Tywysogion Afan


Pennod 9: Tywysogion Afan: Y Cyd-destun Ehangach

Yn gyffredinol, mae Arglwyddi Afan wedi cael eu trin fel ôl-nodyn yn hanes Cymru y canoloesoedd. Mae un astudiaeth o’u hanes yn bodoli, gan A. Leslie Evans, ac a gyhoeddwyd yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Port Talbot, ac arolwg mwy diweddar gan Tim Rees, sydd hyd yn hyn heb ei gyhoeddi. Mae’r ddau yn arbennig o werthfawr oherwydd bod eu hawduron yn gallu tynnu ar wybodaeth leol, yn ddaearyddol ac y hanesyddol, ac felly maent yn unigryw o gymwys i ddangos bod yr Arglwyddi – neu, yn fwy priodol, Tywysogion – Afan yn llawer mwy na gweision bach gorchyfedig. Yn wir, ar yr olwg gyntaf, mae’n rhyfeddol faint roeddent wedi llwyddo i wneud heb eu cosbi, mae’n ymddangos, dros y blynyddoedd. Ond fel Tywysogion, roeddent hefyd yn gymeriadau ar lwyfan ehangach hanes Prydain, ac mae hyn hefyd yn rhan o’u hanes. Rhaid dechrau, felly, drwy ddarlunio’r cefndir a oedd yn bodoli wrth i Garadog ap Iestyn a’i deulu chwarae eu rhan.   

Mae hanes Cymru y canol oesedd wedi 1066 yn dueddol o gael ei weld mewn termau du a gwyn, gyda’r ymosodwyr Normanaidd buddugol ar yr un llaw a’r tywysogion Cymreig arwrol, gorchfygedig ar y llall. Mae hyn yn ddealladwy. Mae cyn lleied o dystiolaeth o ochr y Cymry, yn ddogfennol neu fel arall, wedi goroesi fel bod ffynonellau yr haneswyr yn deillio bron yn gyfangwbl o berspectif Seisnig. Hyd yn oed ar ddiwedd y cyfnod hwn, yn y 15fed ganrif, does gennym bron dim am Owain Glyndŵr a’i lywodraeth, fel bod hanesydd mor nodedig a R. R. Davies yn gallu sôn am Glyndŵr yn ‘chwarae ar fod yn dywysog yn Harlech’, neu’n ‘sleifio allan o hanes’. Ond pan edrychwn ar y digwyddiadau mewn cyd-destun ehangach, mae darlun gwahanol iawn yn dechrau ymddangos. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos Arglwyddi Afan, y tywysogion a oedd yn teyrnasu yng ngorllewin a gogledd yr hyn a elwir, erbyn hyn, yn sir Forgannwg.

Efallai y dylid cychwyn drwy ystyried cefndir cynnar Lloegr a Chymru. Er mae’n sicr bod tipyn o ymladd wedi digwydd, erbyn hyn mae’r archeolegwyr yn awgrymu bod yr Eingl-Sacsoniaid wedi cyrraedd y tir fel ymsefydlwyr yn hytrach na gwladychwyr. Mae awduron fel Gildas a Beda yn sôn am newyn a phlâu yn ystod y blynyddoedd yn dilyn ymadawiad y lluoedd Rhufeinig ac ‘rydym yn ymwybodol iawn heddiw faint o ddifrod y gall y fath drychinebau achosi. Mae dal ‘pentrefi coll’ i’w darganfod, lle roedd cymuned gyfan wedi’i dileu gan y Pla Du yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’n eithaf posibl bod y mewnfudwyr Sacsonaidd wedi cymryd mantais o’r lleihad yn y boblogaeth yn eu cartref newydd. Ond, er eu bod wedi rhyngweithio ar adegau gyda rheolwyr y wlad a oedd yn datblygu i fod yn Gymru, nid oeddent wedi gwneud ymgais ddifrifol i ychwanegu’r diriogaeth honno i’w tiriogaeth hwythau. P’un ai y cafodd Clawdd Offa ei adeiladu at ddiben rheoli masnach neu fel amddiffyniad rhag y ‘Cymry gwyllt’, mae’n dynodi ffin.

I gychwyn, roedd ‘Lloegr’ yn cynnwys nifer o deyrnasoedd: Wessex, Mercia, Caint, Bernicia a Deira (Northumbria yn ddiweddarach) ayyb. Roedd rhain yn annibynnol ond, ar brydiau, yn cydnabod lle blaenllaw un teyrn arbennig o bwerus fel Uwch Frenin answyddogol. Yna, tua’r flwyddyn 800, cyrhaeddodd y Northmyn, a adwaenir fel Daniaid ar yr adeg honno.  Roedd Alfred, Brenin Wessex, wedi’u gorchfygu ac yn ystod teyrnasiaeth ei etifeddion Edward ac Athelstan yn araf bach fe ymddangosodd teyrnas Lloegr. Ond nid oedd y Northmyn wedi gorffen. Yn ystod y 980au dechreuoedd eu hymosodiadu drachefn ac wedi Brwydr Maldon yn 991 dechreuoedd y Brenin Ethelred dalu’r Danegeld, ffurf ar flacmel a oedd yn sicrhau heddwch. Yna, yn 1013 roedd Sweyn Forkbeard wedi ymosod, ac roedd rhaid i Ethelred ffoi i Normandi (ei ail wraig oedd Emma, chwaer Rhisiart II o Normandi). Bu farw Sweyn y flwyddyn ganlynol a dychwelodd Ethelred, ac yna Edmwnd Ironside, ei fab gyda’i wraig o Sacsones, ei wraig gyntaf, ond doedd hyn ond yn seibiant byr. Pan fu farw Edmwnd, daeth Cnwt mab Sweyn, yn frenin. Roedd etifedd Edmwnd ond yn blentyn ac alltudiwyd ef a’i frawd, ac yn y pen draw cyrheddodd Hwngari, lle yr arhosodd tan 1057. Yn y cyfamser roedd Emma wedi priodi Cnwt a geni mab iddo, sef Harthacnut. Roedd Cnwt yn frenin ar Ddenmarc, Norwy a Lloegr ac, wedi marwolaeth Cnwt, profodd hyn yn ormod o faich i Harthacnut; aeth i fyw ar y cyfandir gan adael Lloegr yn nwylo ei hanner-frawd, Edward, a elwir ‘y Cyffeswr’. Roedd ef yn fab i Ethelred ac Emma ac wedi treulio llawer o’i ieuenctid fel alltud yn Normandi, felly pan ddaeth yn frenin roedd llawer o ddylanwad y Normaniaid yn ei lys.  

Bu Edward farw yn Ionawr 1066, heb adael mab i’w olynu. Roedd mab Edmwnd Ironside wedi dychwelyd o Hwngari yn 1057 ond wedi marw yn fuan wedi hynny, gan adael mab yn ei arddegau, Edgar yr Atheling, a dwy ferch, Margaret a Christina. Roedd Edgar wedi tyfu i fyny yn alltud ac er i’w hawliad gael ei ystyried, ni wnaeth ymgais i gymryd yr orsedd. Yn hytrach, penderfynodd y Witan, sef Senedd yr adeg, gynnig y goron i Harold Godwinsson, brawd yng nghyfraith Edward a’r mwyaf blaenllaw o’r bonheddwyr Eingl-Sacsonaidd. Ond roedd y Northmyn dal heb orffen. Roedd Harald Hardrada o Norwy a Gwilym o Normandi ill dau wedi hawlio gorsedd Lloegr, er nad oedd gan yr un ohonynt hawl gyfreithiol i’r deyrnas. Roedd Harald Hardrada yn seilio ei hawliad ar y ffaith bod Harthacnut wedi enwi’r Brenin Magnus, tad Harald, fel etifedd iddo pan roedd wedi ymddeol i’r Cyfandir ond, gan fod Cnwt wedi cipio’r orsedd, yn hytrach na’i hetifeddu, roedd ei hawliad yn amheus a dweud y lleiaf. O ran Gwilym, nid oedd ganddo hawliad tryw waed; hen fodryb Gwilym oedd Emma, mam Edward, ond roedd hyn y tu allan i linach yr Eingl-Sacsoniaid. Roedd Gwilym yn seilio ei hawliad ar y stori, nad oes iddo unrhyw dystiolaeth arall ond ei air ef ei hun, bod y Cyffeswr ar un adeg wedi addo’r orsedd iddo. Mae hefyd yn ymddangos ei fod wedi twyllo Harold Godwinsson i dynnu llw y byddai’n cefnogi hawliad Gwilym pan roedd Harold yn wystl/gwestai yn llys Gwilym. Hyd yn oed pe bai Edward wedi addo’r orsedd i Wilym, mae’n ddigon posibl y byddai’r Witan wedi amau ei hawl i wneud hynny.

Er nad oedd y Northmyn, neu’r Llychlynwyr fel y’u gelwir hefyd, erioed wedi sefydlu ymerodraeth ganolog ar batrwm y Rhufeiniaid roeddent, serch hynny, yn imperialwyr yn meddu ar rhwydwaith fasnach anferthol. Roeddent wedi sefydlu teyrnasoedd mewn llefydd mor amrywiol a Sisili a Kiev, sydd yn Wcrain erbyn heddiw. Roedd Normandi yn un o’u trefedigaethau, wedi’i sefydlu gan Rollo y Llychlynwr. Roedd ei anheddiad wedi ehangu’n raddol i fod yn Sir ac yna’n Ddugaeth ond, gan ei fod wedi’i leoli drws nesaf i Ffrainc, teyrnas hir sefydledig a llawer mwy o faint, roedd y cyfle i ehangu yn brin. Roedd Gwilym Goncwerwr yn oror-ŵyr i Rollo, a gwelodd bod y sefyllfa yn Lloegr, lle nad oedd gan y brenin etifedd, yn cynnig iddo yn hollol y cyfle roedd yn crefu amdano.

Yn Hydref 1066 roedd y Brenin Harold yn cael ei hun yn wynebu ymosodiadau ar ddau ffrynt. Yn gyntaf, ymosododd Harald Hardrada o’r gogledd, gyda chymorth Tostig, brawd anniddig Harold. Martsiodd Harold i’r gogledd gan orchfygu Hardrada ym mrwydr Pont Stamford, ond i ddarganfod bod Gwilym o Normandi wedi manteisio ar wyntoedd teg ac wedi glanio ar arfordir y de. Dychwelodd Harold i gwrdd ag ef, ac er nad oedd ei fyddin ar ei orau wedi’r frwydr a’r daith hir yn ôl i Swydd Sussex, roeddent wedi brwydro’n ddewr. Ond roedd tactegau’r Normaniaid a marwolaeth Harold yn ystod y frwydr wedi golygu bod Gwilym yn fuddugol. Doedd neb i gymryd lle Harold a, gan gofio bod ond ychydig, os unrhyw rhai o fonheddwyr Lloegr yn medru olrhain eu hachau i wreiddiau Sacsonaidd, mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o’i gyd-fonheddwyr wedi marw yn ei ymyl.

Ni wastraffodd Gwilym unrhyw amser i gadarnhau ei fuddugoliaeth a chymryd rheolaeth ar ei drefedigaeth newydd – oherwydd dyna oedd statws Lloegr erbyn hyn. (y dyddiau hyn ‘rydym yn anghofio hyn oherwydd canrif a hanner yn ddiweddarach fe gollwyd Normandi ei hun, a symudwyd pencadlys yr ymerodraeth newydd i Lundain). Nid yw’n hysbys p’un ai oedd gan Gwilym, yn wahanol i’w rhagflaenwyr Sacsonaidd, unrhyw gynlluniau i ehangu ymhellach ac amsugno Cymru hefyd – neu hyd yn oed Iwerddon – i’w deyrnas, er ei fod wedi bod ar bererindod i Dyddewi, taith a allai fod yn ffordd o ragchwilio’r posibiliadau.Serch hynny, nid oedd gan Wilym fyddin sefydlog, ac roedd wedi recriwtio amrywiol arglwyddi ac hurfilwyr eraill i’w ymgyrch. Roedd rhaid gwobrwyo’r dynion hyn, tasg hawdd ei wneud gydag eiddo atafaeledig y Sacsoniaid gorchfygedig. Roedd hyn yn ddigon i’w mwyafrif o’i ddilynwyr ond roedd posibilrwydd y byddai rhai yn eu mysg, y mwyaf grymus a oedd wedi ymuno ag ef, yn destun trafferth. Anturiwr oedd Gwilym, roedd ei hawl i’r orsedd yn amheus, ac efallai y byddai hyn yn rhoi syniadau i wyr fel y de Montgomerie. 

Datrysiad Gwilym oedd eu hanfon i ffiniau’r deyrnas lle y gallant weithredu fel amddiffynfa; os roeddent yn gallu ymestyn eu tiroedd i Gymru, wel, gorau gyd – yn ôl yr drefn ffiwdal roeddent yn dal eu tir drwy ras y brenin.  Anfonodd Hugh d`Avranches (Hugh Lupus) i Gaer, ac roedd yntau wedi aros yn ffyddlon. Rhoddwyd Iarllaeth Henffordd i William FizOsbern, cefnder y brenin ac, ar un adeg, ei warcheidwad; roedd modd ymddiried ynddo, ond bu farw yn 1071, ac roedd ei fab Roger de Breteuil, yn rhan o Wrthryfel y Ieirll yn 1075. Carcharwyd Roger ac ni chafodd ei ryddhau tan ar ôl marwolaeth Gwilym yn 1087. Ond roedd ei dad wedi dechrau symud tuag at Gymru, gan adeiladu castell cyntaf Casgwent, ac yna symud i Went cyn ei farwolaeth. Yn wahanol i gadarnleoedd eraill y Normaniad, adeiladwyd Castell Casgwent o’r cychwyn o gerrig, sy’n awgrymu ei fod wedi’i fwriadu fel pencadlys ar gyfer cyrch mawr i Gymru; ond roedd marwolaeth FitzOsbern`s mewn brwydr yn 1071 wedi dodi diwedd ar hynny am y tro. Daeth Casgwent o dan reolaeth y goron ac roedd gan Wilym mwy na digon ar ei blat i dawelu a threfnu ei deyrnas yn Lloegr, ac amddiffyn Normandi rhag Brenin Ffrainc.

Ar yr adeg honno roedd Cymru’n rhanedig, fel roedd Lloegr wedi bod, yn nifer o deyrnsoedd. Er y byddai, o bryd i’w gilydd, un arweinydd yn casglu darn mawr o’r wlad yn un uned fwy, drwy etifeddiaeth, priodas neu goncwest, nid oedd cyfraith Cymru yn cynnwys cyntaf-anedigaeth ac, yn dilyn marwolaeth y fath frenin,  byddai’r deyrnas unedig yn rhannu’n ddarnau unwaith eto, wedi’i rhannu rhwng holl feibion y brenin. (Efallai na fyddai pob un ohonynt yn cymryd ei ran, ond roedd gan pob un yr hawl i wneud hynny). Roedd dwy brif deyrnas: Gwynedd yn y gogledd, y tu ôl i amddiffynfa Eryri, a Deheubarth yn y de-orllewin. Roedd Powys, ar y ffin ddwyreiniol, yn bodoli ond, oherwydd ei ffin hir gyda Lloegr, roedd yn llai pwysig yn genedlaethol.  Yn y de roedd Gwent, a syrthiodd i’r Normaniaid o dan arweiniad FitzOsbern erbyn tua 1070, a Morgannwg a Brycheiniog ychydig ymhellach i’r gogledd. Rhys ap Tewdwr oedd brenin Deheubarth, Bleddyn ap Maenarch oedd brenin Brycheiniog, ac Iestyn ap Gwrgan oedd brenin Morgannwg. 

Mae’n debyg bod Bernard de Neufmarche yn rhy ifanc i fod wedi brwydro yn Hastings yn 1066 ond, yn ddiweddarach tua 1087, cafodd diroedd yn Swydd Henffordd a phriododd wyres Gruffydd ap Llywelyn ac Edith o Mercia. Yn 1088, wedi marwolaeth y Concwerwr ymunodd mewn gwrthryfel gyda’r nod o osod Robert, mab hynaf y Concwerwr, ar yr orsedd yn lle Gwilym Goch. Gorchfygwyd y gwrthryfel, ond mae’n debyg na chafodd y rhai a oedd yn rhan o’r cynllwyn unrhyw gosb. Yna, trodd Bernard ei sylw at Gymru – efallai dyna paham yr oedd wedi osgoi llid y brenin – ac erbyn 1091 roedd wedi cyrraedd Brynbuga. Yn nesaf, symudodd tuag at Frycheiniog, ac erbyn 1093 roedd yn wynebu Bleddyn ap Maenarch, brenin Brycheinog; apeliodd Bleddyn ar Rhys ap Tewdwr, brenin Deheubarth, am gymorth, ond yn y frwydr ddilynol lladdwyd Rhys a bu Bleddyn farw yn fuan wedyn. Roedd hyn yn gadael y ffordd i Ddeheubarth yn agored a symudodd Arnulph de Montgomerie, brawd Roger, Iarll Amwythig, drwy ganolbarth Cymru i Benfro, lle y dechreuodd adeiladu castell yn 1093. Y goresgyniad cyflym hyn o ganolbarth a de-orllewin Cymru, yn hytrach na rhamant y Deuddeg Marchog, oedd y cefndir i hanes Tywysogion Afan.  

Mae’n debyg taw un o deulu’r Stradling, yn 1561, a greodd y stori Deuddeg Marchog Morgannwg; ni chyrhaeddodd ei deulu yr ardal tan ymhell wedi cyrch gwreiddiol y Normaniaid, ond roedd am eu sefydlu fel rhan o fonedd gwreiddiol y Concwest. Ni wyddys p’un ai oes unrhyw wirionedd yn ei stori, ond mae’n bosibl bod Iolo Morgannwg wedi cymhlethu’r stori ymhellach yn nes ymlaen. Mae awdurdon yn debyg i wystrys yn tyfu perlau – mae angen arnynt ddarn o ffaith i ddechrau’r broses ond, wedi hynny, pwy a wyr pa rhai o’r ffeithiau sy’n wir? Serch hynny, mae digon o dystiolaeth yn weddill i ddangos taw stori yn unig yw hanes y Deuddeg Marchog. Mae’n werth cofnodi, serch hynny, ei fod yn cyflwyno Iestyn ap Gwrgan, hynafiad tywysogion Afan.

Yn ôl y chwedl roedd Iestyn, brenin Morgannwg, yn ymrafael â Rhys ap Tewdwr, brenin Deheubarth; roedd Iestyn o’r farn bod angen arno fyddin mwy o faint, felly gofynnodd i’w berthynas, Einion ap Collwyn, a oedd ar y pryd hwnnw yn Lloegr, i recriwtio rhagor o filwyr; yn gyfnewid byddai Einion yn cael merch Iestyn yn wraig iddo. Aeth Einion ati i recriwtio Robert Fitzhamon a’i ddeuddeg marchog, bu brwydr ym Mhenrys yn y Rhondda, a lladdwyd Rhys. Yna talodd Iestyn y Normaniaid, ond gwrthododd drosglwyddo ei ferch i Einion, fellly galwodd Einion y Normaniad yn ôl drachefn. Roeddent wedi gorchfygu Iestyn a chymryd meddiant ar Forgannwg, gan adael Einion heb briodferch neu wobr ariannol.

Roedd Iestyn y un o ddisgynyddion Rhodri Mawr, tua 820-878, cyfoeswr ychydig yn hŷn na’r Brenin Alfred, ac un o’r arweinyddion hynny a oedd wedi dod yn agos at greu un deyrnas yng Nghymru, a sy’n hynafiad i’r mwyafrif o deuluoedd tywysogaidd y wlad hyd heddiw (gan gynnwys teulu Windsor hyd yn oed). Ychydig y gwyddys am Iestyn ei hun; mae’n ymddangos ei fod heb fod o bwys cyn dod yn frenin ar Forgannwg yn 1091, yn dilyn Caradog ap Gruffydd, ac roedd ei deyrnasiad yn gymharol fyr, gan ddod i ben tua 1091 pan gipiodd y Normaniaid ei deyrnas. Efallai bod ei bencadlys gwreiddiol wedi bod yng Nghaerdydd, ac mae rhai yn awgrymu taw fe oedd yn gyfrifol am adeiladu’r castell cyntaf yng Nghynffig. Dywedwyd ei fod wedi bod yn briod o leiaf ddwywaith, yn gyntaf â Denis, a oedd yn fam i sawl un o’i blant ac yna gydag Angharad – a elwir Constance ambell waith – merch neu wyres Elystan Glodrydd, a oedd hefyd wedi geni plant iddo. Mae rhai ffynonellau hefyd yn ychwanegu trydedd wraig, Dyddgu, priodas a oedd heb blant. Mae’r seyllfa’n cymhlethu oherwydd mae’n debyg bod cymaint â thri Iestyn ap Gwrgan ar tua’r un cyfnod. Yn od iawn, nodwyd bod Caradoc, ei brif etifedd, yn fab i’w ail briodas gydag Angharad – er bod Denis yn enw rhyfedd i Gymraes y cyfnod hwnnw, ac mae wedi’i awgrymu bod yr enw wedi’i gamddeall, a’i fod yn cyfeirio at Dinas, fel yn yr enw lle Dinas Powys lle y mae’n bosibl yr oedd ganddo lys, felly efallai taw dim ond un briodas oedd wedi’r cyfan. Ni fyddai hyn o bwys arbennig onibai bod gan Syr Richard de Granville, sylfaenydd Abaty Nedd, is-gapten ac efallai brawd Robert Fitzhamon, y byddwn yn dod ar ei draws gyda hyn, wraig o Gymraes o’r enw Constance, efallai gwraig neu chwaer Iestyn ap Gwrgan. Mae Iestyn ei hun yn diflannu o’r golwg tua 1091-1093, o ganlyniad i’r cyrch Normanaidd efallai, er nad oedd gan ei ddiflaniad, yn ôl pob tebyg, unrhyw gysylltiad uniongyrchol gyda gorchfygiad Rhys ap Tewdwr yn Aberhonddu. Dywedir iddo ymddeol i `Censam`, sefydliad crefyddol – fel arfer mae wedi’i drawsgrifio fel `Keynsham`, er ni sefydlwyd yr abaty hwnnw tan 1169; mae’r cyrchfannau eraill a awgrymwyd yn cynnwys Llangernyw yng Ngogledd Cymru, Llangennydd yn y Gwyr a Llangenys, yn Sir Fynwy, lle mae’r hanes yn honni iddo gael ei gladdu.

Dewisodd Gwilym I adael ei deyrnas i’w ddau fab, Normandi i Robert a Lloegr i Wilym Goch; er nad oedd Harri, y mab ieuengaf, heb dir, nid oedd wedi etifeddu teyrnas ei hun. Efallai taw bwriad ymweliad Gwilym â Thyddewi yn 1081 oedd archwilio’r sefyllfa yno ac asesu’r posibilrwydd o ychwanegu’r ardal at ei deyrnas – neu hyd yn oed mentro ymhellach ac ymosod ar Iwerddon. Fe ddaeth i gytundeb â Rhys ap Tewdwr, a oedd wedi tyngu llw o deyrngarwch iddo ac, yn ddiweddarach, wedi talu iddo’r swm o £40 y flwyddyn. O safbwynt Rhys roedd y trefniant yn cynnig iddo gynghreiriad defnyddiol rhag cystadleuwyr lleol, ac roedd yn helpu Gwilym i ddiogelu ei ffiniau. Ond roedd barwniaid Gwilym yn ddynion uchelgeisiol – yn enwedig y gynghrair rhwng Montgomerie a de Belleme, a phan fu farw Gwilym yn 1087, roeddent wedi gwrthryfela mewn ymgais i osod Robert ar orsedd Lloegr, yn lle Gwilym Goch. Sathrwyd ar eu gwrthryfel ond, yn 1088, rhoddodd Gwilym Goch tiroedd Caerloyw, a ildiwyd gan Roger de Breteuil yn dilyn gwrthryfel cynharach, i Robert Fitzhamon, cefnder a chefnogwr y Concwerwr. Symudodd Fitzhamon yn raddol i Went ac yna i Fro Morgannwg tan iddo gyrraedd Cynffig. Roedd wedi gadael y tir mynyddig, y blaenau, i’r Cymry, ac roedd hyn yn benderfyniad call; ymladd gerila, yn hytrach na brwydo mewn lleoliad, oedd arbenigedd y byddinoedd Cymreig, fel roedd Iwl Cesar wedi darganfod o’r blaen. Am ba bynnag rheswm, mae’n ymddangos nad oedd Fitzhamon wedi wynebu rhyw lawer o wrthwynebiad wrth iddo mynd yn ei flaen tan iddo gyrraedd Afon Cynffig, a dyma lle y mae hanes Tywysogion Afan yn cychwyn.

Yn gyffredinol, nid yw’n ymddangos bod haneswyr wedi nodi pwysigrwydd strategol cymharol arglwyddiaeth Afan. A bod yn deg, mewn cyd-destun gwbl Gymreig, roedd yn llai pwysig ond, cyn belled ag yr oedd Gwilym a’i etifeddion yn y cwestiwn, roedd yn hanfodol, yn rheoli fel yr oedd y brif ffordd i Orllewin Cymru a thu hwnt. Yn y lleoliad hwn mae’r mynyddoedd bron â chyrraedd y môr, ac roedd dwy groesfan afon, yr Afan a’r Nedd, yn ogystal â phorthladd ger hen Far Afan. Fel y gwyddys o hanesion Gerallt Gymro ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd y ddwy groesfan yn gallu bod yn beryglus, hyd yn oed heb y risg o ymosodiad o’r bryniau gan luoedd gelyniaethus, tra roedd yr harbwr yn golygu bod modd cyflenwi neu atgyfnerthu’r trigolion o’r môr, sef ffactor holl bwysig yn y cyfnod a’r lle hwnnw. Wrth gwrs, roedd modd torri ar draws canolbarth Cymru, fel roedd Arnulf de Montgomerie a Bernard de Neufmarche wedi gwneud, ond roedd hwnnw’n dod â’i broblemau ei hun.  Ac roedd rhaid cadw’r ffordd i’r gorllewin ar agor fel bod brenin Lloegr yn gallu sicrhau na fyddai ei farwniaid gwrthryfelgar ac uchelgeisiol yn cymryd drosodd yng Nghymru, a sefydlu teyrnas ei hunain, neu, fel arall, na fyddai unrhyw bwêr cystadleuol yn gallu ceisio ymosod ar Loegr gan ddefnyddio’r ffordd drwy Iwerddon a Chymru. (Roedd y Rhufeiniaid wedi anwybyddu’r posibilrwydd hwnnw oherwydd eu bod eisoes yn berchen ar pob cystadleuydd posibl arall, ond mae’r syniad bod goresgynwyr wedi gallu ei defnyddio fel man lansio wedi bod yn felltith ar Iwerddon byth oddiar hynny). 

Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth ddogfennol ynghylch yr hyn a ddigwyddodd pan gyrhaeddod Fitzhamon ardal Cynffig, ond does dim tystiolaeth o frwydro mawr. Yn 1081 roedd Gwilym I wedi trafod gyda Rhys ap Tewdwr ac, ym mhob tegyg, roedd Fitzhamon yn awr wedi trafod gyda Caradoc ap Iestyn a’i linach. O safbwynt Caradoc byddai hyn yn osgoi brwydro gwaedlyd a’r posibilrwydd – y  tebygrwydd? – y byddai’n colli’r dydd, ac yn ei adael gyda chryn dipyn o annibyniaeth; efallai ei fod nawr yn dal y tir oddiwrth y brenin, ond roedd y brenin ymhell i ffwrdd a theulu de Montgomerie wrth ei ymyl. O sfabwynt Fitzhamon hefyd roedd yn osgoi ymladd ac yn cynnig cyngrheiriad defnyddiol. Nid teyrnas Morgannwg mo Arglwyddiaeth Afan ond roedd o faint sylweddol, yn cynnwys y tir rhwng yr afonydd Afan a Nedd, ac yn ymestyn ymhell yn ôl at y blaenau. O ran Fitzhamon a’i olynwyr, roedd y trefniant yn osgoi rhyfela gerila brwnt ac yn sicrhau bod y lleoliad strategol hwn yn aros o fewn rheolaeth brenhinol. 

Mae tueddiad i feddwl am y Normaniaid fel bloc solet, ac efallai yr oedd hynny’n wir i raddau o dan teyrnasiad Gwilym I ond, wedi hynny, mae’n bosibl gweld datblygiad dau grŵp; ar y naill ochr y brenin a’i gefnogwyr ffyddlon ac, ar y llall, y barwniaid, yn awyddus am ragor o rym a chyfoeth. Nid oedd rhain yn grwpiau cwbl sefydlog, ond yn rhywbeth i’w ystyried ac, i’r Cymry, o leiaf yn y cyfnod cynharach, y brenin oedd yn cynnig yr opsiwn gorau. Roedd modd trafod gydag ef, rhywbeth nad oedd modd, yn gyffredinol, ei wneud gyda’r barwniaid. Bernard de Neufmarche oedd yn gyfrifol am farwolaeth Rhys ap Tewdwr, y de Braose oedd wedi gorchymyn lladd yr argwlyddi Cymreig yn y Fenni a de Londres yng Nghydweli oedd wedi gorchymyn dienyddio’r Dywysoges Gwenllian a’i mab. Ni fu tywysogion Afan erioed yn Gymry dof ond, fel deiliaid y brenin, roeddent yn cael eu trin gyda pheth parch; roeddent yn bobl i negodi gyda, yn hytrach na’i trin fel gweision bach.     

Drwy gydol hanes, o leiaf ymysg y boneddigion, roedd priodas yn fater o wleidyddiaeth, nid serch, felly’r nifer fawr o blant siawns brenhinol. Serch hynny, roedd gan Gymru fantais yn y mater hwn, oherwydd nid oedd bod yn anghyfreithlon yn rhwystr yn yr un ffordd ag yr oedd yn Lloegr; yng Nghymru, cyn belled ag yr oedd y tad yn cydnabod y plentyn, roedd ganddo yr un hawliau â phlentyn a aned o briodas. Roedd hwn yn rhywbeth a ddefnyddiwyd gan y ddwy ochr. Gan nad oedd Cymru’n deyrnas unedig yn yr un ffordd yr oedd yr Alban wedi datblygu i fod, byddai priodas rhwng mab brenhinol cyfreithiol a merch tywysog Cymreig (neu fel arall) yn cael ei ystyried yn ddimygus ar ochr y partner brenhinol. (Bron tri chant mlynedd yn ddiweddarach roedd y croniclydd Thomas o Walsingham o’r farn bod y briodas rhwng Edmund Mortimer a Catrin, merch Owain Glyndŵr, yn ‘ddirmyg’ o’r fath). Ond roedd merch frenhinol anghyfreithlon a oedd wedi’i chydnabod yn fater arall, yn ased diplomyddol defnyddiol. Yr esiampl mwyaf adnabyddus o hyn yw priodas Siwan, merch y Brenin Ioan, a Llywelyn ap Iorwerth – Llywelyn Fawr – ond mae esiampl defnyddiol arall i’w ganfod yn hanes Morgannwg y ddeuddegfed ganrif.

Bu Robert Fitzhamon yn ymgyrchu yn Ffrainc yn ogystal ag yng Nghymru ac, yn 1105, cafodd ei anafu’n wael; goroesodd am ddwy flynedd arall, ond ni wellodd yn llwyr o’i glwyfau, dyma efallai yw’r rheswm ei bod yn ymddangos y bu saib yn y symudiad tua gorllewin Morgannwg. Bu farw Fitzhamon yn 1107, gan adael merch, Mabilla, fel ei unig etifedd; roedd hi dal yn blentyn ar y pryd, ac o dan warchodaeth y brenin, a phenderfynodd y Brenin Harri ei phriodi i Robert, ei fab hynaf. Roedd Robert ei hun yn anghyfreithlon ond wedi’i gydnabod, a derbyniodd tiroedd Caerloyw, sef y tiroedd roedd ei dad-yng-nghyfraith wedi meddu arnynt, gan ddod yn Iarll Caerloyw yn 1122. Yn y cyfamser, bu Syr Richard de Granville yn gweithredu fel gwarcheidwad ystadau Fitzhamon. Nid oes unrhyw dystiolaeth yn bodoli ynghylch sut yr oedd wedi delio ag etifeddion Iestyn, ond mae’n debyg bod ei wraig, Constance, a oedd yn gysylltiedig ag ef wrth sefydlu Abaty Nedd, yn Gymraes, ac mae wedi’i awgrymu taw hi oedd naill ai gweddw neu chwaer Iestyn. Os hynny, mae’n awgrymu bod y polisi o wneud cynghreriaid wedi disodli grym noeth. Ni wyddys p’un ai oedd gan fam anhysbys Robert o Gaerloyw unrhyw gysylltiad â Chymru (er ei fod yn sicr nad Nest, merch Rhys ap Tewdwr, oedd hi, fel yr awgrymwyd unwaith), ond roedd Robert yn cymryd diddordeb yn ei diroedd Cymreig, gan ail-adeiladu Castell Caerdydd o gerrig a sefydlu Abaty Margam. Treuliodd llawer o’i amser mewn llefydd eraill, yn amddiffyn tiroedd ei dad yn Ffrainc, yn cefnogi ei hanner-chwaer Maud yn ei brwydr am goron Lloegr, ac ei is-gapten, Syr Richard de Granville, oedd yn gwarchod ei diroedd yng Nghymru. (‘Rydym yn dueddol o anghofio bod y Normaniaid, yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny, yn brwydro ar y ddwy ochr, yn amddiffyn eu tiroedd yn Ffrainc ac yn ymsefdlu eu hunain ym Mhrydain). 

Yn dilyn marwolaeth Rhys ap Tewdwr, aethpwyd a’i fab Gruffydd, a oedd dal yn blentyn i ddiogelwch yr Iwerddon, ond fe cymerwyd ei chwaer Nest yn wystl. Roedd hi hefyd yn ifanc ond, yn 1102 ganwyd iddi plentyn Harri, a oedd erbyn hyn yn frenin Lloegr yn dilyn marwolaeth Gwilym Goch. Erbyn hynny roedd Harri yn briod, priodas a oedd nid yn unig yn ei gysylltu â’r Alban, ond hefyd gyda’r llinach Eingl-Sacsonaidd cynharach, gan fod ei wraig Matilda yn ferch i Malcolm o’r Alban a Margaret, wyres Edmwnd Ironside. Mae’n bosibl y byddai Matilda yn llai hapus i weld Nest yn y llys nag y mae’n ymddangos ei bod gyda presenoldeb meistresi niferus eraill Harri, ond beth bynnag, priodwyd Nest i Gerallt o Winsor, castellydd Castell Penfro.  Yma hefyd roedd Harri’n gwneud cysylltiad gyda’r rheolwyr a fu, oherwydd pan y daeth brawd Nest yn ôl o’r Iwerddon a cheisio ad-ennill o leiaf rhan o deyrnas ei dad, mae’n debyg yr oedd, o dro i dro, yn gallu llochesu gyda’i chwaer a’i gŵr. Roedd Henry Fitzroy, mab Nest a Harri’r I, hefyd wedi atgyfnerthu’r cysylltiad Cymreig dryw ddod yn Arglwydd Arberth a Phebidiog yng Ngorllewin Cymru; roedd ei fab yntau, Meilyr, yn rhan o ymosodiad Strongbow ar yr Iwerddon ac, yn ddiweddarach, wedi dod yn Brif Ustus Iwerddon. 

Fel mae’n digwydd, mae Nest wedi’i portredu, yn annheg, fel menyw o anrhydedd amheus. Yn ymarferol, mae’n debyg nad oed ganddi llawer o ddewis unwaith bod Harri I wedi cymryd sylw ynddi, neu chwaith pan roedd Owain ap Cadwgan wedi’i chipio o Gastell Cenarth Bychan Castle – ar yr achlysur hwnnw roedd wedi helpu ei gŵr i ddianc rhag yr ymosodwyr, a dychwelodd ato yn ddiweddarach. Wedi marwolaeth Gerallt priododd unwaith eto. Ond mae ‘Helen Cymru’ yn llawer gwell stori na’r wraig ffyddlon a beth bynnag oedd hanes bywyd Nest, roedd ei phriodas â Gerallt yn dddechrau rhwydwaith o gyngrheiriaid a fyddai’n chwarae rhan bwysig yn hanes cynnar De Cymru y Normaniaid. Yn y lle cyntaf hi oedd mamgu Gerallt Gymro, y gŵr rhoddodd inni’r darlun ehangaf sydd gennym o fywyd yng Nghymru yn y ddeuddegfed ganrif. Roedd ef, o ran ei enedigaeth a’i yrfa, yn rhan o’r sefydliad Normanaidd, ond hefyd yn gwbl ymwybodol o’i dreftadaeth Gymreig. Er nad yw Gerallt yn dweud hynny, cefnder iddo oedd Morgan ap Caradoc, y dyn a hebryngodd Esgob Caergaint drwy Afan, ac mae’n debyg bod ei hanes cynhwysfawr o’r digwyddiadau yn yr ardal yn deillio nid yn unig o dreulio noson fel gwestai yn Abaty Margam, ond hefyd o wybodaeth deuluol.

Y Tywysoges Nest ferch Rhys mewn gwely gyda Henry 1 o Loegr
Llawysgrif wedi’i addurno gan Matthew Paris
Trwy garedigrwydd The British Library

Priodas Nest a Gerallt o Winsor oedd y cyntaf mewn rhwydwaith o gyngrheiriau yn cysylltu tywysogion De Cymru a theulu Harri’r I. Fel y soniwyd uchod, roedd brawd Nest wedi dychwelyd o’r Iwerddon ac wedi dechrau ceisio ad-ennill y deyrnas deuluol. Cyn belled ag roedd hyn yn y cwestiwn roedd ei yrfa yn un brith, ond yn y diwedd llwyddodd i ad-ennill y Cantref Mawr, sef Dyffryn Tywi, ac roedd ei etifeddion wedi gallu adeiladu ar hyn. Priododd ddwywaith ac, ymysg plant ei ail briodas gyda Gwenllian, chwaer owain Gwynedd, roedd dwy ferch, Gwladys a Nest. Priododd Gwladys Caradoc ap Iestyn o Afan, a phriododd Nest y prif arglwydd Cymreig arall ym Morgannwg, sef Ifor Bach Senghenydd. 

Yn y cyfamser roedd Robert o Gaerloyw wedi priodi Mabilla ac wedi cymryd arglwyddiaeth tiroedd Cymreig Fitzhamon; cafodd ef a Mabilla sawl plentyn, gan gynnwys eu hetifedd, Gwilym, ond roedd Robert hefyd yn dad i bedwar plentyn anghyfrethlon, a gafodd eu derbyn fel aelodau o’r teulu – roedd un yn esgob,un arall yn gastellydd Caerloyw ac enwyd y ferch Mabilla, ffaith sy’n awgrymu llawer o haelioni ar ran gwraig Robert. Priododd hi â Gruffydd, mab Ifor Bach Senghenydd, a oedd felly’n frawd-yng-nghyfraith i Wilym, ail Iarll Caerloyw. Yn y cyfnod cynnar hwn nid oedd priodasau rhwng y Normaniaid a’r Cymry yn anarferol, ac yn awgrymu bod parodrwydd yn bodoli i drafod materion. Os oedd Constance, gwraig Syr Richard de Granville, yn wir yn rhan o deulu Iestyn ap Gwrgan, yna efallai bod y briodas honno wedi agor i fyny’r posibiliadau. 

Ardal allanol Castell Penfro o’r de
Mario Sánchez Prada from Staines, United Kingdom, CC BY-SA 2.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/2.0>, via Wikimedia Commons

Tua 1158, ac wedi’i gythruddo gan gyrchoedd Gwilym o Gaerloyw i’w diroedd, dringodd Ifor Bach i Gastell Caerdydd, cipiodd Gwilym, ei wraig a’i etifedd a chariodd nhw ymaith i’r bryniau tan bod Gwilym wedi gwneud yn iawn iddo. Nid oedd Gwilym yn nodedig am ei haelioni, fel y mae hanes trist Canaythan y gwystl, a gafodd ei ddallu wedi i Morgan ap Caradoc anfodloni Gwilym, yn ein hatgoffa. Serch hynny, nid yw’n ymddangos bod Ifor Bach wedi cael ei gosbi am ei weithred. Efallai bod y cysylltiad teuluol yn golygu rhywbeth. Os hynny, efallai ni adeiladwyd Abaty Nedd (sefydlwyd yn 1129) ac Abaty Margam (sefydlwyd yn 1147) gyda’r bwriad o ffrwyno Arglwyddi Afan, ond i atgyfnerthu eu rheolaeth o groesfannau strategol yr afonydd Afan a Nedd. Dewisodd Mabilla, wyres Harri’r I, a’i gŵr Gruffydd o Senghennydd, gael eu claddu yn Abaty Margam.

Nid oes gennym braidd unrhyw wybodaeth am Garadoc ap Iestyn ar wahan i gyfeiriad ato ym Mrut y Tywysogion yn 1127, yn cofnodi bod Caradoc, ynghyd â dau o’i frodyr, wedi cyflawni ‘gweithred dreisgar’ amhenodol. Serch hynny, mae un cyfeiriad, yn 1153, at ymosod ar gastell Aberafan, a’i losgi i’r llawr gan Rhys a Maredudd o Ddeheubarth, brodyr-yng-nghyfraith Morgan ap Caradoc. Mae hyn yn ddirgelwch, ac wedi arwain at awgrymu, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bod y castell, ar y cychwyn, yn sefydliad Normanaidd, o bosib wedi’i adeiladu gan Garadoc ar orchymyn Fitzhamon neu ei olynwyr, a bod tywysogion Afan ond wedi dechrau byw yno yn 1304 pan gyhoeddodd Leisan de Avene ei siarter ar gyfer y bwrdeisdref. Er gwaethaf hynny, nid oes unrhyw farchog Normanaidd wedi’i gysylltu ag Aberafan yn y ffordd yr oedd, er enghraifft, y de Turberville yn gysylltiedig â Choety, ac mae’r traddodiad lleol yn cytuno taw dyma oedd castell Arglwyddi Afan. Hefyd, dywedwyd bod yr ymosodwyr wedi cario i ffwrdd swmp o ysbail, ffaith sy’n swnio’n annhebyg os taw garsiwn Normanaidd oedd hwn, yn hytrach na chartref. Mae’n bosibl bod y cyfeiriad yn gamgymeriad, wedi’i olygu ar gyfer castell arall mewn lleoliad amgen. Ond mae yna un posibilrwydd arall. Mae’n debyg bod Gwilym o Gaerloyw, wrth olynu ei dad, am sefydlu ei awdurdod a, fel y gwelwyd o stori Ifor Bach Senghenydd, a oedd hyn yn ymgais ychydig yn gynharach i wneud hyn ar ran Gwilym, gan arwain brodyr-yng-nghyfraith Morgan ap Caradoc i ddod i’w achub? 

DARLLEN YMHELLACH

DAVIES, John, A History of Wales, Allen Lane. The Penguin Press, 1993

DAVIES, R.R,, Conquest, co-existence and change 1063-1415, University of Wales Press, 1987

DAVIS, Paul R. Towers of Defiance: the castles and fortifications of the Princes of Wales, Y Lolfa, 2021

DAVIS, Paul R. Forgotten Castles of Wales and the Marches, Longaston  Press, 2021

EVANS, Gwynfor, Land of My Fathers, Y Lolfa, 1992

GERALD OF WALES, The Itinerary Through Wales and the Description of Wales, Penguin Books, 2004

MAUND, Kari, The Welsh Kings: Warriors. War Lords and Princes, The History Press, 2006

MOORE, Donald., The Welsh Wars of Independence, Tempus, 2005

PUGH, T.B. ed.  Glamorgan County History: Vol.III, The Middle Ages. Glamorgan County History Committee/University of Wales Press, 1971

TURVEY, Roger, The Welsh Princes 1063-1283, Longman, 2002

WILLIAMS, Gwyn, The Land Remembers, Faber & Faber, 1977

WILLIAMS, Gwyn A. When was Wales? Black Raven Press, 1985

Fel arfer, mae Leisan ap Morgan Fychan yn cael ei ystyried yr Arglwydd Afan a gafodd ei gymhathu o’r diwedd gan ei benarglwyddi, gan fabwysiadu eu harferion ac hyd yn oed eu steil ar enwau. Mae’n cael ei nodi fel Leisan de Avene (er mae’n ddigon posib bod hyn ond yn fersiwn Lladin o’i enw pan yr oedd Lladin dal i fod iaith unrhyw ddogfennau swyddogol. Yn yr achos hwn byddai D`Avene wedi bod yn fersiwn rhesymegol. Cafodd ei siarter ar gyfer bwrdeisdref Aberafan ei gyhoeddi o dan yr enw Leisan ap Morgan). Mae ei wraig yn cael ei chofnodi fel Margaret (neu Sibyl) de Sully – a’i hi, yn hytrach na Leisan a ddewisodd John a Thomas fel enwau i’w meibion? Dywedir taw ei hysbryd hi oedd i’w weld o gwmpas adfeilion y castell, sy’n awgrymu ei bod yn ffigwr gwydn.

Roedd cenedlaethau cynharach wedi priodi gwragedd Cymreig ond er bod pedwar Tywsog olaf Afan a’u plant wedi priodi Eingl-Normaniaid – Turberville a de Barri er enghraifft – nid oedd hyn yn anarferol, ac yn sicr ddim yn arwydd bod tywysogion Cymru, yng ngogledd neu dde Cymru, yn gwrthod eu cysylltiadau brodorol. Roedd etifedd Leisan, Syr John, wedi priodi Isabel de Barri a’u mab hwythau, Thomas, wedi priodi Maud, y mae ei henw yn awgrymu ei bod hi hefyd o dras Eingl-Normanaidd. Dywedwyd bod y teulu Turberville wedi dod i feddiant Coety drwy briodi etifeddes Gymreig, a phriododd Mallt, chwaer Morgan Gam, Gilbert de Turberville. Priododd Llywelyn Fawr Siwan, merch y Brenin Ioan. Efallai gan fod hyn mor aml wedi bod yn briodas rhwng tywysog o Gymro a gwraig Eingl-Normanaidd, nid yw ei berthnasedd wedi’i nodi’n llawn – mae gwragedd yn dueddol o gael eu hepgor o’r achau – ond roedd y math yma o ymbriodi yn nodweddiadol o’r Mers ac, mewn llawer ffordd, roedd Afan yn estyniad o hwn, a ddim yn golygu, fel sydd wedi’i awgrymu’n aml, bod un ochr neu’r llall wedi troi’n rhyw fath o gydweithredwr canoloesol. John a Thomas oedd meibion Leisan, ond Thomas a Morgan oedd meibion Thomas; rhywle yn y cymysgedd mae Leisan arall, felly mae’n ymddangos bod yr arfer o fabwysiadu enwau Seisnig ond yn un dros-dro. Roedd ceinciau eraill, megis teulu Ieuan Gethin ym Mhlas Baglan, yn dal i ddefnyddio enwau Cymreig.

Cyhoeddodd Leisan de Avene ei siarter tua 1304 a chyhoeddodd Thomas ei ŵyr siarter cadarnhaol yn 1349. Ond ychydig o gyfeiriadau sydd wedi hynny, ond mae’r rhain yn dod i ben tua 1359. Mae’r siarter nesaf, cwbl gwahanol, yn cael ei gyhoeddi yn 1373 gan Edward Despenser, olynydd de Clare fel Arglwydd Morgannwg; mae’r teulu Afan yn dal yn gadarn yn yr ardal ond mae’r arglwyddiaeth wedi diflannu. Mae’r hanes traddodiadol o’r hyn a ddigwyddodd yn dweud bod gan Thomas, arglwydd diwethaf Afan, ond un ferch, Jane, yn etifeddes iddo; priododd Syr William Blount ac yna roedd y pâr wedi cyfnewid eu tiroedd yng Nghymru am diroedd Despenser yn Lloegr, ac wedi symud ymaith i’w cartref newydd. Serch hynny nid oes unrhyw ddogfennaeth ynghylch hyn wedi goroesi ac, yn ei adroddiad ynghylch Arglwyddi Afan, mae Leslie Evans yn codi awgrym eithaf gwahanol. Darganfuodd bod dyn o’r enw Leisan d`Avene wedi ‘derbyn rhentau maenor Winderton ym mhlwyf Brailes, Swydd Warwick, am ei fywyd yn gyfnewid am werth 100 marc o dir yng Nghymru roedd Edward [Despenser] wedi derbyn o’r Leysant dywededig`. Gorchmynwyd bod ymddiriedolwyr maenor Winderton yn talu’r swm i Leisan fel blwydd-dâl o ddeg marc y flwyddyn. Yn ddiweddarach darganfuodd Evans bod person a gymerodd ei fod yr un Leisan yn gweithredu fel casglwr trethi yn Swydd Lincoln, ac yna’n derbyn ôl-feddiant maenor Frithby yn Swydd Caerlŷr ar farwolaeth y Fonesig Mary Belers. Rhaid cyfaddef bod y teitl casglwr trethi yn gallu bod yn gamarweiniol – roedd siryfion sirol yn gasglwyr trethi, ond roeddent yn cyflogi staff i wneud y gwaith casglu; ond, serch hynny,  rhaid dweud nad yw derbyn blwydd-dâl gwerth deg marc y flwyddyn, ac ôl-feddiant maenor yn swnio fel iawndal rhesymol am ildio arglwyddiaeth Afan.

A dweud y gwir efallai ei bod hi’n bosibl cysylltu’r ddau adroddiad. Yn 1340, er ei bod yn ymddangos bod Syr John d`Avene dal yn fyw, trosglwyddwyd gweithredoedd ei ystad i’w frawd Thomas, a oedd yna wedi’u trosglwyddo i feddiant Syr Robert de Penrice, er diogelwch. Yna cyhoeddodd Syr Robert weithred yn rhestri’r dogfennau yr oedd wedi’u derbyn heb gynnwys manylion ynghylch eu cynnwys. Roedd un o’r rhain yn indentur o gyfamodau a gytunwyd rhwng Leisan de Avene a Syr Thomas Blount, ac er nad yw’n hysbys beth oedd pwrpas neu gynnwys y cyfamod, mae’n dangos bod cysylltiad yn bodoli rhwng y ddau deulu.

Dyma oedd cyfnod y Rhyfel Can Mlynedd, felly yn 1373, gwelwn bod person o’r enw Leisan de Avene yn aelod o osgorddlu Despenser pan roedd yr olaf wedi ymuno â John o Gaunt a’r Tywysog Du mewn ymgais i godi’r gwarchae ar Aquitaine. Roedd Leisan yn un o dri sgweiar Cymreig a 49 saethwr a ymunodd â Despenser, o osgordd yn cynnwys 599 o ddynion. (Sgweiar yw’r radd islaw gradd marchog. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach roedd Owain Glyndwr hefyd wedi ymladd fel sgweiar mewn byddin frenhinol). Er taw dim ond tri sgweiar y mae’n bosib eu hadnabod o’u henwau eu bod yn Gymry, roedd hefyd nifer o fonheddwyr Eingl-Normanaidd Morgannwg ymysg byddin Despenser: Stradling, St. John, Berkerolles ac eraill. Erbyn hyn roedd cydbriodi yma, ac yn y Mers yn gyffredinol, ac wedi creu math newydd o grwpio cymdeithasol, na chafodd mewn rhai ffyrdd ei gydnabod, fel y byddai’n debygol bod Leisan yn teimlo ei fod ymysg ffrindiau, ac nid yn ddieithryn mewn byddin estron. Yn 1376 roedd Leisan yn Calais (ar yr adeg hwnnw roedd yn gilfach Seisnig) ac roedd yntau a rhyw John Martyn wedi derbyn, ar y cyd, taliad rhyfel o £100 am eu gwsanaeth yno; roedd Martyn, a oedd yn dod yn wreiddiol o Swydd Northampton, yn Calais am dros ugain mlynedd. Ymysg aelodau blaenllaw y fyddin Seisnig oedd Syr Walter Blount, ac er nad oes unrhyw gyfeiriad penodol yn cysylltu Syr Walter â Calais, roedd ei ddau fab hynaf a’i ŵyr yn gysylltiedig â’r dref fel ei reolwr a dau o’u drysoryddion.  Nid yw’n glir ar hyn o bryd pa mor arwyddocaol y gallai hyn fod, ond mae’n ffaith gwerth nodi.

Gan nad oes cofnod pendant yn bodoli o briodas Avene/Blount, mae wedi’i dybio yn y gorffennol, gan Leslie Evans ac eraill, bod y Leisan yma’n fab ac etifedd i Thomas d`Avene a’i fod wedi ildio ei etifeddiaeth mewn cyfnewid am ystadau yn Lloegr, ond mae hyn i’w weld yn annhebygol. Nid oes unrhyw ddogfennau’n bodoli sy’n nodi union faint arglwyddiaeth Afan, ac mae’n sicr bod peth ohono wedi’i drosglwyddo yn y gorffennol, nid y lleiaf i Abaty Margam, ond yn 1349 roedd Syr John d`Avene yn meddu ar dri ffi marchog yn Afan Wallia. Roedd ffi marchog yn cyfateb i’r tir oedd ei angen i gefnogi’r marchog ei hun, ei deulu a’i weision, ac yr oedd yn caniatau iddo gaffael arfau ac offer digonol i’w hun a’i osgordd pe gelwid arno i ymladd dros ei frenin. Yn fras, roedd hyn yn cyfateb â maenor – rhwng 1000 a 5000 erw, yn ddibynnol ar ffrwythlondeb y tir. Mewn inquisitio post mortem a gynhaliwyd yn 1349, rhestrwyd bod deiliadaeth Syr John yn werth £40 y flwyddyn; dywedir bod Leisan wedi cyfnewid gwerth 100 marc o dir am flwydd-dâl o 10 marc (£6/13/4); os oedd gwerth y deliadaeth yn flynyddol yn £40, yna roedd Leisan wedi taro bargen wael iawn. A phaham y byddai am gyfnewid swydd o beth pwysigrwydd am swydd fel casglwr trethi, hyd yn oed os nad oedd y swydd honno mor sylfaenol ag y mae’n ymddangos ei bod.

Os yw traddodiad, a rhai o’r achau yn gywir, a taw merch ddi-briod o’r enw Jane oedd etifedd Thomas d`Avene pan fu ef farw, yna Despenser byddai wedi penderfynu ar ei gwarchodaeth a’i phriodas; ni fyddai priodi un o deulu’r Blount wedi’i dirmygu a ‘does dim dwywaith y byddai ei gŵr Blount yn hapus i gyfnewid Afan Wallia am ystadau yn agosach at ei gartref. (Yn ddiweddarach roedd Syr George Blount o Sir Amwythig yn honni ei fod yn ddisgynydd o’r briodas Blount-d`Avene hon.) O ran Leisan, efallai nai neu gefnder Thomas, byddai caffael y darn yma o dir yn goron ar gaffaeliad newydd Despenser, gan adael Leisan yn rhydd i chwilio am yrfa mwy cyffrous yn y rhyfeloedd yn Ffrainc. Yn gynharach, roedd Syr John wedi cyfnewid ei faenor yn Sili am Lansawel, cyfnewidiad tebyg, er mwyn cydgrynhoi ei ystadau.

Mae’m annhebyg y byddwn byth yn gwybod sut yn union y daeth yr arglwyddiaeth i ben, ond nid oedd hynny’n golygu bod y teulu wedi dod i ben yn yr ardal neu thu hwnt. Os roedd y llinell hŷn wedi darfod heb etifedd cymwys, roedd dal nifer o geinciau iau yn bodoli, ceinciau a oedd wedi priodi’r bonheddwyr lleol a chynhyrchu eu hetifeddion eu hunain. Roedd rhain wedi ffynnu, ac wedi dal i wneud, gan osod eu marc ar hanes wleidyddol, diwydiannol a diwylliannol Cymru. Mae un gainc yn arbennig, sef cainc Rhys ap Morgan Fychan, brawd Leisan d`Avene, yn arbennig o nodedig am ei gyfraniad. Nid yw’n glir os oedd gan Dywysogion Afan gartref cynharach ym Maglan; cofnodir mewn Arolwg o’r sir a gynhaliwyd yn 1262 bod Morgan Fychan yn berchen ar hanner cwmwd ym Maglan ac, ar hyn o bryd, mae Plas Baglan yn cael ei ddyddio i ddiwedd y ddeuddegfed/ dechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, a dim ond arolwg archeolegol manwl all ddatgelu ei hanes cynnar mewn unrhyw fanylder. Beth bynnag am hynny, roedd Rhys ap Morgan Fychan yn byw ym Mlas Baglan ac, os yw’r dyddiad cynharach yn gywir, yna nid ef oedd wedi adeiladu’r Plas. Roedd o leiaf pedwar teulu pwysig yn ddisgynyddion iddo ef; y Thomasiaid, yn ddiweddarach y teulu Llewellyn o Neuadd Baglan; Evansiaid Llansawel, yr Evansiaid, yn ddiweddarach y teulu Mackworth o’r Gnoll a’r teulu Williams, Aberpergwm; roedd y teulu Williams, Blaen Baglan, hefyd yn perthyn i Rhys, ac wedi gadael ei hôl yn lleol. Y ddau ddisgynnydd y sonir amdanynt fynychaf yw Ieuan Gethin a theulu Williams, Aberpergwm. 

Roedd Ieuan Gethin yn goror-ŵyr i Rhys, etifedd Plas Baglan, ac yn cael ei gofio am ei farddoniaeth. Yn ffodus, mae digon o’i farddoniaeth wedi goroesi i ddangos ei ddawn a rhychwant ei ddeunydd, yn amrywio o sylwadau doniol ynghylch bywyd beunyddiol i farwnadau dwys i sawl un o’i blant, a bu farw o’r pla. Roedd nid yn unig yn fardd, ond hefyd yn noddwr beirdd, gan gadw tŷ agored iddynt ym Mhlas Baglan, ac mae cerddi o fawl iddo gan ddau fardd arall, Ieuan Du ac Iorwerth Fynglwyd, wedi goroesi. Mae’r dyddiadau a roddir am hyd ei oes yn amrywio – 1405–1464, 1437-1490. yn ei flodau 1450. Mae Iolo Morganwg yn honni ei fod ynghlwm â gwrthryfel Glyndŵr, a oedd wedi dod i derfyn yn 1415. Mae’n bosibl bod Iolo wedi’i gamarwain gan gerdd o fawl gan Ieuan i Owen Tudur, tadcu y Brenin Harri’r VII, ond mae cyfeiriad yn nodi bod Ieuan Gethin a’i wraig wedi derbyn pardwn yn 1410, ac mae hyn yn awgrymu eu bod wir wedi chwarae rhan yn ymgyrch Glyndŵr. Yn sicr, mae un o’r beirdd a ysgrifennodd cerdd o fawl iddo yn nodi ei fod yn rhyfelwr nodedig. Os yr oedd Ieuan Gethin wedi bod yn rhan o Rhyfeloedd y Rhosynnau – a bod ei ddiddordeb yn Owen Tudur yn deillio o hynny – hyd yn hyn nid oes unrhyw dystiolaeth.

Nid yw’n glir pwy oedd wedi dilyn Ieuan Gethin ym Mhlas Baglan. Mae’r achau Cymreig yn rhoi’r enw Williwm i’w etifedd, ond does dim tystiolaeth ohono ym Maglan ac nid yw ei enw wedi’i gynnwys ym marwnad Ieuan i’w blant; roedd ei frawd ifancach yn dal tir ger Corneli. Eva, a restrir weithiau fel chwaer Ieuan, tro arall fel ei ferch, oedd wedi cynnal y llinach ym Maglan. Roedd hi wedi priodi David ap Hopkin o Ynysdawe, a oedd hefyd yn ddisgynnydd o deulu Afan, ac eu trydydd mab, John ap David, oedd hynafiad y Thomasiaid, Plas Baglan, ac yn ddiweddarach, Neuadd Baglan, y symudodd y teulu iddo yn hwyrach yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn hwyrach yn yr ail ganrif ar bymtheg roedd aelod o’r teulu, sef Robert Thomas, yn un o’r ymneilltuwyr cynnar, yn gwasanaethu fel gweinidog i grŵp cymysg o Annibynwyr a Bedyddwyr a oedd wedi’u trwyddedu i gyfarfod yn Neuadd Baglan. Anthony, mab ac etifedd Robert, oedd awdur y disgrifiad o blwyf Baglan ar gyfer Parochialia Edward Lhuyd; nid yw ei erthygl yn hir iawn ond mae’n llawn manylion diddorol am yr ardal, gan gynnwys un o’r cofnodion cynharaf yn trafod peryglon cloddio am lo. Yng nghanol y ddeunawfed ganrif daeth llinell wrywaidd y Thomasiaid i ben, ond parhaodd y llinach drwy’r merched tan i Catharine Jones briodi Griffith Llewellyn, ei hun yn ddisgynnydd o Morgan Fychan, Arglwydd Afan, yn 1794. Wedi marwolaeth Mrs Harriet Llewelyn yn 1952 fe adawodd y teulu Neuadd Baglan am y tro olaf, a chafodd y Neuadd ei dymchwel yn 1958, ond mae adfeilion Plas Baglan yn dal i oroesi i dwyn tystiolaeth.  

Hopkin ap Evan, brawd Ieuan Gethin, oedd hynafiad y teulu Williams, Blaen Baglan, a theulu Williams Aberpergwm. Roedd ei oror-ŵyr William ap Jenkin yn dal Blaen Baglan ac wedi’i drosglwyddo i’w fab George, a gymerodd y llysenw Williams, fel y gwnaeth ei frawd Jenkin, a oedd wedi etifeddu deiliadaeth ei dad yn Aberpergwm, ac wedi ymgartefu yno. George oedd yn gyfrifol am adeiladu’r tŷ ym Mhlaen Baglan; er ei fod, yn y canrifoedd diweddarach, wedi gwasanaethu fel tŷ fferm syml, roedd yr adeilad Tuduraidd yn dŷ bonedd sylweddol, yn debyg i Lancaiach Fawr, ond ar ddau lawr yn unig, nid tri.

Mae’n bosibl taw George Williams yw’r mwyaf nodedig o’r gainc hon o’r teulu. Cariodd ymlaen i hybu’r traddodiad teuluol drwy noddi cerddoriaeth a llenyddiaeth, roedd yn Stiward maenorau Afan ac Afan Wallia ac hefyd yn Gwnstabl Castell Aberafan. Roedd Lewis Dwnn yn ei ddisgrifio fel cawr mewn brwydr, er nid yw’n hysbys lle yr oedd wedi ennill y teitl hwnnw. Yn sicr, roedd ganddo enw yn lleol am fod yn gymydog cyfreithgar a rhyfelgar, ac ymddangosodd ddwywaith o flaen Siambr y Seren yn Llundain yn 1584, mewn cysylltiad â llonddrylliad yn Aberafan, a hawliwyd gan Iarll Penfro a Syr Edward Mansel o Fargam, ac hefyd yn gysylltiedig ag ymosodiad arno gan nifer o ddynion lleol. Mae ei fedd, nid yn annhebyg i fedd y teulu Mansel yn Abaty Margam, ond heb ddelwedd o George a’i wraig, yn Eglwys St Mihangel, Cwmafan. Daeth ei linach i ben yn 1691, ac wedi hynny roedd Blaen Baglan yn gartref i gyfres o ffermwyr ond, wedi 1956 bu’n wag heb denant. Yn anffodus, mae cyfnod hir o esgeulusdod wedi’i adael mewn perygl o syrthio o’r diwedd.

Roedd tad George, William ap Jenkin, wedi prydlesi fferm a degwm Aberpergwm oddiwrth Leison Thomas, cyn abad Nedd, ac roedd wedi gadael hwn i’w ail fab, Jenkin, a sefydlodd ei deulu yno, tua 1560 mae’n debyg. Roedd y cenedlaethau olynol yn gyson wedi cynnal eu dyletswyddau dinesig fel aelodau o’r dosbarth bonedd lleol, ac roeddent yn noddi’r beirdd; er ei fod wedi’i gyflogi yno fel tiwtor teuluol, Dafydd Nicholas (1705-1774) oedd, i bob pwrpas, y bardd teuluol diwethaf yng Nghymru. Yr aelod mwyaf adnabyddus o’r teulu yw Maria Jane Williams (1795-1873). Roedd hi a’i siblingiaid wedi derbyn addysg da, ac roedd Maria Jane yn chwarae’r delyn a’r gitâr; roedd hi’n gysylltiedig â Chymreigyddion y Fenni, cylch y Fonesig Llanover ac enillodd wobr yn Eisteddfod y Fenni yn 1838 am ei chasgliad arloesol o ganeuon gwerin. Roedd hefyd wedi cyhoeddi casgliad o straeon gwerin o Gwm Nedd, ac roedd dilysrwydd y deunydd a gasglodd wedi derbyn clod mawr. Roedd ei brawd William wedi teithio’n eang ac yn ysgrifennu barddoniaeth. Er bod y teulu Williams yn dal yn berchen ar Dŷ Aberpergwm a’r ystad, ar ôl yr Ail Rhyfel Byd cafodd ei brydlesi gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a oedd wedi defnyddio’r tŷ fel swyddfeydd ac wedi cychwyn cloddio am lo yn y parc; yn y diwedd cafodd y tŷ ei adael i fynd yn adfael. 

Roedd dau ddisgynnydd arall o Rhys ap Morgan Fychan hefyd wedi sefydlu teuluoedd bonedd lleol. William oedd hynafiad y teulu Price, Ynysymaerdy, Llansawel, ac roedd ei ddisgynyddion wedi gwneud eu dyletswydd fel arweinyddion y sir, yn gwasanaethau fel ynadon, siryfion ac Aelodau Seneddol. Yn y diwedd daeth y teulu i ben gydag etifeddes, Jane, a briododd i deulu’r Manseliaid, Margam. Roedd ei mab, Bussy, yn gefnogwr nodedig o’r Senedd yn ystod y Rhyfel Cartref yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Serch hynny, bu farw Thomas, mab Bussy, heb etifedd a gadawodd ei ystad i’w fab bedydd, Bussy arall, a ddaeth yn Arglwydd Mansel o Fargam. Yn anffodus, roedd prif ystad Margam yn entailiedig ar yr ochr wrywaidd, a dim ond merch oedd gan Bussy; gadawodd hi ystad Llansawel, nad oedd yn entailiedig, i William Villiers mab ffrind, a fuodd hefyd farw heb etifedd, felly fe aeth y eiddo i’w frawd ef, yr Iarll Jersey.

Roedd Evansiaid y Gnoll hefyd yn ddisgynyddion i Rhys ap Morgan Fychan. Roeddent wedi ymsefydlu yn nhref Castell-nedd, er bod ganddynt hefyd dir yn y Gnoll. Roedd David ap Evan, goror-ŵyr Rhys ap Morgan, yn fasnachwr halen – yn y dyddiau hynny, cyn cyfnod yr oergell, roedd halen yn brif nwydd pwysig. Cafodd ei dadryddfreinio ar un adeg oherwydd iddo gymryd rhan mewn protest. Dilynodd ei fab David, a gymerodd y llysenw Evans, yrfa yn y gyfraith a fe oedd yr ail berson brodorol o Forgannwg i’w ethol yn AS. Ar yr adeg honno roedd y teulu’n byw yn y Tŷ Mawr yn nhref Castell-nedd. Nid yw’n glir pa bryd yr adeiladwyd y tŷ cyntaf yn y Gnoll – mae’n debyg bod hyn wedi bod yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg, ond mae darluniau o’r dref yn dangos tŷ o steil oes Elizabeth o flaen y plasty Mackworth diweddarach. Yn nes ymlaen, fel y digwyddodd mor aml yn y ddeunawfed ganrif, daeth llinach yr Evansiaid i ben gyda merch, Mary, a briododd hi Syr Humphrey Mackworth. Bu farw’r etifedd Evans-Mackworth diwethaf yn 1794, ond roedd y tŷ yn dal i sefyll tan iddo gael ei ddymchwel ar ôl yr Ail Rhyfel Byd; wrth lwc, erbyn hyn mae’r tiroedd, a gafodd eu tirlunio gan deulu Mackworth, yn barc cyhoeddus.

Er bod y teuluoedd hyn yn aml wedi dod i ben gyda phriodasau heb blant, roedd disgynyddion Caradoc ap Iestyn a’i frodyr mor ffrwythlon fel bod mwy nag ychydig ohonynt yn dal o gwmpas, ac yn aml yn chwarae rhan flaenllaw yng Nghymru a’r byd. Roedd R.D. Blackmore, yr ystyrir ei fod yn gymeriad archdeipaidd o Dde-orllewin Lloegr, yn ddisgynnydd drwy’r teulu Llwchwr, a lansiodd ei yrfa fel awdur a garddwr drwy werthu tir yn Aberafan roedd wedi’i etifeddu oddiwrth ei ewythr, Henry Hey Knight, ficer Castell-nedd. Roedd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru a’i frawd, yr hanesydd Prys Morgan hefyd yn ddisgynyddion y teulu Llwchwr ac, os ceir cadarnhad bod yr awgrym bob Powelliaid Carreg Cennen hefyd yn ddisgynyddion, yna rhaid ychwanegu William Wilkins, un o’r rhai a oedd yn gyfrifol am sefydlu yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ac am achub plasty Aberglasney, at y rhestr anrhydedd.