd ei hunain nid oedd cestyll y Cymry yn rhai rhwysgfawr fel Caerffili, (cymharer Dolwyddelan yn Eryri), ond roeddent yn ddigon sylweddol, ac y byddai yr hyn y gallwn ei alw’n eglwys garsiwn gerllaw, yn yr achos hwn eglwys wreiddiol y Santes Fair. Mae’n sicr bod Castell Aberafan mewn bodolaeth yn 1153, oherwydd cafodd ei losgi yn y flwyddyn honno – adeilad pren oedd y castell gwreiddiol, a gafodd ei ail-adeiladu o gerrig yn ddiweddarach.

Mae’r cyfeiriad perthnasol cyntaf yn dyddio o 1199, pan wnaeth Wrgan, ‘offeiriad Afan’ ychwanegu ei lofnod at grant tir gan Morgan ap Caradoc. Mae modd gweld y berthynas gynnar rhwng y castell a’r eglwys pan, yn 1240 disgrifiwyd Gregory, a oedd yn dyst i un o siarteri Morgan Gam, fel ‘caplan Afan’. 4 Ar yr adeg honno byddai tref Aberafan wedi bod yn un fach iawn, yn cynnwys preswylwyr y castell, eu gweision a’r amrywiol fasnachwyr a chrefftwyr a oedd yn darparu gwasanaethau, ac roedd hi’n gwneud synnwyr bod caplan y castell hefyd yn rheithor eglwys y plwyf. (Roedd modd cyrraedd yr eglwys drwy groesi pont grog o’r castell). O ganlyniad i’r berthynas a oedd yn bodoli rhwng Tywysogion Afan ac Abaty Margam, ‘rydym yn gwybod enwau rhai o’r rheithoriaid canoloesol, er enghraifft, Thomas, y rheithor yn 1350, a oedd wedi llunio a llofnodi’r siartr bwrdeistref ehanagach i Thomas de Avene. Wedi i brif linach Tywysogion Afan ddod i ben yn yr 1360au, gosodwyd eglwys y Santes Fair o dan nawdd Abaty Margam, ac fe ddaeth y bwrdeistref yn rhan o arglwyddiaeth Morgannwg.

Abaty Margam

Er nad oedd Abaty Margam yn gartref i Dywysogion Afan, roeddent ymysg ei noddwyr, a chafodd llawer ohonynt eu claddu yno. Roedd tiriogaeth Margam (neu ‘Margan’ fel ei gelwir hefyd) llawer yn fwy o faint na phlwyf modern Margam, ac roedd, yn fwy na thebyg, yn rhan o etifeddiaeth deuluol Owen ap Caradog. Yn ôl Gerallt Gymro llofruddiwyd Owen gan ei frawd Cadwallon, am resymau sy’n anhysbys, a daeth y tir, gan gynnwys y tir a elwir yn Tir Iarll i feddiant Robert o Gaerloyw. Roedd y tir a roddwyd i’r mynaich yn cynnwys y tir rhwng yr afonydd Cynffig ac Afan

o ael y mynydd i’r afonydd dywededig sy’n disgyn o’r mynyddoedd i’r môr, yn y coetir a’r gwastatir; a fy mhysgodfeydd yn Afan, am sefydlu abaty yn rhydd a chlir o bob arfer.5

Robert sydd fel arfer yn cael y clod am sefydlu Abaty Margam ond mae’n amlwg na fyddai wedi bod yn bosibl ei adeiladu heb o leiaf cydweithrediad Caradog ap Iestyn a’i fab Morgan ap Caradog; er bod y Tywysogion neu eu tenantiaid ar brydiau wedi ymosod ar faenorau’r abaty fel rhan o’u gweithgareddau milwrol, nid oeddent byth wedi difrodi’r abaty ei hun.

 Ail-adlunio Abaty Margam A.L. Evans – Margam Abbey.
A.L. Evans Hawlfraint WGRO

 Adfeilion y Cabidyldy, Abaty Margam.
Trwy garedigrwydd Port Talbot Historical Society

Roedd sefydliadau Benedictaidd yn bodoli yng Nghymru cyn dyfodiad y mynachod Sistersiaidd; er enghraifft, sefydlwyd abaty Richard de Granville yn Nedd yn 1129 ar gyfer yr urdd Safinaidd, er eu bod wedi ymuno â’r Sistersiaid yn 1147. Daeth y Sistersiaid i Dde Cymru yn c.1140, gan symud i Hendy Gwyn ar Daf yn 1151; eu sefydlydd oedd Rhys ap Gruffudd, a oedd hefyd wedi sefydlu Abaty Talyllychau. Sefydlwyd Ystrad Fflur gan ei gefnder, Robert FitzStephen, mab Nest ferch Rhys ap Tewdwr. Yng nghymdeithas yr oesoedd canol, roedd priodasau yn rhai gwleidyddol, yn hytrach na pherthynas rhamantus, ond nid oedd hynny’n lleihau eu harwyddocâd.

Mae’n debyg bod Margam yn ganolfan grefyddol ymhell cyn dyfodiad y Normaniaid. Mae’r casgliad rhyfeddol o gerrig coffa a chroesau Celtaidd, gan gynnyws Croes Olwyn Conbelin, a ddarganfuwyd yn lleol a sydd, erbyn hyn, wedi’u lleoli yn adeilad yr hen ysgol ger yr abaty, yn dystiolaeth i hyn, er na darganfuwyd union natur a lleoliad y fath ganolfan. Mae tipyn o ddyfalu ynghylch Capel Mair, adeilad o’r 14eg ganrif ar y bryn uwchben Margam ond, os am atebion, rhaid aros am ymchwil pellach.

Adfeilion canoloesol Capel Mair gyda Mynydd Margam yn y cefndir.
Photo: Cyfeillion Parc Margam

Croes Olwyn Fawr Conbelin, Margam
Robin Leicester, CC BY-SA 3.0 via Wikimedia Commons

Mae cymhelliant Tywysogion Afan yn y cyd-destun hwn yn cael ei ddatgan yn glir drwy eiriad eu siarteri sy’n gysylltiedig â’r abaty newydd. Mae siarter yn dyddio o 1205 yn rhoi tir i’r abaty, gan ei fod:

“Wedi’i roi i goffáu eneidiau ei dad a’i fam, a’i holl gyndeidiau, ac er mwyn ei enaid ef ei hun” 6

gan ychwanegu y byddai ef am gael ei gladdu ym Margam, dymuniad y credir iddo gael ei wireddu tair blynedd yn ddiweddarach yn dilyn ei farwolaeth.

Adfeilion Abaty Margam Abbey, credir fod man claddu Morgan ap Caradog ac eraill o’r llinell Afan.
Credit: Archangel12 via Wikimedia Commons

Cafodd sefydliadau crefyddol, yn enwol, eu sefydlu er budd enaid y sefydlydd a’i deulu, ond mae Nedd a Margam yn achosion diddorol. A oedd eu pwrpas, fel y dywedir yn aml, i sicrhau bod Tywysogion Afan yn ymddwyn neu i amddiffyn ardal strategol Afan Wallia rhag cael ei gorchfygu gan un o’r barwniaid Normanaidd mwy uchelgeisiol a oedd, yn rhy aml o lawer, yn gwrthryfela yn erbyn y Goron?

Er taw eglwys Sant Baglan ac eglwys y Santes Fair, Aberafan, yw’r ddwy eglwys a gysylltir fwyaf gyda Thywysogion Afan, mae hefyd gan eglwys Sant Mihangel yng Nghwmafan gysylltiad ar ffurf bedd George Williams o Flaen Baglan, a oedd yn ddisgynnydd o gangen iau teulu Plas Baglan. Erbyn hyn defnyddir y garreg fedd fel allor ac mae’r ffigyrau arni’n cynrychioli George Williams (marw 1600), ei wraig Maud Lougher a’i deuddeg o blant.  Ar y garreg mae’r arysgrif hynaf Cymraeg sydd i’w weld yn yr ardal, sef: “Y Trymped Pan Kenir Y Meirw Y Gofydyr”, “Ar ganiad y trwmped bydd y meirw yn atgyfodi”.

Bedd George Williams, Blaen Baglan, yn Eglwys St Michael, Cwmafan.
Llun oddi wrth A.L. Evans ‘The Story of Baglan’
A.L. Evans Hawlfraint WGRO

CYFEIRNODAU

1.Phillips, Martin and Thomas, Anthony, Aberavon and District about 1700 yn Transactions of the Aberavon and District Historical Society 1930, t. 47
2. O`Brien, James, Old Afan and Margam, Yr Awdur, 1926, p.61
3. Cadw, 2022, St Baglan’s Scheduled Monument Report http://cadwpublicapi.azurewebsites.net/reports/sam/FullReport?lang=en&id=3120, Wedi’i weld 16/10/22
4. O`Brien, James, Old Afan and Margam, t. 46-52
5. O`Brien, James, Old Afan and Margam, t. 65
6. Evans, A.L., Margam Abbey, Yr Awdur, 1958, t. 17
7. Birch, W. de G., A History of Margam Abbey, Yr Awdur, 1897, T. 159
8. Evans, A.L., The Story of Baglan, Yr Awdur, 1970, T. 58-60