Pennod 6: Safeleoedd Canoloesol Eraill yn Gysylltiedig a Llinach Afan Wallia

Castell Aberafan

Er nad oes unrhyw gofnodion cyfoes ynghylch hanes cynharaf Plas Baglan, gallwn weld olion strwythur caerog, a adeiladwyd tua’r flwyddyn 1200, mae’n debyg gan Morgan ap Caradog. Nid yw’n hysbys p’un ai roedd y safle’n cael ei ddefnyddio cyn hynny, ond efallai y byddai arolwg archeolegol yn darganfod mwy. Serch hynny, mae Castell Aberafan yn llawer fwy o enigma. Yr unig gofnod o’i fodolaeth yw nodyn ym Mrut y Tywysogion yn cofnodi bod Rhys a Maredudd ap Gruffudd wedi ymosod arno, a’i ddinistrio, yn 1153 ac, yn y blynyddoedd diwethaf mae hyn wedi arwain rhai awdurdodau i awgrymu ei fod yn gastell a adeiladwyd ac y daliwyd gan y Normaniaid, ac nid un o adeiladau Tywysogion Afan, er mae’n bosibl eu bod wedi ei feddiannu, a’i gymryd fel eu prif gartref, yn nes ymlaen.

Cynllun Castell Aberafan
Argraffiad gyntaf map 25 modfedd OS 1876 o ‘Old Afan and Margam’, yn wynebu tudalen 56

Roedd olion gweladwy diwethaf y castell wedi’u lleoli ychydig yr ochr arall i’r wal sy’n amgylchynu eglwys y Santes Fair. Roedd y cyfan wedi diflannu yn 1895 pan yr adeiladwyd sawl stryd teras a enwyd yn briodol – Stryd y Castell, Stryd Beili, Maes y Santes Fair a Stryd y Santes Fair – ac er bod sïon ar led bod darlun o’r castell yn bodoli, does dim wedi dod i glawr. Mae rhifyn cyntaf o’r map OS 25 modfedd a gynhoeddwyd yn 1876 yn dangos olion y castell fel uned gaeedig hirsgwar mawr, yn mesur 55 metr wrth 46 metr (160 x 140 troedfedd) ar y tu mewn, gyda ffos o’i gwmpas sydd, ar gyfartaledd,13.5 metr ar led. Mae nodwedd crwn bychan yng nghanol yr hirsgwar; mae’n bosib taw mwnt yw hwn, ond hefyd fe awgrymwyd ei fod yn dalwrn. 1 Mae’r dimensiynau yn awgrymu strwythur a oedd llawer yn fwy na Phlas Baglan. Er ei bod yn ymddangos bod y castell wedi’i adael i ddadfeilio wedi i brif linell y Tywysogion ddod i ben tua 1360, roedd wedi parhau i fod yn ganolfan ar gyfer seremonïau dinesig tref Aberafan hyd at yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif, ac roedd Cwnstabl y castell yn un o swyddogion dinesig y bwrdeisdref a oedd yn bodoli cyn 1860. 2 Un o’r disgrifiadau cynharaf o’r castell yw’r un gan fardd anhysbys o Gymro a gyfansoddodd y penillion canlynol am adfeilion Castell Aberafan:

Yma bu rhoddfa brydferth
Och weled ei chwalfa mor anferth
Cwympo a rhwygo yn rhygerth
Furiau wnaed yn fawr eu nerth. 

Here there was a splendid walkway,
Sad to see such destruction
Now laid low in fragments.
These walls, once so strong  

Fel y nodwyd uchod, mae’r cyfeririad at ddinistrio’r castell gwreiddiol yn 1153 wedi peri i rai haneswyr awgrymu taw garsiwn Normanaidd oedd y castell, gan fod Rhys a Maredudd ap Gruffudd yn frodyr yng nghyfraith Caradog ap Iestyn ac ewythrod Morgan ap Caradog; erbyn hynny mae’n debyg taw fe oedd Tywysog Afan cyfredol, a does dim tystiolaeth i awgrymu bod hyn yn gweryl teuluol. Mae’r cyfeiriad yn un llawysgrif o Frut y Tywysogion yn dweud bod yr ymosodwyr wedi lladd y garsiwn ac wedi gadael gydag `ysbail anferth a chyfoeth di-rif’ 3  

Mae fersiwn Peniarth ychydig yn wahanol ac yn dweud,

`Ac wedi hynny, ym mis Mai, aeth Maredudd a Rhys i gastell Aberafan ac, wedi iddynt ladd llawer a llosgi tai, roeddent wedi mynd ymaith gyda llawer o ysbail`.4

Yr hyn sydd o ddiddordeb yma yw’r cyfeiriad at ‘dai’, sy’n awgrymu bod Aberafan yn anheddiad, ac nid yn unig yn gaer fel y byddai wedi bod petai’r castell yn garsiwn Normanaidd.

Os byddwn yn edrych ar y darlun ehanagach mae rheswm posibl dros yr ymosodiad yn dod yn glir. Mae’n debyg nad oedd Tywysogion Afan yn gwrthwynebu adeiladu Abaty Margam ac, mewn gwirionedd, roeddent wedi gwneud grantiau o dir iddo, ac yn cael eu claddu yno. Roedd Robert o Gaerloyw, sylfaenydd yr Abaty, wedi marw yn 1147 ac fe’i dilynwyd gan ei fab Gwilym.  Er iddo adeiladu castell Caerdydd, roedd Robert i ffwrdd llawer o’r amser, naill ai yn Normandi neu’n brwydro dros ei chwaer, yr Ymherodres Matilda, tra bod Gwilym yn cymryd mwy o ofal o’i diroedd ym Morgannwg. Mae’n ymddangos ei fod yn ceisio ymestyn ei rym y tu hwnt i’w derfynau cyfredol – er enghraifft, roedd wedi dyfarnu tir ar ymyl Aberafan i ddyn o’r enw William FitzHenry, a oedd, yn ei dro, wedi rhoi tiroedd yno i Abaty Tewkesbury. Er nad yw’r dyddiad yn bendant, efallai taw dyma’r adeg pan roedd Gwilym, wedi iddo gael ei gythruddo gan Morgan ap Caradog, wedi ymateb drwy ddallu gwystl. Yna, yn 1158, roedd Gwilym wedi dwyn tir oddiwrth prif arglwydd arall yr ardal, sef Ifor Bach Senghenydd – a oedd, fel roedd yn digwydd, yn dad yng nghyfraith i Morgan ap Caradog ac i Mabilla, chwaer Gwilym. Gweithredu bu hanes Ifor Bach – dringodd i mewn i Gastell Caerdydd gan gipio Gwilym, ei wraig a’i fab, a’u dwyn ymaith i’r goedwig, a’u cadw yno nes bod Gwilym wedi addo rhoi’r tiroedd yn ôl. Byddai dyn yn disgwyl bod Ifor Bach wedi derbyn cosb fawr am wneud hyn, ond mae’n ymddangos bod Gwilym, am unwaith, wedi dysgu gwers.

Fel y nodwyd yn gynharach, mae’r cyfeiriad at losgi tai yn 1153 yn dangos bod tref Aberafan eisoes yn bodoli. Er bod awduron cynharach wedi awgrymu bod Caradog ap Iestyn wedi cyhoeddi siartr, y cyntaf sydd gennym erbyn hyn yw’r un sy’n dyddio o c. 1304/7 ac a roddwyd gan Leision ap Morgan Fychan. Mae’n fyr ac ychydig yn gamarweiniol, gan fod y mwyafrif o’r grantiau yn cyfeirio at ‘fwrdeisiaid a mentrwyr Seisnig’ Leision; er mwyn hyrwyddo’r dref, mae’n ymddangos ei fod wedi annog masnachwyr a marsandiwyr, efallai’n hannu o Fryste, i ddod i Aberafan, ac yn gyfnewid, ei fod yn cynnig iddynt fanteision penodol. Mae’r siarter hefyd yn sôn am orchmynion Cynffig, a rhain oedd y cyfreithiau sylfaenol ynghylch y drefn gyhoeddus, rheoli masnach, tollau, glanweithdra, ayyb a oedd yn berthnasol i bawb. Nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod pa faint o fwrdeisiaid Seisnig a oedd wedi dod yno, neu chwaith p’un ai taw dim ond Saeson oedd yn gallu bod yn fwrdeisiaid, fel oedd yr arfer mewn trefi a sefydlwyd gan y Normaniaid. Pan yr ydym, o’r diwedd, dwy ganrif yn ddiweddarach yn dysgu enwau’r trigolion, maen nhw oll yn enwau Cymreig.5

Roedd cestyll yr aneddau Normanaidd yng nghanol caerau muriog, ac yn cadw’r brodorion y tu allan i’r waliau, a’u caniatáu i ddod i mewn dim ond yn ystod oriau golau dydd. Llawer yn ddiweddarach mae cyfeiriad at gofnodion yn sôn am waliau tref Aberafan, ond does dim tystiolaeth bod unrhywbeth mwy nag efallai perth ffin yn bodoli. Nid yw’n hysbys p’un ai oedd unrhyw un yn byw yn y castell unwaith bod Tywysogion Afan wedi gadael y lle, ond mae’n ymddangos ei fod wedi adfeilio’n araf, er ei fod yn ganolbwynt seremonïau dinesig am bum canrif arall.

Chwedlau sy’n gysylltiedig â chastell Aberafan

Ladi Wen – roedd hanes ysbryd Ladi Wen Castell Aberafan yn stori adnabyddus ymysg trigolion Aberafan hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Roedd ei delwedd ysbrydol i’w weld yn hofran o gwmpas safle’r hen gastell, ger mynwent Eglwys y Santes Fair. Credir taw hi oedd naill ai Margaret, mam Syr John D`Avene, 8fed Arglwydd Afan Wallia, neu ei wyres Jane; credir taw hi oedd yr aelod diwethaf o’r teulu i fyw yn y castell, gan adael ei chartref hynafiadol tua diwedd y 14eg ganrif i briodi marchog o Sais, Syr William Blount mewn amgylchiadau dirgel, sydd wedi mynd yn angof erbyn hyn. Credir bod yr enw Ladi Wen yn cyfeirio at Fair Forwyn, noddwr yr eglwys, a’r teitl Cymraeg yn golygu Menyw Sanctaidd neu Fendigaid.

Efallai taw’r chwedl fwyaf enwog sy’n gysylltiedig â Chastell Aberafan yw’r un sy’n cynnwys tywysog cyntaf oll Afan Wallia, Caradog ap Iestyn. Yn cael ei erlid gan ei elynion dywedir iddo guddio mewn mwnt ger y castell. Tra’n chwilio amdano, sylwodd ei elynion bod colomennod yn troellu’n ddioglyd uwchben y mwnt a, gan nad oeddent yn gallu dod o hyd i’r tywysog Cymreig, aethant ymaith gan ddod i’r casgliad y byddai’r colmennod wedi cael eu haflonyddu pe byddai wedi bod yno. Cafodd y ddihangfa ffodus hon ei chofnodi mewn paentiad olew mawr a fu unwaith yn hongian yn yr hen adeiladau dinesig ond sydd, yn anffodus iawn, wedi diflannu fel cymaint o’n harteffactau hynafol.

Mae’r chwedl olaf yn adrodd hanes Dafydd Ddu Grwydryn, ymladdwr aruthrol yng ngwasanaeth Tywysogion Afan a oedd, yn ystod ymosodiad ar Gastell Aberafan, wedi sefyll ei dir ym morth y neuadd lle roedd wedi llwyddo lladd unarddeg o’r gelyn a oedd yn ymosod arno. Heb fod yn fodlon ar y fath orchest anhygoel, aeth ati i erlid dau arall a oedd wedi ffoi, a’i lladd hwythau hefyd.

Castell Bolan

Wedi’i ddisgrifio fel mwnt castell yn sefyll ar ddarn o dir ar ochr ogleddol Mynydd Dinas, mae ei ddyluniad yn ymddangos ei fod yn efylychu strwythur o fath mwnt Normanaidd.  Mae’r strwythur hwn, sy’n Heneb Gofrestredig, yn cael ei alw’n Mwnt Cwmclais neu, yn lleol, Castell Bolan, ac mae wedi’i amgylchynu gan ffosydd amddiffynol. Mae ei fan gwanaf, sef yr ochr ddwyreiniol, yn wynebu at ucheldir caeedig mawr o’r enw Cae Mawr. Mae’n bosib bod ei ddefnydd, yn y 19eg ganrif, gan grŵp amddiffyn lleol i ymarfer saethu wedi dinistrio, yn rhannol, ei wrthgloddiau gwreiddiol.7

Tomen Cwmclais. Ffoto: Tim Rees

Cynllun tomen Cwmclais, neu Castell Bolan.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Nid yw’r heneb wedi bod bod yn destun unrhyw archwiliad archeolegol diweddar, ac mae’n dal yn ddigelwch pwy a’i adeiladodd, y goresgynwyr Normanaidd neu’r Cymry brodorol. Yn wir, yn ei fywyd byr tebygol ynghanol cynnwrf goresgyniad De Cymru gan y Normaniaid, mae’n bosibl bod y ddwy ochr wedi’i feddiannu a’i rheoli. Byddai’r safle wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol yn y 13eg ganrif, pan yr oedd Morgan ap Caradog mewn cynghrair a Llywelyn Fawr ac, yn ddiweddarach, gyda Llywelyn ap Gruffudd, i ymosod ar gadarnleodd y Normanaid yn Llangynwyd, Nedd a Chynffig.

Mae’r ardal sy’n amgylchynu’r heneb hon hefyd yn haeddu sylw. Mae’r mapiau a ddangosir uchod, yn dyddio o 1798 ac 1841, yn datgelu ambell gliw diddorol iawn ynghylch hanes y safle. Rhaid cynnwys gair o rybudd pan yn dangos y map ystâd sy’n cydberthyn â Chae Mawr; er ei fod yn cynnwys sawl nodwedd sy’n awgrymu ei fod yn dylunio’r un ardal ag a ddangosir ar fap y degwm, mae dal peth ansicrwydd oherwydd y diffyg manylder cywir ar y map ystâd i ddynodi ei union leoliad daeryddol. Mae’r mapiau yn dylunio ardal fawr sgwâr o laswelltir uwch yn union o flaen amgaer mwnt Cwmclais.

Cymhariaeth o fapiau degwm 1798 a 1841.
Delweddau gan Tim Rees, trwy garedigrwydd Archifau Gorllewin Morgannwg, Abertawe

Fodd bynnag, os yw’r rhagdybiaethau’n gywir a bod y ddau fap yn dangos yr ardal a elwir, erbyn heddiw, ‘Cae Mawr’, fe allai’r ardal hon gyfiawnhau archwilio pellach. Mae ei siap cyson a’i agosrwydd at y castell awgrymu ei fod yn rhan o’r cymhlyg canoloesol sy’n gysylltiedig â Mwnt Cwmclais neu Gastell Bolan.

Yn y deuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg byddai bridio ceffylau mawr at ddibenion milwrol gan brif foneddigion y Cymry yn golygu bod angen ardaloedd o dir addas yn agos at eu caerau. Mae dogfennau yn bodoli sy’n cofnodi bod rhai o’r byddinoedd Cymreig yn cynnwys dros 7,000 o ddynion, yn cynnwys 800 o farchnogion arfog.22 Byddai Tywysogion Afan, yn debyg i aelwydydd brenhinol Cymreig eraill y cyfnod, yn cadw lluoedd o ddynion a marchogion wedi’u arfogi’n dda; byddai angen canolfan leol pan yn lansio unrhyw ymosodiad a oedd yn deillio o’r fath weithgareddau.

A’i agosrwydd, a’i fynediad hygyrch at gaerau Normanaidd eraill, megis tref a chastell Nedd, drwy fynedfa mynydd y Bwlch, roedd y castell hwn wrth galon Afan Wallia, gyda’i system o gaeau ar godiad wedi’u hamddiffyn ar lethrau dwyreiniol Mynydd Dinas, yn cynnig lleoliad credadwy i gynnull byddinoedd y Cymry wrth iddynt amddiffyn eu tiroedd.

Mae’n bosibl dod o hyd i dystiolaeth pellach yn cysylltu Nant y Clais gydag ymgyrchoedd milwrol Tywysogion Afan ym Mrut y Tywysogion. Mae eitem yn y ddogfen hon yn cyfeirio at frwydr rhwng y Cymry a lluoedd Eingl-Normanaidd, y credir iddi ddigwydd yn 1245 ger Cwmclais, Cwmafan; mae’r cofnod yn Lladin a gofnodwyd gan fynach, a oedd yn fwy na thebyg wedi’i leoli yn Abaty Ystrad Fflur, yn dweud 

“In quondam clivo prope castrum quod fuit Margani Gam`,

sef:

“Ar lethr y bryn hwnnw, ger castell a oedd gynt yn eiddo i Forgan Gam” 35 

Mae’r lleoliad wedi’i adnabod gan yr hanesydd lleol A. Leslie Evans fel llethrau Mynydd Dinas ger Cwmafan; ac mae hwn yn cydfynd â darlun a dynnwyd gan groniclydd o Sais, sydd wedi cynnwys hwn yn ei Chronica Maiora.8

Darlun gan Matthew Paris 1245
Matthaei Paris Chronica Maiora II, The Parker Library, Corpus Christi College, Cambridge MS 016ii, fol. 184v

Os ‘rydym yn derbyn bod yr ardal hon wedi cael ei defnyddio fel caer filwrol gan Dywysogion Afan, yna efallai bod yr enw `Cae Maes Llywelyn` o beth arwyddocad. Mae’n demtasiwn tybio bod perthynas yn bodoli gyda Thywysogion Gwynedd gan – er bod rhaid bod yn ofalus pan yn ystyried y fath syniad – fod aelod diweddarach o’r llinach hwn yn gysylltiedig â’r ardal, sef Griffith Llewellyn o Neuadd Baglan.

Mae’r enw a ddefnyddir yn gyfredol ar gyfer y safle hwn, sef Castell Bolan, hefyd o ddiddordeb. ‘Rwyf yn amau bod hyn yn enw cymharol fodern oherwydd bod ffynonellau yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif neu’r 20fed ganrif cynnar yn cyfeirio at ei siap, sy’n ymdebygu i bowlen’. Rwyf wedi siarad â bobl lleol, a oedd yn gweithio ar Fferm Cwmclais yn gynnar yn y 1940au a’r 1950au, sydd wedi dweud eu bod yn cofio’r gweithwyr hŷn yn cyfeirio at gae cyfagos yn cael ei alw’n `Cae Bowler` oherwydd ei fod yn ymdebygu i siap het o’r fath. Mae’n bosibl felly bod gweithiwr fferm lleol wedi sôn am yr enw Bolan yn ystod arolwg archeolegol cynnar a gynhaliwyd gan Syr Mortimer Wheeler, y mae’n hysbys ei fod wedi archwilio olion ar Fynydd Dinas yn 1923, ac, oherwydd hynny, bod yr enw wedi cydio.

Er bod ffynhonnell yr enwau yn mynd yn ôl ymhell cyn cyfnod Caradog ap Iestyn a’i ddisgynyddion, mae’n ddiddorol gweld sut y mae enwau lleoliadau penodol yn arddangos gafael teulu Caradog ar yr ardal hyd yn oed wedi ymosodiad y Normaniaid. ‘Bryn y Brythoniaid’ yw Brybryddan, ystâd o dai yn dyddio o’r 1930au ar lethrau Mynydd y Gaer, a sydd wedi, mae’n debyg, cael ei enwi ar ôl y tŷ fferm Tuduraidd a oedd ar un adeg yn sefyll yno. Mae Briton Ferry yn enw arall tebyg – yn 1188 pan roedd Gerallt Gymro yn ymweld â’r ardal yng nghwmni Esgob Caergaint, ei gefnder, Morgan ap Caradog, oedd yn hebrwng ei barti ar draws afon Nedd. Er taw cyfieithiad cymharol fodern yw Briton Ferry, roedd croniclwyr y canol oesedd yn cyfeirio ato fel `passagium Briton`.

Darlun o Dŷ Fferm Brynbryddan c. 1897 ym meddiant preifat
Ffoto gan Tim Rees

Hen Gastell

“Un o’r cymharol ychydig o safleoedd canoloesol cynnar yng Nghorllewin Prydain a ddatblygodd i fod yn gestyll yn y cyfnod canoloesol uchel” 9

Mae Hen Castell, ar ochr orllewinol yr afon Nedd, a Warren Hill, caer yn dyddio o’r Oes Haearn, wedi’i lleoli gyferbyn â’i gilydd ar yr ochr ddwyreiniol, yn safleoedd dau gastell colledig; mae’r cyntaf yn gysylltiedig â Thywysogion Afan, yn benodol, Morgan ap Caradog, y credir iddo adeiladu’r castell yn 1183, pan yr oedd ef ynghyd â thywysogion eraill, ar fin mynd yn rhan o’r brwydro mawr yn erbyn ymosodiad y Normaniaid ar Dde Cymru. Er taw dim ond yn y 1980au y cafodd ei ail-ddarganfod, adeg dechrau adeiladu pont newydd yr M4 yn Llansawel, roedd hynafiaethwyr cynt, yn benodol Rhys Meyrick [c1520-87], a oedd wedi darllen yr hanes yn y gyfrol Cofrestr Abaty Nedd, cyfrol sydd erbyn hyn ar goll, wedi’i ddisgrifio ei fod wedi’i leoli ar fryn serth ger y llwybr i Lansawel ar yr afon Nedd. Roedd yn amlwg yn leoliad strategol pwysig, yn amddiffyn y llwybr llongau ar yr afon Nedd, yn ogystal ag edrych dros man croesi’r afon beryglus, a adwaenir yn 1289 fel passagium de briton neu Passagium aquae de Bruttone [1307], a safle a oedd yn galluogi’r Cymry i reoli’r llwybr arfordirol o Aberafan i Abertawe a Gorllewin Cymru.

Hen Castell a’i gynllun o’r awyr fel yr oedd yn edrych cyn yr adeiladwyd yr estyniad i’r M4 yn y 1990au. Erbyn hyn mae’r copa wedi diflannu o dan Cyffordd 42 yr M4.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Bu digwyddiad enwog yma yn 1188 pan yr aeth Gerallt Gymro, a oedd yn teithio o gwmpas Cymru’n recriwtio dynion i’r Groesgadau, yn sownd yng ngwely lleidiog yr afon, gyda’r canlyniad bod ei geffyl bron a marw a’i fod wedi colli rhai o’i lyfrau gwerthfawr.10 

Tra’n cloddio yma yn 1991, cafodd yr archeolegwyr eu synnu pan, yn ogystal â darganfod tystiolaeth a oedd yn cefnogi ei ddefnydd yn y 12fed ganrif, y darganfuwyd eitemau’n dyddio o gyfnod llawer cynharach, megis tlws o ansawdd uchel, gwydr o Fôr y Canoldir, mwclis a chrochenwaith o’r 5ed ganrif, yn ogystal â theilchion o grochenwaith, sy’n awgrymu bod safle Hen Castell  yn gadarnle mawr yr uchelwyr a oedd wedi cael ei ddefnyddio gan y bendefigaeth am sawl ganrif cyn goresgyniad y Normaniaid. Oherwydd y darganfyddiadau yma, mae wedi’i awgrymu bod Hen Castell yn llys frehinol yn cael ei ddefnydio gan ‘subregulus’ mwy parhaol wedi’i leoli yn nheyrnas Glywysing (a enwyd Forannwg yn nes ymlaen).11 Fel y nodwyd mewn man arall, fe fyddai wedi galw am ymweliadau rhwng sawl ganolfan.

Fe ddaeth yn gysylltiedig yn agosach yng nghyfnod diweddarach yr oesoedd canol gyda chantref oedd i’w dra-arglwyddiaethu gan Dywysogion Afan Wallia.

Casgliad o ddargafyddiadau o’r arolwg archaeolegol 1991 ar safle Hen Gastell
Trwy garedigrwydd Heneb

Tra bod y darganfyddiadau uchod yn tueddu i ddangos defnydd cyson Hen Gastell o’r 4ydd i’r 12fed ganrif, mae ei berthnasedd i gyfnod Tywysogion Afan yn cyfeirio at ei ddefnydd yn ystod y 12fed ganrif, gan y cafodd ei ddisgrifio gan yr archeolegwyr a oedd yn cloddio’r safle yn 1991 fel

‘un o’r cymharol ychydig o safleoedd canoloesol cynnar yng Nghorllewin Prydain a ddatblygodd i fod yn gestyll yn y cyfnod canoloesol uchel’.

Maen nhw’n rhestru Castell Tintagel yng Nghernyw, sy’n enwog oherwydd ei gysylltiad â’r Brenin Arthur, fel esiampl arall, gan ychwanegu

‘Yn hwyr yn y 12fed ganrif dyma oedd gorsedd rheolwr lleol ar diriogaeth’,

gyda’r cadarnhad oddiwrth Gerallt Gymro taw’r rheolwr oedd

`Morgan ap Caradog, Tywysog y parthau hynny.`

 

Pen Castell

Hwn yw’r trydydd ‘castell’ a enwir gan Anthony Thomas yn Parochialia Edward Lhuyd, caer o’r Oes Haearn, a adeiladwyd gan y Silwriaid 12. Byddai wedi’i leoli mewn safle delfrydol i amddiffyn man croesi pwysig yr Afon Afan, ger safle eglwys Sant Mihangel. Yng nghanol y 12fed ganrif roedd wedi’i leoli ar ffin ddwyreiniol bellaf y tiroedd yn Nhir Iarll a oedd o dan reolaeth y Normaniaid a thir eithafol Afan, a reolwyd gan y Cymry i’r gorllewin ac er nad yw’n ymddangos ei fod wedi’i atgyfnerthu ymhellach gan Garadog a’i ddisgynyddion, mae’n debyg y byddai wedi gweld brwydro rhwng y ddwy ochr, a oedd yn ymladd dros reolaeth o’r safle. Hyd yn oed heddiw mae golygfa o’r awyr yn dangos  ffosydd amddiffynnol consentrig ar dop y bryn a fyddai, o bosib, wedi cael eu defnyddio gan y grwpiau milwrol a oedd yn meddiannu’r safle. Yn ei lyfr yn esbonio enwau llefydd yng Nghwm Afan, a ysgrifennwyd yn 1889, roedd y bardd a’r awdur Madog Fychan wedi rhoi’r disgrifiad canlynol o Ben Castell:

           ‘Ar ben y bryn crwn mae na olion yn bodoli sy’n awgrymu bod rhyw fath o amddiffynfa wedi bod yno ar ryw adeg. Mae’n fryn moel gyda thop braidd yn wastad ac, o’i gwmpas, mae nifer o lwybrau i’w gweld. Yn ddiweddar, tra’n aredig y tir, darganfuwyd darnau o haearn sy’n ymddangos eu bod wedi bod yn rhannau o arfau. Ger y tŷ fferm a’r llwybr sy’n arwain at Benlan Walby, mae carreg enfawr ac mae traddodiad yn dweud bod llawer o gyrff wedi’u claddu o’i gwmpas.13

I ychwanegu at hyn, yr wyf yn cofio sgwrsio â rhywun ychydig flynoddoedd yn ôl a oedd wedi disgrifio, pan roedd yn fachgen ifanc, dod o hyd i ddolen fetal cleddyf tra’n chwarae ar ben Pen Castell yn y 1970au; roedd wedi’i hanner gyddio o dan craig. Mae hefyd chwedl leol yn cysylltu Pen Castell gyda Gwenllian, merch tywysog Cymreig lleol. Mae’r stori yn honni bod yr arglwydd lleol, Rhys Fychan, wedi colli brwydr ar y mynydd gerllaw [credir taw Pen Castell oedd hwn] a bod y Norman buddugol wedi hawlio Gwenllian merch Rhys yn wraig iddo. Ond yn hytrach na phriodi gelyn ei thad, taflodd ei hun i bwll yn yr afon Afan, gan foddi. O’r diwrnod hwnnw ymlaen mae’r pwll wedi’i enwi’n Pwll Gwenllian, sydd wedi’i leoli ger safle’r hen gwt moch yng Nghwmafan.14

Pan fydd llifogydd dywedir bod y Dywysoges Gwenllian yn ymddangos yn y nos, wedi gwisgo mewn dillad gwyn llac, i rybuddio bod perygl. Hefyd dywedir bod ysbryd ei thad yn gwarchod gorphwysfa olaf eu milwyr, ynghyd â’u trysor claddedig, o dan garreg a elwir y Garreg Fawr.

Gwenllian gyda’i thad. Llun gan Sandra Felstead oddi wrth Elen and the Goblin and other Legends of Afan ail-adroddodd gan Sally Roberts Jones 1977

Trwy garedigrwydd Alun Books

Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr

Er taw dim ond am gyfnod byr yr oedd Tywysogion Afan wedi meddiannu’r castell hwn, a’i fod cryn bellter oddiwrth eu cartrefi hynafiaethol yn Aberafan a Phlas Baglan, dylid cynnwys y castell hwn, yn gyntaf oherwydd y ffordd mae’n ymddangos iddo ddod i feddiant y teulu hwnnw ac, yn ail, oherwydd taw hwn yw’r unig gastell sy’n gysylltiedig â nhw sy’n dal i sefyll, o leiaf yn rhannol.

Dechreuwyd adeiladu Castell Newydd c.1106, ond mae’r hwn sy’n weddill erbyn hyn yn dyddio o bron canrif yn ddiweddarach. Efallai bod y gwaith wedi’i ddechrau ychydig cyn marwolaeth Gwilym o Gaerloyw ac wedi’i barhau gan Harri’r II; nid yw’n hysbys p’un ai oedd Morgan ap Caradog hefyd wedi cyfrannu at y gwaith adeiladu, ond mae’n bosibl ei fod wedi gwneud. Nid oes sicrwydd ynghylch sut y daeth Castell Newydd i’w feddiant ond mae’n ymddangos ei fod yn ymgais i gymodi â’r Brenin Ioan. Pan fu farw Gwilym o Gaerloyw yn 1183, gan adael tair merch yn etifeddion, roedd Harri’r II a oedd yn chwilio am ffordd i gynnasgaethu ei fab ifancaf, Ioan ‘Lackland’, wedi achub ar y cyfle i roi un o’r merched, Isabella, yn wraig i Ioan. Mae’n debyg bod hyn wedi bod yn briodas wleidyddol; ni anwyd plant i’r pâr ac roedd Ioan wedi ysgaru oddiwrth ei wraig yn 1200, ond roedd yn golygu ei fod yn Arglwydd Morgannwg ac, yn 1199, Brenin Lleogr yn dilyn marwolaeth ei frawd, Rhisiart I. Roedd ei dad wedi marw yn 1189 ac, yn y flwyddyn honno, roedd Ioan wedi rhoi Castell Newydd i Forgan ap Caradoc.

Does dim dwywaith ei fod eisoes yn gwybod efallai y byddai arno angen cynghreiriau, a phwy yn well na rhywun a oedd yn rheoli croesfannau dwy afon hanfodol ar y ffordd i’r Iwerddon.

Y fynedfa wedi’i arddurno Castell Newydd, Pen-y-bont Ar Ogwr.
Ffoto: Tim Rees

Am y tro, roedd yr ymgais hanfodol hon i gymodi yn llwyddiant. Roedd marwolaeth yr Iarll Gwilym yn 1183 wedi arwain at gyrch mawr yn erbyn yr anheddau Normanaidd ym Morgannwg; yna, roedd Harri’r II wedi rhybuddio’r arweinyddion – Rhys ap Gruffudd, meibion Ifor Bach Senghenydd a Morgan ap Caradog – rhag aflonyddu’r mynachod yn Abaty Margam, er taw Caerdydd, Castell Newydd, Nedd a Chynffig a oedd wedi dioddef fwyaf. (Roedd y cyfan yn dipyn o barti teuluol oherwydd roedd pawb a oedd yn rhan – hyd yn oed Gwilym o Gaerloyw – yn perthyn i’w gilydd; roedd Gruffudd ap Ifor Bach yn briod â Mabilla, chwaer Gwilym).

Dilynwyd Morgan ap Caradog gan ei fab hynaf, Lleision, ac yn 1204 aeth gyda 200 o’i gyd-Gymry i Normandi i wasanaethu’r brenin. Ond erbyn 1217, y flwyddyn y bu farw’r Brenin Ioan, bu farw Lleision ei hun. Erbyn hynny roedd Arglwyddiaeth Morgannwg wedi dychwelyd i ddwylo Richard de Clare, a oedd wedi priodi Anice, chwaer Isabella, ac yna i’w mab Gilbert, a oedd nawr wedi mynd â Chastell Newydd o feddiant brawd Lleision, Morgan Gam a’r rhoi i Gilbert de Turberville.15

Mae’n ymddangos bod cael ei orfodi i golli meddiant o Gastell Newydd wedi peri gofid mawr i Forgan Gam, a’i fod wedi achosi sarhad dwfn iddo, gan greu awydd cryf i’w ail-feddiannu. Mae’r ymgyrchoedd arfog niferus yn yr ardaloedd cyfagos hyd at ei farwolaeth yn 1241 yn dyst i hyn. Yn eironig ddigon, roedd ymgyrchoedd milwrol Morgan i geisio ad-ennill Castell Newydd wedi’u hanelu yn erbyn Gilbert de Turberville, ei fab yng nghyfraith, a oedd wedi priodi Matilda ei ferch. 

Castell Newydd, Pen-y-bont Ar Ogwr, wedi’i feddiannu gan Dywysogion Afan tan c. 1217.
Ffoto: Tim Rees

CYFEIRNODAU

1. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru(RCAHMW): Inventory of the Ancient Monuments of Glamorgan, 1991, Vol 3, (Part 1a), t 154-6
2.O`BRIEN, James, Old Afan and Margam, Yr Awdur, 1926, t. 59
3. JONES, Thomas, gol, Brut y Twysogion or The Chronicles of the Princes, Peniarth MS 20 Version University of Wales Press, 1952, t.58
O`BRIEN p.57
4. PHILLIPS, D. Rhys, The History of the Vale of Neath Yr Awdur, 1925, t. 646-7
5.PHILLIPS, Martin. Folklore of the Afan District yn Transactions of the Aberavon and Margam District Historical Society, 1932-3, t. 102-3
6. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW): Inventory, 1991, Vol. 3, (Part 1a), t. 144
7. WILLIAMS, Rev J. (ab Ithel) gol. Annales Cambriae, Longman, Green, Longman and Roberts, 1860, t. 86
GILES, J. gol Matthew Paris: Chronica Majora, t. 406-9
Evans, A.L. Margam Abbey, The Author, 1958, t. 72-3
8. WILKINSON, P.F., Excavations at Hen Castell, Briton Ferry, Glamorgan yn Medieval Archaeology, Vol. 39, t. 1-50
9. GERALD OF WALES, The Journey Through Wales, Penguin Books, 1978, t. 130-131
10. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW). Vol. 3, (Part 1a), Pencastell
11. P. F. Wilkinson, E. Campbell, D. R. Evans, J. K. Knight, G. Lloyd-Morgan, M. Locock & M. Rednap (1995) Excavations at Hen Gastell, Briton Ferry, West Glamorgan, 1991–92, Medieval Archaeology, 39:1, 1-50, DOI: 10.1080/00766097.1995.11735573
12. ROWLANDS, Graham Place Names of the Afan Valley, Corlannau Press, NY, 2004, t. 48. (Cyfieithiad wedi’i olygu: Madog Fychan (David Evans), Hanes ac Enwau Lleoedd ac Amaethdau yn Nyffryn Afan, 1889, wedi’i olygu a chyfieithu gan Graham Rowlands)
13. PHILLIPS, M. Transactions, 1932-3, t.85
14. EVANS, A.L. The Lords of Afan yn Transactions of the Port Talbot Historical Society, Vol. 1, No. 3, 1974, t. 25-27