Tywysogion Afan
- Tywysogion Afan
- Pennod 1 Dihirod neu Arwyr?
- Pennod 2 Seliau Swydd
- Pennod 3 Y Siartir Aberafan
- Pennod 4 Lle yr Oeddant yn Byw
- Pennod 5 Lle yr Oeddant yn Addoli
- Pennod 6 Safeleoedd Canoloesol Eraill yn Gysylltiedig a Llinach Afan Wallia
- Pennod 7 Ieuan Gethin a Beirdd Eraill
- Pennod 8 Llinell Amser sy’n Berthnasol i Dywysogion Afan
- Pennod 9 Tywysogion Afan yn y Cyd-destun Ehangach
- Pennod 10: Diwedd y Llinach yn Aberafan
Pennod 7: Ieuan Gethin ac Beirdd Eraill ym Mhas Baglan
“Ymladdwr dewr a meistr y pennill brathog” 1
Cafodd Ieuan Gethin ei gyfrif yn aelod o ‘ddosbarth o foneddigion llenyddol talentog a oedd yn barddoni er pleser; er gwaethaf eu gallu mawr yn y gelfyddyd, roedd yn weithgaredd hamdden ac nid yn ffordd angenrheidiol o ennill bywoliaeth’. 2
Cydnabyddir yn gyffredinol bod gan Ieuan Gethin fynediad at rai o glasuron ‘barddoniaeth darogan’ y Gymraeg, barddoniaeth a briodolir i feirdd y 6ed ganrif, megis Taliesin, Myrddin ac eraill ar hyd y canrifoedd. Roedd ei fam Elen yn foneddwraig Gymreig, o Aberpergwm yng Nghlyn Nedd, tŷ a oedd yn enwog am ei ddiwylliant, lle roedd perthynas a chyfoeswr Ieuan Gethin, Rhys ap Siencyn, yn cymryd diddordeb mawr mewn llên barddol hynafol. Mae’n ymddangos bod ganddo fynediad at lawysgrifau yn cynnwys cyfansoddiadau gan Y Gogynfeirdd, enw sy’n gyfystyr â Beirdd y Tywysogion, a oedd wedi ysgrifennu eu cerddi, yn dathlu gorchestion milwrol tywysogion Cymru, rhwng y 12fed a’r 14eg ganrif. 3
Dim ond deg o gerddi Ieuan Gethin sydd wedi goroesi, ond mae eu testunau’n amrywio’n fawr, yn gwbl wahanol i’w gydoeswyr proffesiynol. Mae yna sawl cerdd naratif ddoniol lle y mae’n portreadu ei hun fel hen ddyn sy’n profi digwyddiadau annisgwyl. Mae’r rhain yn amrywio o ladron yn dwyn nythod ei wenyn gwyllt, i gadno’n mynd â’r ŵydd a oedd wedi’i thewhau at y Nadolig, lle y mae’n disgrifio ei ffrind Gwenllian yn erlid lleidr yr ŵydd wedi’i harfogi â phicfforch! Mae cerdd arall yn disgrifio profiad personol poenus a gafodd wedi iddo ddal clefyd gwenerol yn dilyn cyfarfod â menyw ifanc brydferth. 4
Mae cerdd arall sy’n darlunio ochr ddoniol personoliaeth Ieuan Gethin yn sôn am ddwyn nythoedd gwenyn gwyllt o goetir ger ei gartref ym Mhlas Baglan. Enw’r gerdd yw ‘Kywyddyr Bydafe’, ac ynddo mae’r bardd yn cyhuddo unigolion o Gwm Nedd o ddwyn nythodd gwenyn o’i goed. Mae’r gerdd yn llawn doniolwch barddol, yn disgrifio anturiaethau tri unigolyn, Llywelyn, Gruffudd ac Ieuan; awgrymir eu bod wedi’u hanfon gan yr Arglwydd ifanc Sion ap Rhys ap Shenkin o Aberpergwm yng Nghwm Nedd gerllaw i ddwyn mêl o goed sy’n eiddo i Ieuan Gethin.
Ail-ymgorfforiad awgrymiedig o Blas Baglan, golgyfa o’r gogledd, gan Paul R. Davies
(Towers of Defiance Y Lolfa 2021).
Er gwaethaf ei gyfansoddiad doniol, mae geiriau’r gerdd hefyd yn cynnwys rhybudd i’r lladron mêl, sy’n cael eu disgrifio ganddo fel ‘fermin’ a phlâu’; mae’n bygwth nhw gyda’r gyfraith pe byddant yn cael eu dal gan ddisgrifio fel y bydd un o’i ddynion, un o’r enw Dewi, yn defnyddio’i fwyell i dorri i ffwrdd troed neu goes y dihiryn wrth iddo ddringo’r goeden i gyrraedd nyth y gwenyn.
Bees nest in a tree near Plas Baglan today
Photo by Paula Denby
Mae cerdd rhyfedd, sy’n berthnasol i ddigwyddiadau cenedlaethol, yn sôn am garchariad Owain Tudur o Benmynydd, Sir Fôn, tadcu Harri’r VII, sefydlydd y llinach Tuduraidd. Mae’r alarnad, c.1437, yn darlunio dicter y bardd at garcharu Owain Tudur; mae’n dechrau gydag atgofion o’i ddioddefaint ei hun yn ei alltudiaeth, pan roedd wedi gweddïo dros y “blodyn” hwn, sef y tŷ a oedd wedi bod yn gefn iddo. (Fe gedwir y copi hynaf o’r gerdd sy’n bodoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.)
Mae dwy gerdd trist ac ingol yn cyfeirio at farwolaeth dau o’i blant a oedd wedi marw o’r pla. Mae’r ymateb personol iawn i’r golled a fynegir yn y darnau hyn yn gwneud hi’n haws uniaethu a’i alar. Mae’r alarnad yn disgrifio ei blant fel ei ‘Deganau’ – yn eu cynharu â thlysau neu deganau:
“Evan, Morfydd, Dafydd a Dyddgu, wedi’u diffeithio gan friwiau yn llidio maint swllt, yn berwi fel marwor llosg, afalau dig, trist yw’r meistr hwn o’r pennill brathog, ei dlysau ar goll am byth”. 5
Dim ond llaw cariad, pryder a galar fyddai’n gallu cynnig y fath disgrifiad trist o’i blant.
Roedd marwolaeth Ieuan Gethin wedi sbarduno tywylltiad o alar ymysg ei gyd-feirdd, ac roedd un ohonynt, Iorwerth Fynglwyd, wedi cyfansoddi galarnad 6 sy’n aros fel teyrnged deimladwy hyfryd iddo:
“Torrodd ei farwolaeth fwa’r awen:
Gwisgwyd llys Llan Baglan mewn dillad gwae
Tawelwyd canu’r beirdd hyd yn oed,
Lapiwyd popeth gan dywyllwch nos.
Nid yw’r medd a fragir yn Nedd bellach yn denu’r bardd,
Gwelwyd eisiau chwerthin, cerddi ac anrhegion.
Roedd pob forwyn wen, ac hyd yn oed y cŵn porthiannus a’i hoff farch yn galaru eu meistr;
Marw yw Solomon y beirdd a phroffwyd Baglan.
Sant oedd Ieuan Gethin, ac roedd y saint yn y nefoedd yn cydganu gydag ef.”
Yn ei thraethawd hir yn trafod hanes llenyddol ardal Afan Nedd, mae’r hanesydd o Bort Talbot, Sally Roberts Jones, yn dweud:
“Roedd Ieuan Gethin ei hun yn fardd ond, fel disgynnydd Arglwyddi Afan roedd hefyd yn noddwr ac yn croesawu beirdd eraill i’w gartref ym Mhlas Baglan. Mae’n werth pwysleisio bod Ieuan Gethin o dras tywysogaidd.” 7
Gan ymhelaethu ar y cyfeiriad bod Plas Baglan yn noddi beirdd Cymreig eraill, mae’n atgoffa’r darllenydd o honiad Iolo Morganwg bod un o ddigwyddiadau barddol mwyaf dadleuol barddoniaeth Gymreig y canol oesoedd wedi’i gynnal ym Mhlas Baglan, yn cynnwys un o feirdd mwyaf Cymru y canol oesoedd, Dafydd ap Gwilym a bardd o’r enw Rhys Meigen, a’r ddau ohonynt wedi cynnal ymryson a elwir Cyff Cler. Roedd hyn yn draddodiad yn ymwneud â bardd yn cael ei drin fel testun gwawd a miri gan ei gyd-feirdd.
Felly cawn hanes y bardd Dafydd ap Gwilym yn cyrraedd Plas Baglan ar gyfer Eisteddfod yn nyddiau Lleision, tad Ieuan. Roedd bardd arall, Rhys Meigen, hefyd yn bresennol ac wedi gwawdio a sarhau Dafydd, a oedd wedi ymateb mewn eisteddfod arall yn Emlyn yn y flwyddyn ganlynol; roedd y gerdd newydd mor frathog ei dychan fel bod Rhys Meigen wedi syrthio’n farw yn y fan a’r lle.
Roedd y pennill canlynol, y dywedir i Feigen ynganu ym Mhlas Baglan, a oedd wedyn wedi arwain at ei farwolaeth sydyn, wedi cyfeirio’n gudd at amgylchiadau geni’r bardd mawr:
Mil, tri chant, meddant i mi – y ganwyd
Yn genaw dan lwyni
Gwr o`th han garw`th enwi
Mab Gwilym Gam gydgam, gi.
When Christ was thirteen hundred years old
Was born a base child, so I`m told;
And if the cub must bear a name
Swear it to Will, ycleft the Lame ! 8
Dylid cydnabod bod academyddion, yn gyffredinol, yn gwgu ar yr honiad bod y diwgyddiadau hyn wedi cymryd lle ym Mhlas Baglan, a’r casgliad cyffredinol yw bod Iolo Morganwg wedi gwneud y cysylltiad ar ôl darllen am ffrae farddol go-iawn rhwng Ieuan Gethin a dyn arall o’r enw Rhys, o bosib y Rhys ap Siencyn o Aberpergwm y cyfeiriwyd ato ynghynt.
Fel y nodwyd uchod, nid oedd angen i Ieuan Gethin, disgynnydd tywysogion ac aelod o’r dosbarth bonedd, fod yn fardd proffesiynol. Esiampl o’r ail grŵp oedd Gruffudd ap Maredudd, sy’n fwy adnabyddus wrth yr enw Casnodyn.9 Wedi’i eni a’i fagu yng Nghilfai (Kilvey), ardal a oedd o dan reolaeth uniongyrchol Arglwyddi Afan, roedd yn nodedig am ei allu ym mesurau caeth traddodiadol barddoniaeth Gymreig. Ni wyddys p’un ai roedd yn ymwelydd cyson â Phlas Baglan, ond byddai’r fath ymweliadau wedi bod yn rhan o’i ddyletswyddau proffesiynol. Byddai ganddo wybodaeth eang o Gymru ei hun, ei hanes, enwau lleoedd ac achau ei theuluoedd hynafol, gyda’r cyfan yn cyfrannu at wead ei farddoniaeth dysgedig. Byddai galwadau ei noddwyr a’i gyfleoedd am gyflogaeth yn golygu ei fod, yn ddyn ifanc, yn trin y rhan fwyaf o Gymru fel ei blwyf ei hun, gan fynd ar daith o gwmpas Cymru, sef cylch Cymru, a chaffael math o brentisiaeth barddol drwy ddiddanu’r uchelwyr neu deuluoedd mwyaf nobl y wlad. Mae parch Casnodyn at fesurau caeth barddoniaeth Gymreig wedi’i gydnabod gan yr Oxford Companion to the Literature of Wales fel a ganlyn:
‘This scholarly exponent of an ancient tradition frequently inveighed against the low standards of the poetasters, making it clear that he would not be counted among their number.’
Traeth Aberafan a Bryn Cilfai yn y cefndir, lle y ganwyd Casnodyn; roedd y ddwy ardal o dan reolaeth Tywysogion/ Arglwyddi Afan tan canol y 14eg ganrif
Does dim dwywaith y byddai trigolion Plas Baglan, cartref hynafiaid tywysogion olaf Cymreig Morgannwg, wedi cael eu diddanu gan feirdd megis Casnodyn yn negawdau cyntaf y 14eg ganrif. O ganlyniad i’w hyfforddiant, y beirdd hyn oedd cynheiliaid traddodiadau diwylliannol cyfoethog hen deyrnas Morgannwg, gan drosglwyddo eu gwybodaeth barddol yn ddiwyd o un genhedlaeth i’r nesaf, ac yn amddiffyn yn selog eu hawliau a llên.
Mae Saunders Lewis, un o wŷr llên mwyaf Cymru yr 20fed ganrif, yn cyferirio at y farddoniaeth a gyfansoddwyd gan Ieuan Gethin a’i ddilynwyr gan ddweud ei fod yn arddangos:
‘Corff urddasol o feddwl a myfyrdod ar werthoedd eu cymdeithas sy’n meddu ar werth parhaol, yn cyflwyno darlun cyfoethog o wareiddiad sefydlog. Eu diben oedd myfyrio ynghylch y gwareiddiad hwn yn ddi-baid gan ychwanegu ato’n dawel, a throsglwyddo eu darlun ohono o oes i oes.’10
Mae cerddi Ieuan Gethin yn cynnig i’r hanesydd llenyddol enghraifft ddiddorol o aelod diwylliedig o’r dosbarth bonedd a oedd wedi meistroli cymlethdodau crefft y bardd.
CYWYDD IEUAN GETHIN I OWAIN TUDOR, tua 1437 11
Mae Ieuan Gethin yn cychwyn y gerdd gydag atgof o’i ddioddefaint ei hun tra’n alltud, ac yn cynnig gweddi dros ‘flodyn’ y tŷ a oedd wedi bod yn gefn iddo. Os, fel yr adroddwyd, roedd traed Owain wedi’u gosod mewn hualau, yna y byddai Gethin, gan ddefnyddio ei ddannedd yn eu ryddhau gyda chân. Mae’n parhau gan ddweud:
“Ni chafodd ei arestio am ladrad neu frad, neu chwaith am ddwyn ceffyl neu fynd i ddyled, ond am briodi merch Brenin tir-gwin Ffrainc, ac o’u hundeb bu eisoes barwniaid dewr, wyrion brenin arall.”
Mae’n gorffen y cywydd gan ddweud:
Y mab, mae gennym obaith,
A ddêl cynt o ddwylo caith.
Y dug hael glandeg o hyd
O lân Gaer Loyw a’n gweryd:
Cymrodedd Cymro ydiw
Â’i gariad gwych, garw du gwiw.
Rhoed Duw i’r gwalch balch bylchlyn
Fywyd hir i fyw at hyn.
Awch lid ei fwyall achlân
Enilled Owain allan
Yn rhwydd wrth yr arwyddion,
Yn rhydd i Benmynydd Mon!
‘Mae gennym obaith y bydd mab (Tydyr) yn dianc rhag eu crafangau yn fuan. Dylai dicter brwd yr aderyn du hyfryd (Katherine, cyn-Frenhines Lloegr) ennill rhyddid Owain; yn hawdd hefyd, trwy ddewiniaeth; yn rhydd er mwyn Penmynydd, Môn.’
Yr hen garchar Newgate.
https://commons.wikimedia.org/wiki/
CYFEIRNODAU
1. OWEN, Ann Parry, `An audacious man of beautiful words`: Ieuan Gethin (c. 1390- c.1470) yn Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 2014, t.1-39
2. LEWIS, C.W. The Literary Tradition of Morgannwg down to the Middle of the 16th century yn PUGH, T.B. ed Glamorgan County History, Vol. III, t.497-499
PHILLIPS, D.R, The History of the Vale of Neath, Yr Awdur, 1926, t.488-491
3. OWEN, Ann Parry, `An audacious man of beautiful words`: Ieuan Gethin (c. 1390- c.1470) yn Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 2014, t.1-39
4. OWEN, Ann Parry, Gwaith Ieuan Gethin. Aberystwth: Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, 2013
PHILLIPS, D.R, t. 471-479
5. JOHNSON, D. gol. Galar y Beirdd: Marwnadau`r Plant / Poets` Grief: Medieval Welsh Elegies For Children Tafol, 1993, t. 72-5, 80-7
6. JONES, H. Ll and ROWLANDS, E. I. Gwaith Iorwerth Fynglwyd, University of Wales Press, 1975, poem 29
7. JONES, S,R. The Literary Tradition of the Neath and Afan Valleys, Maesteg and Porthcawl, M. Phil. Thesis, Swansea University, 2008, t. 30-31
8. DAVIES, L. Outlines of the History of the Afan District, Yr Awdur, 1914, p. 64
9. STEPHENS, M. ed The New Companion to the Literature of Wales, University of Wales Press, 1998, p.93
10. STEPHENS, M. Wales in Quotations, University of Wales Press, 1999
11. OWEN, A.P. t. 8-13, 23-26