Tywysogion Afan
- Tywysogion Afan
- Pennod 1 Dihirod neu Arwyr?
- Pennod 2 Seliau Swydd
- Pennod 3 Y Siartir Aberafan
- Pennod 4 Lle yr Oeddant yn Byw
- Pennod 5 Lle yr Oeddant yn Addoli
- Pennod 6 Safeleoedd Canoloesol Eraill yn Gysylltiedig a Llinach Afan Wallia
- Pennod 7 Ieuan Gethin a Beirdd Eraill
- Pennod 8 Llinell Amser sy’n Berthnasol i Dywysogion Afan
- Pennod 9 Tywysogion Afan yn y Cyd-destun Ehangach
- Pennod 10: Diwedd y Llinach yn Aberafan
Pennod 8: Llinell Amser sy’n Berthnasol i Dywysogion Afan
Wrth ymchwilio i hanes Morgannwg yn y canol oesoedd rhaid wynebu dwy broblem fawr: yn gyntaf y diffyg ffynhonellau dogfennol cynnar o’r ochr Gymreig ac, yn ail, yr hyn y mae’n rhaid ei alw’n ‘hanes chwedlonol’ diweddarch Morgannwg, sef stori’r Deuddeg Marchog a storïau Iolo Morgannwg.
Does dim dwywaith bod amrywiol dywysogion Cymru yn cadw eu harchifau eu hunain – roedd Iorwerth I wedi symud ymaith llwyth sylweddol o lys Gwynedd wedi iddo orchfygu ei dywysogion – ond bach iawn, neu ddim, o’r rhain sydd wedi goroesi. Mae archifau Abaty Margam yn eithriad ond, er eu bod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth, dim ond mor bell maen nhw’n mynd. Ac o ran yr ‘hanes chwedlonol’ mae hyn yn llai na bod o gymorth. Aelod o’r teulu Stradling oedd wedi cynhyrchu stori’r Deuddeg Marchog mewn ymgais i ddangos bod ei gyndeidiau wedi bod yn rhan o’r lluoedd Normanaidd a oresgynnodd y wlad wedi 1066. Aeth ati i gyfuno stori gorchfygu Rhys ap Tewdwr, Brenin Deheubarth, gan Bernard de Neufmarche yn 1093, gydag ymosodiad Robert Fitzhamon ar deyrnas Morgannwg tua’r un adeg. Roedd hyn wedi cynnwys Iestyn ap Gwrgan, un o gyndeidiau tywysogion Afan, ond roedd y ddau yn ddigwyddiadau gwbl gwahanol.
O ran Iolo Morganwg (1747-1826), roedd yn hynafiaethydd a oedd wedi gadael i’w angerdd at ei Forgannwg brodorol ei arwain at greu (ffugio) storïau a gweithiau llenyddol a dderbyniwyd, am flynyddoedd lawer, fel rhai gwir. Oherwydd bod nifer o’r ffynonellau posibl wedi diflannu yn ystod y ddwy ganrif oddiar ei farwolaeth, erbyn hyn nid yw’r bosibl gwybod pa faint, os o gwbl, o’i ddeunydd hanesyddol sydd yn wirionedd ond, hyd yn oed heddiw, mae’n dal i ddylanwadu ar yr hyn sy’n cael ei ysgrifennu.
Mae hanes Tywysogion Afan yn dechrau y c.1093 wrth i Bernard de Neufmarche daro i lawr o’r Mers gogleddol tuag at Aberhonddu a oedd y pryd hwnnw wrth galon teyrnas Brycheiniog. Yno roedd wedi dod ar draws, a gorchfygu, Rhys ap Tewdwr, Brenin Deheubarth (Gorllewin Cymru). Lladdwyd Rhys, ac roedd y Normaniaid wedi mynd yn eu blaen i’r gorllewin i Benfro, lle roeddent wedi adeiladu castell. Yn y cyfamser, roedd Robert Fitzhamon, cynghreiriad agos y Brenin Gwilym II wedi dechrau symud i Went a Morgannwg.
Gweler ein llinell amser:
1066 Gwilym o Normandi yn ymosod ar Lloegr a dod yn Frenin arni.
1067 Dechrau adeiladu Castell Casgwent. Am y tro roedd yn ymddangos taw’r bwriad oedd amddiffyn Caerloyw o unrhyw ymosodiad gan y Cymry, yn hytrach nag ymosod ar Gymru.
1081 Mae Gwilym yn mynd ar bererindod i Dyddewi ac, yn ystod ei daith mae’n dod i gytundeb ariannol gyda Rhys ap Tewdwr, Brenin Deheubarth.
1087 Marw Gwilym. Mae ei fab, Gwilym Goch, yn mabwysiadu polisi mwy ymysodol tuag at Gymru.
1089 Robert Fizhamon yn dechrau goresgyniad Morgannwg, gan sefydlu ei bencadlys yng Nghaerdydd. Mae’n meddiannu iseldiroedd y Fro cyn belled ag Ogwr / Cynffig.
1093 Rhys ap Tewdwr yn cael ei orchfygu yn Aberhonddu. Tua’r un adeg mae Iestyn ap Gwrgan, Brenin Morgannwg, yn diflannu o’r cofnodion. Mae ei fab hynaf, Caradog ap Iestyn, yn sefydlu ei hun fel Arglwydd cyntaf Afan, rheolwr tiroedd sy’n cynnwys y tir rhwng yr afonydd Afan a Nedd, ac yn ymestyn i’r mewndir cyn belled ag Hirwaun.
1105 Mae Fitzhamon yn cael ei anafu’n ddifrifol tra’n brwydro yn Ffrainc ac yn marw dwy flynedd yn ddiweddarach yn 1107, gan adael ei ferch Mabilla fel ei etifedd. Mae gwaith Fitzhamon ym Morgannwg yn cael ei ddwyn ymlaen gan ei berthynas Robert de Granville.
1119 Mabilla yn priodi Robert o Gaerloyw, mab hynaf (er yn anghyfreithlon) Harri’r I; yn 1121/2 mae Robert yn cael ei ddyrchafu’n Iarll Caerloyw. Mae’n adeiladu Castell Caerdydd. Gan fod gofyn cyson bod Robert yn cefnogi ei dad wrth iddo ymgyrchu, mae de Granville yn parhau i weithredu fel gwarcheidwad ei diroedd ym Morgannwg.
1129 Mae de Granville yn sefydlu Abaty Nedd, yn wreiddiol at ddefnydd urdd y mynachod Safinaidd. Mae ambell ffynhonnell yn sôn bod ei wraig, Constance, a oedd wedi cyd-sefydlu’r abaty gydag ef, yn Gymraes, ac, o bosib, yn perthyn i Iestyn ap Gwrgan. Mae’r abaty a chastell cyntaf Castell-nedd ar ochr orllewinol yr afon, y tu allan i Afan Wallia.
1136 Marwolaeth Harri’r I yn golygu bod y Cymry yn codi yn erbyn y Normanaid ledled y wlad ac, yn Ne Cymru, mae hyn yn cynnwys Gruffudd ap Rhys, tad yng nghyfraith Caradog ap Iestyn. Er nad oes unrhyw ddogfennaeth yn bodoli i dystio bod Caradog a’i frodyr yn rhan o’r digwyddiad, mae’n debygol iawn eu bod yn bresennol ym Mrwydr Llwchwr ar dir comin Garn Goch yng Ngwyr, ar Ddydd Calan, 1136. Roedd y llwyddiant hwn i’r Cymry wedi arwain at weithredu pellach, sef marwolaeth Gwenllian, mam yng nghyfraith Caradog, tra’n ymladd, a buddugoliaeth arall i’r Cymry yng Nghrug Mawr, ger Aberteifi. (Yn eironig ddigon, ymysg yr arweinyddion ar yr ochr Normanaidd oedd cefndryd Caradog, meibion ei fodryb drwy briodas, y Dywysoges Nest). Erbyn hyn roedd y gwrthryfela rhwng etifeddion Harri’r I, sef Matilda a Stephen, wedi tynnu sylw’r Normaniaid ac felly, am rai blynyddoedd, dilynodd cyfnod o heddwch cymharol yng Nghymru.
1147 Robert o Gaerloyw yn sefydlu’r abaty Sistersiaidd ym Margam a’r mynachod Safinaidd yn Nedd yn cyfuno â’r urdd Sistersiaidd, er i’r ddau abaty aros yn sefydliadau unigol. Yn ddiweddarch yn y flwyddyn bu Robert o Gaerloyw farw, a chafodd ei ddilyn gan ei fab Gwilym.
1153 Ymosodwyd ar, a llosgwyd, Castell Aberafan gan Rhys a Maredudd ap Gruffudd. Nid yw’r cofnod ym Mrut y Tywysogion yn rhoi unrhyw reswm dros eu hymosodiad dim ond:
‘Yn y mis Mai canlynol roedd Maredudd a Rhys, meibion Gruffudd, gyda’i gilydd wedi ymosod ar gastell Aberafan ac, wedi iddynt ladd y garsiwn a llosgi’r castell, aethant ymaith oddiyno gydag ysbail ysbail anferth a chyfoeth di-rif.’
Mae fersiwn Peniarth ychydig yn wahanol ac yn dweud eu bod wedi llosgi tai. Mae’n bosib bod Gwilym o Gaerloyw, wrth iddo etifeddu wedi marwolaeth ei dad, a nodi bod Caradog ap Iestyn hefyd wedi mynd, wedi meddiannu’r castell, a bod ewythyrod Morgan ap Caradog yn ei ennill yn ôl ar ran eu nai.
1158 Ifor Bach Senghenydd, y prif Arglwydd Cymreig arall yn Ne Cymru, yn dringo i mewn i Gastell Caerdydd, yn cipio Gwilym o Gaerloyw, ei wraig a’i fab ac yn eu cario i ffwrdd i’r bryniau nes bod Gwilym yn cytuno dychwelyd y tiroedd yr oedd wedi’u dwyn oddiar Ifor. Mae’n debyg nad oedd Ifor wedi dioddef unrhyw gosb am wneud hyn.
1161 Mae’n debyg bod y cyfnod hwn wedi bod yn un aflonydd, heb fod yn frwydro agored, ond yn cynnwys ymosodiadau ar faenoriaid yr abatai ac, yn 1167, llosgi tref Cynffig, sef tref Normanaidd.
1175 Cafodd Morgan ap Caradog ynghyd ag arglwyddi Cymreig eraill eu galw i fynychu cyngor y brenin yng Nghaerloyw, mae’n debyg i ateb dros eu gweithredoedd. Dyma hefyd oedd blwyddyn y gyflafan yn y Fenni, pan roedd Gwilym Brewis wedi gwahodd yr arglwyddi Cymreig lleol i wledda yn ei gastell yn y Fenni, ac yna wedi’u lladd. Mae’n debyg taw mater o ddial personol oedd hwn, yn hytrach na gweithred wleidyddol.
1183 Bu farw Gwilym o Gaerloyw. Ymosodwyd gan y Cymry ar Gaerdydd, Nedd, Cynffig a Chastell Newydd (Pen y Bont ar Ogwr). Roedd yr ymosodiadau hyn yn ymdrechion ar y cyd gan Forgan ap Caradog, Rhys ap Gruffudd a meibion Ifor Bach; yn 1184 galwyd y rhain i gytuno heddwch gyda Harri’r II. Roedd Gwilym o Gaerloyw wedi gadael tair merch, a threfnodd y brenin bod Ioan, ei fab ifancaf, yn priodi un o’r rhain, Isabella, ac yn dilyn Gwilym fel Arglwydd Morgannwg.
1188 Roedd Gerallt Gymro wedi ymweld ag Abaty Margam tra’n hebrwng Esgob Caergaint ar ei daith drwy Gymru wrth iddo recriwtio dynion i’r Croesgadau. Roedd Morgan ap Caradog, a ddisgrifiwyd gan Gerallt fel ‘tywysog o’r wlad honno’ wedi’u harwain yn ddiogel wrth iddynt groesi’r afonydd Afan a Nedd. Does dim awgrym eu bod wedi teithio drwy wlad beryglus, dim ond delio â phroblemau’r llanw a sugndraethau.
1189 Rhoddodd Ioan Castell Newydd i Forgan ap Caradog. Mae’n bur amlwg bod y berthynas rhwng Ioan a thywysogion Afan yn gynhesach na’r un rhwng Morgan ap Caradog a Gwilym o Gaerloyw.
1200 Cafodd priodas Ioan (a oedd erbyn hyn wedi’i goroni’n Frenin) ac Isabella ei diddymu. Dychwelwyd iddi’r tiroedd ym Morgannwg, ond mae’n debyg bod Morgan ap Caradog wedi dal ei reolaeth ar Gastell Newydd.
1204 Roedd Lleision ap Morgan ap Caradog a’i ewythr Gruffudd ap Ifor Bach, yn Normandi gyda 200 o filwyr, yng ngwasanaeth y Brenin.
1208 Erbyn hyn roedd Lleision wedi etifeddu safle ei dad fel Arglwydd Afan. Roedd wedi cadarnhau grantiau ei dad i Abaty Margam; bu peth anghydfod ynghylch tir a rhentiau yn ystod y blynyddoedd canlynol, ond cafodd y rhain eu setlo heb elyniaeth mawr. Bu Lleision farw rhywbryd yn ystod yr ychydig flynyddoedd wedi hyn.
1217 Bu farw’r Brenin Ioan. Cipiodd Gilbert de Clare – oedd wedi priodi un o chwiorydd Isabella ac felly wedi etifeddu Arglwyddiaeth Afan – Castell Newydd yn ôl oddiwrth brawd ifancaf ac etifedd Lleision, Morgan Gam. Yn dilyn hyn bu rhai blynyddoedd o elyniaeth, ac er ni ymosodwyd ar abatai Margam a Nedd, ymosodwyd ar eu preiddiau a’u ffermydd.
1231 Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, yn symud yn erbyn De Cymru unwaith eto. Mae Morgan Gam, 4ydd Tywysog Afan, un o’i gefnogwyr mwyaf selog yn Ne Cymru, ynghyd â chyngreiriaid eraill, yn ymosod ar Gastell Nedd a Chynffig (lle mae’r menywod a’r plant, er syndod mawr i’r croniclydd, yn cael byw). Mae’r ymladd yn parhau tan 1233 pan mae Iarll Penfro yn ymuno fel cynghreiriad yn erbyn y brenin.
1240 Marwolaeth Morgan Gam; mae Lleision, ei olynydd, hefyd yn cefnogi Tywysog Gwynedd, a adwaenir yn well fel Llywelyn ap Gruffydd, Ein Llyw Olaf, gwir dywysog olaf Cymru, yn erbyn Harri’r III.
1245 Herbert Fitzmatthew, arweinydd byddin frenhinol yn erbyn y tywysogion Cymreig yn cael ei ladd ger Cwmclais, Cwmafan, yn ôl pob tebyg. Lleision ap Morgan Gam a’i gynghreiriaid yn cael eu galw i dyngu llw i Harri’r III.
1257 Llywelyn II, Tywysog Cymru, a’i gynghreiriaid yn cyrraedd y de ac yn ymosod ar Langynwyd a Chastell Nedd.
1267 Mae Gilbert de Clare (Gilbert Goch) yn cipio Senghenydd ac yn allyudio ei arglwydd i’r Iwerddon, gan adael Tywysogion Afan yr unig arglwyddi annibynnol Cymreig yn y de.
1282 Llywelyn II yn cael ei ladd, ac Iowerth I yn meddiannu Gwynedd. Mae gwrthryfela’r Cymry yn dod i ben am y tro.
1304 Mae Lleision ap Morgan Fychan yn cyhoeddi siarter i fwrdeistref Aberafan, yr unig arglwydd Cymreig ym Morgannwg i gyhoeddi dogfen o’r fath.
1314 Lleision yn amddiffyn Castell Cynffig yn erbyn gwrthryfelwyr Cymreig yn ystod y flwyddyn hon, ac yn ystod gwrthryfel Llywelyn Bren yn 1316.
1321 Mae Lleision yn ymuno â’r barwniaid yn eu gwrthryfel yn erbyn y Despenseriaid, Arglwyddi newydd Morgannwg a dewisddynion y brenin.
1337 Syr John d`Avene yn gwasanaethu gydag Iorwerth III yn Ffrainc ar ddechrau’r Rhyfel Can Mlynedd.
1350 Thomas d`Avene yn cyhoddi cadarnhad o siarter bwrdeistrefol ei ddatcu.
1359 Y cyfeiriad olaf at Thomas, mewn achos llys yn ymwneud â Chilfai. Wedi marwolaeth Thomas, cafodd yr arglwyddiaeth ei throsglwyddo i feddiant y Despenseriaid, er na chofnodwyd union amgylchiadau gwneud hynny.